Croesawu pŵer cyfunol canu gyda chorau effaith cymunedol a ariennir gan y Loteri Genedlaethol
Heddiw, mae 122 o grwpiau cymunedol ledled Cymru yn dathlu derbyn cyfran o dros £6.5 miliwn, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y grantiau hyn yn helpu grwpiau i gyflawni eu gwaith pwysig ac amrywiol wrth gefnogi eu cymunedau.
Ymhlith y rhai sydd wedi derbyn grantiau mae dau gôr cymunedol, sy'n gwneud gwahaniaeth hanfodol i fywydau eu haelodau a'u cymunedau.
Yng Nghaerdydd, mae Oasis One World Choir CIC yn defnyddio grant £16,750 i sefydlu côr newydd ar gyfer pobl ifanc sy'n ceisio lloches, i helpu gyda'u hintegreiddiad i fywyd yn y DU. Bydd y grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yng Nghymru, yn galluogi'r côr i gyflwyno sesiynau canu, cyfansoddi caneuon a dawns ar gyfer plant a phobl ifanc. Mae aelodau rheolaidd y grŵp yn dod o deuluoedd sydd wedi'u dadleoli o sefyllfaoedd rhyfel cyfredol, felly mae'r sesiynau hyn yn cynnig lle diogel lle gallant ddysgu sgiliau newydd a gwneud ffrindiau.
Dywedodd Fatima, aelod o Oasis One World Choir Youth Group: "Byddwn yn disgrifio'r clwb cerddoriaeth fel clwb hwyl, creadigol, efallai'r clwb mwyaf hwyl erioed. Chwarae rhythmau difyr, cwrdd â phobl newydd. Rydyn ni'n gallu creu caneuon newydd gyda'n gilydd, mae'n dda, yn rhyfeddol, yn greadigol, yn oruwchnaturiol."
Dywedodd Amir, aelod arall o'r côr: "Cyn i mi ymuno â'r prosiect hwn, roedd gen i ofn chwarae o flaen pobl ond nawr gallaf fynd i fyny ar y llwyfan yn hawdd a chanu a chwarae fy ffidil. Dwi'n meddwl bod prosiectau fel hyn yn bwysig achos mae'n dangos i bobl ifanc bod ganddyn nhw lais hefyd. Rwy'n dysgu llawer am ieithoedd ac amrywiaeth aml-ddiwylliannol, mae'n gyfeillgar ac yn groesawgar iawn."
Yn Rhondda Cynon Taf, mae Skills and Volunteering Cymru yn defnyddio grant £18,600 i sefydlu côr ar gyfer oedolion ag anghenion ychwanegol, gwirfoddolwyr a gofalwyr yn y gymuned leol. Nod y côr cynhwysol yw caniatáu i aelodau'r gymuned feithrin perthnasoedd, datblygu eu sgiliau cerddorol a lleihau unigrwydd. Bydd y côr yn defnyddio gofodau yng nghanol cymunedau na fyddent fel arall yn cael eu defnyddio.
Dywedodd Sam, gwirfoddolwr gyda'r côr: "Mae’n fraint fel gwirfoddolwr i fod yn rhan o brosiect sy'n creu cymaint o hyder, cysylltiad, cyfle cadarnhaol i greu a llawenydd pur. Mae'n galonogol ac yn ysbrydoledig gweld prosiectau cymunedol fel hyn ar waith ar adeg pan mae eu hangen cymaint."
Dywedodd gwirfoddolwr arall, John: "Rwy'n falch iawn o fod yn cymryd rhan yn y prosiect hwn. Fel cerddor, rwy'n helpu gyda gitâr i ychwanegu ychydig o rythm at y caneuon neu i'w helpu i'w arafu er hwylustod dysgu’r cyfranogwyr. Mae cymaint o gantorion dawnus yn y côr ac mae gweld y grŵp yn datblygu bob wythnos a chael cymaint o hwyl boed yn canu neu'n dawnsio, yn werth ei weld."
Ychwanegodd Hilary, sydd hefyd yn gwirfoddoli: "Bob wythnos, mae gwylio'r llawenydd ar wynebau aelodau ein côr yn wych. Mae eu hyder a'u lleisiau yn tyfu bob wythnos. Mae’n fraint i fod yn rhan o hyn."
Dim ond cyfran fach o'r prosiectau sydd wedi derbyn y rownd ddiweddaraf hon o grantiau gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw’r dau gôr hyn, ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU. Mae’r grantiau’n bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi dros £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Rydym yn falch o ariannu'r corau hyn, sy'n defnyddio pŵer canu cyfunol i gefnogi eu cymunedau i ddod at ei gilydd. Mae'n wych gweld eu grantiau Loteri Genedlaethol yn eu grymuso i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu, yn ogystal â chefnogi oedolion ag anableddau."
I weld yr holl brosiectau sydd wedi derbyn grantiau, cliciwch yma.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru