Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cyhoeddi'r ehangiad mwyaf yn ei grantiau ers 30 mlynedd
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y DU, wedi datgelu uchelgeisiau tair blynedd mentrus newydd i gefnogi'r hyn sydd bwysicaf i gymunedau ledled y DU, gan gynnwys:
- Bydd mwy na 50% o'r holl grantiau yn mynd i gymunedau sy'n wynebu'r tlodi a'r anfantais fwyaf.
- Bydd o leiaf 15% o'r arian yn mynd i brosiectau cynaliadwyedd amgylcheddol.
- Yr ehangiad mwyaf o grantiau llawr gwlad ers tri degawd, gyda tharged o gyrraedd mwy nag 80% o ardaloedd ledled y DU.
- Mae prif ffocws mwy na 90% o’r grantiau ar un o bedwar nod cymunedol: cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Mae'r targedau uchelgeisiol yn rhan o Gynllun Corfforaethol newydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar gyfer 2024-27, a gyhoeddwyd yn dilyn gwaith helaeth ers i'r sefydliad gyflwyno ei strategaeth newydd – Cymuned yw’r Man Cychwyn - ym mis Mehefin 2023. Mae'r cynllun newydd yn rhoi mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a defnyddio ymagwedd sy'n seiliedig ar degwch wrth wraidd popeth. Ar hyn o bryd mae'r sefydliad yn cwblhau adolygiad cynhwysfawr o'i weithgareddau ariannu ledled y DU sy'n cwmpasu mwy na £3 biliwn o arian y Loteri Genedlaethol. Yn ystod tymor yr hydref, cyflwynodd y Gronfa ei newid mwyaf arwyddocaol i'w rhaglen flaenllaw hefyd. Ers dyblu swm a hyd grantiau Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol ym mis Tachwedd, mae ymgeiswyr tro cyntaf wedi cynyddu o 8% i 45%, gyda £62m yn mynd i grantiau dros £10,000.
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae'r cynllun hwn yn crynhoi tair blynedd nesaf ein strategaeth ac yn cyd-fynd â phennod newydd yn stori'r Loteri Genedlaethol. Mae'n rhagweld enillion cynyddol i achosion da, oherwydd eleni rydym yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 oed.
"Rydym yn addo ehangu grantiau llawr gwlad i gymunedau ledled y DU, gan ganolbwyntio ar gyrraedd mannau nad ydynt wedi ymgeisio o'r blaen a pharhau i wreiddio ein hunain yn y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Byddwn yn anelu at weld 80% o gymunedau lleol yn ymgeisio am arian y Loteri Genedlaethol. Gan gynrychioli cymunedau o Bude i Ballyclare, Brynmawr i Bannockburn, y fenter hon yw'r ehangiad mwyaf yng ngrantiau’r Loteri Genedlaethol yn ystod y tri degawd diwethaf.
"Mae'r cynllun hwn yn rhoi mynd i'r afael ag anghydraddoldeb a defnyddio ymagwedd yn seiliedig ar degwch wrth wraidd yr hyn a wnawn. Rydym yn derbyn syniad bob tair munud, felly byddwn yn cefnogi'r hyn sydd bwysicaf i wahanol gymunedau drwy dargedu'r gwaith o gyflawni ar draws ein pedwar nod cymunedol a chanolbwyntio ar ble mae'r angen mwyaf. Byddwn yn ymgorffori cefnogaeth ar gyfer gweithredu amgylcheddol ar draws yr holl grantiau, gan neilltuo 15% o’r arian ar gyfer cynaliadwyedd amgylcheddol a chefnogi prosiectau i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad dyna yw eu prif ffocws."
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu grantiau i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau ar draws y DU, gan gefnogi gweithgareddau sy'n creu cymunedau gwydn sy'n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy. Yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o'r portffolio cyfan, bydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gweithredu cyllideb grant a fformiwla dyrannu newydd ar gyfer mwy na £3 biliwn o weithgareddau ariannu'r Loteri Genedlaethol yng Nghymru, Lloegr, Yr Alban, Gogledd Iwerddon ac ar draws y DU, gyda'r nod o gynnal prosesau clir a syml wrth wella hygyrchedd a chyrhaeddiad.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi dros £30 miliwn yr wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Diolch iddyn nhw, y llynedd llwyddodd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ddosbarthu dros hanner biliwn o bunnoedd (£615.4 miliwn) mewn grantiau trawsnewidiol i gymunedau.
I gael gwybod mwy gweler y Cynllun Corfforaethol.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig