Yr Etholiad Cyffredinol: Gwybodaeth bwysig i ddeiliaid grant
Ar 22 Mai 2024, cyhoeddodd Prif Weinidog y DU, Rishi Sunak, ddyddiad yr Etholiad Cyffredinol nesaf. Ar 4 Gorffennaf 2024, bydd etholiadau’n cael eu cynnal ledled y DU i benderfynu ar gyfansoddiad Tŷ’r Cyffredin. Bydd y parti sy’n ennill y nifer uchaf o seddi’n cael rheolaeth dros Senedd y DU.
Beth mae hyn yn ei olygu i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Cyn pob etholiad, mae Cyfnod Sensitifrwydd. Mae hyn yn gosod cyfyngiadau ar ddefnydd adnoddau cyhoeddus a gweithgareddau gweision sifil. Mae “adnoddau cyhoeddus” yn cynnwys arian y Loteri Genedlaethol, arian Asedau Segur a’r incwm trydydd parti yr ydym yn ei ddosbarthu fel ariannwr. Er y bydd busnes hanfodol yn parhau yn y Gronfa, gan gynnwys gwneud penderfyniadau am grantiau, fel Corff Cyhoeddus Anadrannol (NDPB), mae’n hollbwysig ein bod yn parhau i fod yn ddiduedd yn wleidyddol.
Felly, o 23 Mai tan 5 Gorffennaf, ni fyddwn yn:
- Cyhoeddi rhaglenni ariannu, partneriaethau, grantiau neu gyhoeddiadau newydd.
- Rhyngweithio â gwleidyddion neu ymgeiswyr sy’n ceisio cael eu hail-ethol.
- Hyrwyddo’r gwaith da rydym wedi’i wneud/y sefydliadau rydym wedi’u cefnogi.
- Cyhoeddi adroddiadau gwerthuso newydd.
- Rhyngweithio â deiliaid grant neu rannu cynnwys ganddynt ar ein sianeli digidol neu’r cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn parhau â’n gweithgarwch cyfathrebu allanol pan fydd y Cyfnod Sensitifrwydd wedi dod i ben ar ôl i lywodraeth newydd gael ei ffurfio.
Beth mae hyn yn ei olygu i’n deiliaid grant
Fel deiliad grant presennol, gwyddom pa mor bwysig yw hi i chi ddathlu sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi’r gwaith hollbwysig rydych chi’n ei wneud yn eich cymuned. Er nad oes rhaid i elusennau a sefydliadau a ariennir gydymffurfio â’r Cyfnod Sensitifrwydd yn yr un modd â’r Gronfa, mae cyfyngiadau o ran yr hyn y gallwch ei wneud yn ystod y cyfnod hwn.
Y prif beth sydd angen i chi ei wybod yw os ydych wedi derbyn grant yn ddiweddar, ni ddylech gyhoeddi eich grant Loteri Genedlaethol newydd cyn Dydd Iau 4 Gorffennaf. Mae hyn yn cynnwys pethau fel erthyglau newyddion neu gyhoeddiadau cyfryngau cymdeithasol.
Mae’r Comisiwn Elusennau’n rhoi canllawiau ei hun i elusennau o ran yr hyn a ystyrir yn gyfreithiol ac yn arfer da yn ystod y cyfnod rhwng cyhoeddiad am etholiad a dyddiad yr etholiad. Darllenwch y canllawiau er mwyn eu deall yn hollol.
Beth i’w wneud os oes unrhyw gwestiynau gennych
Ni all Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gynnig cyngor i ddeiliaid grant ar yr hyn sy’n briodol yn ystod Cyfnod Sensitifrwydd. Os oes gennych unrhyw gwestiynau nad ydynt yn cael eu hateb yn y canllawiau uchod, dylech gysylltu â’r Comisiwn Elusennau’n uniongyrchol.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig