“Pan fu farw fy mab drwy hunanladdiad, roedden ni ar goll. Nawr rydyn ni’n cynnig rhaff achub i’r rheiny sydd wedi cael yr un profiad”
Sefydlodd Nicola Abraham MBE y Jacob Abraham Foundation i gefnogi pobl ifanc a theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, ar ôl i’w mab, Jacob, farw drwy hunanladdiad yn 24 oed yn 2015.
Bron i ddegawd yn ôl, cafodd Nicola Abraham a’i theulu newyddion a newidiodd eu bywydau am byth. Roedd ei mab, Jacob Abraham, wedi marw drwy hunanladdiad yn 24 oed.
“Bu farw Jacob drwy hunanladdiad ym mis Hydref 2015, ac roedd hyn yn sioc enfawr i bawb a oedd yn ei adnabod. Nid oedd yn amlwg bod ganddo unrhyw broblemau iechyd meddwl, ac roedd yn berson hapus a hamddenol,” dywedodd Nicola Abraham, Sylfaenydd y Jacob Abraham Foundation.
“Roedd yn fachgen poblogaidd iawn, a chafodd y gymuned sioc enfawr pan fu farw. Jacob oedd y person diwethaf y bydden nhw’n credu a fyddai’n marw drwy hunanladdiad.”
Yn siomedig gyda’r diffyg cymorth a gafodd y teulu yn dilyn marwolaeth ei mab, penderfynodd Nicola weithredu. Sefydlodd y Jacob Abraham Foundation er cof am ei mab diweddar, sy’n cefnogi teuluoedd yng Nghymru a thu hwnt sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, a phobl ifanc sy’n dioddef gyda’u hiechyd meddwl.
“I ni, pan fu farw Jake, nid oedd unrhyw beth wedi cael ei gynnig i ni. Doedden ni ddim wedi derbyn taflenni gwybodaeth nag unrhyw beth, roedden ni ar goll. Nid yw hynny’n iawn,” ychwanegodd Nicola.
“Dylai cefnogaeth gael ei chynnig yn syth i bobl sy’n wynebu hyn. Felly roeddwn i’n awyddus i wneud newidiadau.
“Gall y broses alaru fod yn gymhleth iawn, felly mae angen dysgu gweld pobl fel unigolion a rhoi cefnogaeth bwrpasol iddynt. Mae hi wedi bod yn anodd, ond rydyn ni wedi creu cymuned hyfryd, ac maen nhw i gyd wedi dweud ei fod yn rhaff achub.”
Heddiw, mae’r Jacob Abraham Foundation yn un o 299 o brosiectau yng Nghymru i dderbyn cyfran o dros £9.7 miliwn mewn grantiau diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y grantiau’n helpu grwpiau i wneud eu gwaith hanfodol ac amrywiol wrth gefnogi eu cymunedau.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU, yn dyfarnu grantiau i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau ledled y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, bydd yn dosbarthu o leiaf £4 biliwn erbyn 2030, gan gefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy.
Bydd £376,827 o’r grant Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cael ei ddefnyddio i gefnogi prosiect Suicide Support For All y sefydliad. Bydd yr arian, dros dair blynedd, yn talu am gyflogau staff, fel ymarferydd profedigaeth, therapydd arweiniol ac ymarferydd therapiwtig.
Mae grant y Jacob Abraham Foundation yn berthnasol i un o bedwar nod allweddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae Nicola a gweddill y tîm yn y Jacob Abraham Foundation yn bobl anhygoel sydd wedi ymrwymo i gefnogi iechyd meddwl a lles eu cymunedau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, roeddem yn gallu cefnogi prosiectau fel hyn sy’n cefnogi iechyd a lles pobl ifanc yng Nghymru.”
Mae’r Jacob Abraham Foundation wedi derbyn grant drwy ein rhaglen Pawb a’i Le yn ddiweddar. I ddysgu rhagor am y rhaglen ariannu hon gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ewch i’n gwefan: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru