Llygedyn o oleuni i bobl sy’n byw â diagnosis o ganser
“Pan oeddwn yn dod dros fy ail lawdriniaeth, disgynnais i gysgu yn ystod sesiwn Zoom, fe wnaethon nhw roi fy chwyrnu ar mute ac aros ar-lein fel nad oeddwn yn deffro ar ben fy hun!”
Cafodd Jane o Aberdâr gefnogaeth gan brosiect Ray of Light, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, wedi iddi gael diagnosis o ganser ac yn ystod ei llawdriniaeth, cemotherapi a’i gwellhad.
Heddiw, mae Ray of Light Cancer Support yn un o 138 o brosiectau yng Nghymru i dderbyn cyfran o dros £5 miliwn o arian diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae’r grantiau a ddarperir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn galluogi mudiadau fel Ray of Light i roi gwasanaeth hanfodol i bobl a’u cymunedau.
Mae Ray of Light Cancer Support, sydd wedi’i lleoli yn y rhandiroedd ar dir Cynon Valley Organics yn Abercynon, wedi cael grant o £19,291 i ddarparu gweithgareddau therapi garddwriaethol i bobl sy’n byw â chanser, i wella’u hiechyd a’u llesiant a lleihau unigrwydd.
Mae Ray of Light yn defnyddio therapi garddwriaethol i roi cyfle i bobl sy’n byw â diagnosis o ganser i gysylltu â natur, dod o hyd i lonyddwch a lleihau straen, i gyd wrth ddysgu sgiliau newydd.
“Mae mwy i ganolbwyntio arno na chanser. Mae yna bob amser brosiect i fynd â’n sylw!” meddai Jane, gan gadarnhau nod yr elusen o wella llesiant pobl trwy help ymarferol, cefnogaeth emosiynol a gweithgareddau ystyrlon. Trwy feithrin ymdeimlad o gymuned, maen nhw’n helpu pobl i adennill synnwyr o normalrwydd, ymdopi â’u diagnosis neu alar, a chael sgyrsiau anodd gyda’u hanwyliaid.
Wedi ei sefydlu yn 2009, mae Ray of Light Cancer Support yn darparu cefnogaeth emosiynol ac ymarferol i bobl sydd wedi eu heffeithio gan ganser, yn ogystal â’u teuluoedd a gofalwyr. Gan ddechrau fel menter fechan gymunedol, mae wedi tyfu’n sylweddol, diolch i ymwybyddiaeth gynyddol, partneriaethau ac ariannu hollbwysig.
Yn canolbwyntio ar ychydig o grwpiau lleol i ddechrau, ehangodd Ray of Light i gynnig nifer o sesiynau cefnogaeth wythnosol, gwasanaethau cyfeillio dros y ffôn, digwyddiadau i deuluoedd fel partïon Calan Gaeaf a Nadolig, a phrosiectau arbenigol i ddiwallu anghenion emosiynol ac ymarferol yn y gymuned.
Mae integreiddio therapi garddwriaethol i gefnogaeth ganser yn gwneud Ray of Light yn ddarparwr unigryw yn ne ddwyrain Cymru.
Cafodd Chris, technegydd TG, ei gyfeirio gan ei Feddyg Teulu, ac mae wedi bod yn teithio o Bencoed i fynychu’r grwpiau wythnosol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.
“Dw i wedi colli sawl aelod o’r teulu i ganser. Fy chwaer, fy nhad, nain a thaid. Chwalodd fy nerfau, ac fe wnaeth fy Meddyg Teulu fy nghyfeirio at Ray of Light. Rydych chi gyda phobl o’r un meddylfryd, rydych yn deall eich gilydd. Does dim rhaid i chi siarad, gallwch chi jyst gwrando. Maen nhw fel ail deulu i mi!”
Meddai Sue Norris, y sylfaenydd a’r Prif Swyddog Gweithredol: “Mae’r arian gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi bod yn hollbwysig. Mae wedi ein galluogi i ehangu a chyrraedd mwy o bobl a chynnig amrywiaeth ehangach o raglenni i’r rhai sydd wedi eu heffeithio gan ganser. Heb yr ariannu hanfodol hwn, fyddai llawer o’n grwpiau cefnogaeth a’n digwyddiadau ddim yn bodoli, gan adael bwlch mewn cefnogaeth i lawer o deuluoedd sy’n dibynnu ar ein gwasanaethau am ddim.”
Dywedodd Andrew Owen, Pennaeth Ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: “Mae Ray of Light Cancer Support yn enghraifft wych o brosiect sydd wedi ymrwymo i’w cymuned a’r manteision amgylcheddol niferus o fod mewn natur. Mae’r staff a’r gwirfoddolwyr wrth wraidd yr elusen gyda llesiant y bobl sy’n cael budd o’r prosiect yn flaenoriaeth ym mhopeth a wnawn. Fel cronfa, rydym am i gymunedau fod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, ac mae dull Ray of Light o ddarparu therapi garddwriaethol yn ein hatgoffa ni i gyd am ganlyniadau cadarnhaol amrywiol bod yn fwy ymwybodol o’r amgylchedd.”
Mae Ray of Light yn cynrychioli pob un o’r pedair nod allweddol sydd gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sef cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc a galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Am ragor o wybodaeth am y dyfarniadau a wnaed ewch i ac am wybodaeth am yr ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru