Cael mwy o effaith ar gymunedau yn y blynyddoedd i ddod, meddai Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi newidiadau i'w prif gynllun ariannu yn dilyn ymgynghori helaeth â chymunedau.
Bydd rhaglen ariannu Pawb a'i Le yn buddsoddi hyd at £20 miliwn y flwyddyn mewn cymunedau ledled Cymru, diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Yn dilyn lansiad ein strategaeth newydd - Cymuned yw’r man cychwyn, mae'r Gronfa wedi diweddaru ei chynnig ariannu i gefnogi cymunedau yng Nghymru. Mae Pawb a'i Le bellach yn gobeithio gwneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod drwy gael ei llywio gan bedair nod newydd y Gronfa, sy'n cefnogi cymunedau i:
- ddod ynghyd
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Bydd grantiau o hyd at £500,000 ar gael. Bydd gofyn i grwpiau sy'n ymgeisio ddangos sut maen nhw wedi cynnwys y gymuned, ac wedi adeiladau ar sgiliau, profiadau a chryfderau pobl a dangos sut y maen nhw'n llenwi bwlch. Bydd gofyn i brosiectau hefyd ystyried effaith amgylcheddol eu gweithgareddau, mwy o fanylion Lleihau eich ôl troed amgylcheddol | Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol (tnlcommunityfund.org.uk)
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, wrth gyhoeddi'r rhaglen newydd hon: "Rydyn ni'n gobeithio gwneud mwy o wahaniaeth yn y blynyddoedd i ddod ac i ganolbwyntio mwy ar ein pedair nod newydd sy'n cefnogi pobl i ddod ynghyd, i fod yn fwy amgylcheddol gynaliadwy, i helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
"Byddwn yn rhoi mwy o sylw i daclo anghydraddoldeb, sy’n golygu y byddwn yn canolbwyntio mwy ar y bobl a’r cymunedau sy'n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu yng Nghymru. Byddwn hefyd yn cefnogi gweithredu amgylcheddol ar draws ein holl ariannu, gan fuddsoddi mewn cynaliadwyedd amgylcheddol a chefnogi prosiectau i ystyried yr amgylchedd hyd yn oed pan nad yw hynny'n brif ffocws y prosiect.
"Rydyn ni felly wedi diweddaru ein prif raglen ariannu, Pawb a'i Le, sy'n adeiladu ar ein strategaeth newydd Cymuned yw'r man cychwyn a'r ymgynghori a wnaethom gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid yng Nghymru yn gofyn iddynt beth fyddai eu prif flaenoriaethau i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru."
Un prosiect sydd eisoes yn canolbwyntio ar iechyd, yr amgylchedd a phobl ifanc yw prosiect Newid y Gêm ym Mhowys. Mae'r prosiect yn defnyddio £304,240 dros dair blynedd, er mwyn cefnogi pobl ifanc sy'n cael anawsterau ymgysylltu ag agweddau o addysg draddodiadol. Trwy'r prosiect maent yn meithrin sgiliau a chymwysterau, trwy weithgareddau ymarferol sy'n cynnwys sgiliau cefn gwlad, trin ceffylau, cadwraeth, mecaneg, gwaith coed, gwirfoddoli'n ddigidol, garddio a gofal anifeiliaid.
Meddai Sian Roberts, Cyfarwyddwraig Prosiect Newid y Gêm: “Rydyn ni’n creu cyfleoedd i bobl ifanc ym Mhowys godi eu dyheadau a’u hyder trwy ddarparu amgylchedd dysgu yn yr awyr agored lle gallent ddatblygu eu hyder a’u sgiliau er mwyn ffynnu a chyfrannu i ganolbarth Cymru
"Rydyn ni mor ddiolchgar i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am y grant sy'n ein galluogi i gynnal rhaglen o weithgareddau i'r bobl ifanc sy'n dibynnu ar y gwasanaeth. Rydyn ni’n gweithio mewn partneriaeth gyda mudiadau eraill, ysgolion a busnesau i sicrhau ein bod yn rhoi sgiliau gydol oes i bobl ifanc a fydd hefyd yn gwella eu rhagolygon gyrfa trwy roi sgiliau, hyder a chymwysterau iddynt."
Mae eleni'n nodi deg mlynedd ar hugain ers y tynnwyd peli'r Loteri Genedlaethol gyntaf ym 1994, a diolch i'r rhai sy'n chwarae'r gemau a chodi £30 miliwn i achosion da bob wythnos, mae dros biliwn wedi cael ei ddyfarnu i gymunedau ledled Cymru drwy 23,096 o grantiau yn ystod y cyfnod hwn.
Yn y bum mlynedd ddiwethaf yn unig, mae dros £117 miliwn wedi ei ddosbarthu drwy Pawb a'i Le i gymunedau ledled Cymru.
Anogir grwpiau sydd â syniadau am ariannu i gysylltu i drafod eu syniad ar 0300 12307335 neu e-bostio cymru@cronfagymunedolylg.org.uk
Am ragor o wybodaeth am yr holl ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru