Yr Adran Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon yn cyhoeddi penodiad arweinydd o fri ac eiriolydd brwd yn Gadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol
Heddiw fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon fod y Fonesig Julia Cleverdon DCVO CBE wedi ei phenodi’n Gadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr cymunedol mwyaf yn y Deyrnas Unedig.
Mae’r Fonesig Julia yn ymgyrchydd brwd ac ymarferol sydd wedi ennill enw da yn rhyngwladol am “gysylltu’r rhai sy’n ddigyswllt”, gan ysbrydoli unigolion a sefydliadau i weithio gyda’i gilydd er budd pawb.
Yn ystod ei gyrfa helaeth, mae hi’n gyson wedi hyrwyddo cydweithio tymor hir ar draws sectorau yn y cymunedau tlotaf, gan gefnogi arweinwyr cymunedol ac annog ymgysylltiad pobl ifanc, i helpu i feithrin capasiti lleol a chymdeithas sifil fwy gwydn sy’n gwerthfawrogi amrywiaeth, cynaliadwyedd ac atebion lleol cyd-destunol.
Mae’r Fonesig Julia wedi cadeirio Teach First, y National Literacy Trust a Place Matters – oll yn elusennau sy’n gweithio i ddeall a thaclo anghydraddoldeb yn y cymunedau hynny sy’n profi’r tlodi, anfantais a’r gwahaniaethu mwyaf. Wedi arwain adolygiadau Llywodraethol i lywodraethau Llafur a Cheidwadol dros yr ugain mlynedd diwethaf, mae hi bellach yn cadeirio Pwyllgor yr Ystadegydd Gwladol ar Ddata Cynhwysol. Mae hi’n gyd-sylfaenydd ymgyrch #iwill sy’n helpu pobl ifanc i weithredu’n gymdeithasol trwy wirfoddoli, ymgyrchu ac eirioli. Mae hi wedi gwasanaethu fel Ymddiriedolwr ar Fwrdd y Fair Education Alliance, y Careers and Enterprise Company, yr Youth Futures Foundation, Teach for All ac fel Noddwr Right to Succeed. Dechreuodd ei gyrfa gyda’r
Industrial Society gan wasanaethu fel Prif Weithredwr Busnes yn y Gymuned am ddwy flynedd ar bymtheng cyn gweithio i Dywysog Cymru ar y pryd fel Cynghorydd Arbennig i Elusennau’r Tywysog.
Meddai’r Fonesig Julia wrth ystyried ei phenodiad:
“Braint a chyfle o’r mwyaf fy mywyd ymgyrchu yw cael fy ngwahodd gan y Gwir Anrh. Lisa Nandy i gadeirio Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae ymuno â’r Bwrdd wrth i ni ddathlu 30 mlynedd o’r Loteri Genedlaethol yn caniatáu i ni gyd ddathlu a myfyrio ar beth sydd wedi ei gyflawni hyd yma, ynghyd â beth sydd ei angen ar y daith newydd i gyflawni’r strategaeth uchelgeisiol, Cymuned yw’r man cychwyn. Mae annog gweithredu ar y cyd, meithrin partneriaethau cryf a pherthnasoedd o ymddiriedaeth – yn fy mhrofiad i – yn hanfodol i lwyddiant wrth gryfhau cymunedau fel y gallan nhw drawsnewid pobl a llefydd. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda’n Bwrdd a’n Pwyllgorau, ein uwch dîm a staff ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig yn ogystal a’r rhai hynny sy’n gallu ein helpu i lwyddo yn y genhadaeth hollbwysig hon.”
Dywedodd David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol:
“Rwy’n hynod falch o groesawu’r Fonesig Julia i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Gyda’i phrofiad digyffelyb yn meithrin cydweithio ar draws sectorau a’i hymrwymiad gydol oes i newid cymdeithasol cadarnhaol, mae’r Fonesig Julia yn dod â chyfoeth o wybodaeth a phrofiad a fydd yn werthfawr iawn i’n cenhadaeth. Fel ein Cadeirydd newydd, rwy’n gwybod y bydd hi’n chwarae rhan allweddol wrth ein helpu i gyflawni gwir uchelgais Cymuned yw’r man cychwyn.
Hoffwn hefyd estyn fy niolch a gwerthfawrogiad i’n Cadeirydd Dros Dro sy’n ymadael, Paul Sweeney, wrth iddo ddychwelyd i’w rôl barhaol fel Cadeirydd Gogledd Iwerddon. Mae ei ddoethineb dwfn wedi bod yn allweddol i mi a phawb yn y Gronfa dros y flwyddyn ddiwethaf.”
Meddai Paul Sweeney, Cadeirydd Dros Dro Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol sy’n ymadael, “Ar ran fy nghyd aelodau Bwrdd, hoffwn groesawu’n ddiffuant benodiad y Fonesig Julia a’i sicrhau hi o’n cefnogaeth lawn yn ei rôl fel Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.”
Bydd penodiad y Fonesig Julia fel Cadeirydd yn dod i rym ar 18 Tachwedd. Penodwyd Paul Sweeney yn Gadeirydd Dros Dro gan yr Ysgrifennydd Gwladol ym mis Awst 2023. Bydd Mr Sweeney yn parhau fel Cadeirydd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Ngogledd Iwerddon ac fel aelod o’r Bwrdd.
Eleni mae’r Loteri Genedlaethol yn dathlu ei phen-blwydd yn 30 mlwydd oed. Mae wedi bod yn newid bywydau bob dydd dros y 30 mlynedd diwethaf, gan ariannu miloedd o brosiectau i helpu i feithrin cymunedau cynhwysol ac amgylcheddol gynaliadwy – a chreu bywydau iachach a hapusach. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae mwy na £49 biliwn wedi ei godi i achosion da yn ystod y cyfnod hwn.
Bob blwyddyn, mae mwy na 5 miliwn o bobl o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn elwa ar brosiectau a sefydliadau a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae’r grantiau hyn yn newid bywydau a chymunedau. Maent yn dod a chymunedau ynghyd trwy ddarparu llefydd a mannau cyffredin. Maent yn cynyddu cynaliadwyedd amgylcheddol trwy helpu pobl i greu atebion lleol i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd. Maent yn cefnogi plant a phobl ifanc i ffynnu, gan wybod fod ganddynt ran mewn cymdeithas, ac maent yn galluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach.
I gael gwybod rhagor ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig