Helpu rhieni (a Siôn Corn) i ddarparu teganau i blant y Nadolig hwn diolch i arian y Loteri Genedlaethol
"Mae chwarae yn rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn. Ni ddylai unrhyw blant fod yn colli hyn oherwydd diffyg mynediad at deganau."
Mae sefydliad yng Nghaerffili wedi derbyn £63,300 o arian y Loteri Genedlaethol i barhau i ddarparu 'banc teganau' sy'n ailddefnyddio ac yn rhoi teganau ail-law i bobl mewn angen, a'u harbed rhag safleoedd tirlenwi.
Wedi'i leoli ym Medwas, bydd ToyBox Project CIC yn dod â llawenydd i'r rhai mewn angen y Nadolig hwn drwy ddosbarthu teganau i blant a theuluoedd na fyddent yn derbyn unrhyw beth fel arall.
Y llynedd, derbyniodd dros 7,000 o blant ar draws de Cymru deganau drwy'r prosiect a chydweithiodd dros 60 o ysgolion â'r prosiect i helpu dosbarthu teganau a'u hailddefnyddio mewn gwersi. Mae'r cynllun yn helpu atal teganau rhag mynd i safleoedd tirlenwi a'u rhoi yn nwylo'r rhai sydd eu hangen fwyaf.
Heddiw, mae ToyBox Project yn un o 245 o brosiectau ledled Cymru sy'n derbyn dros £11 miliwn gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yr ariannwr mwyaf o weithgarwch cymunedol yn y DU. Mae'r ariannu hwn yn cael ei ddosbarthu'r Nadolig hwn i gymunedau ledled y wlad diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi dros £30 miliwn ar gyfer achosion da bob wythnos.
Mae ToyBox Project yn sefydliad hollol rhad ac am ddim sy'n cael ei arwain gan wirfoddolwyr, ac yn gweithredu trwy gydol y flwyddyn. Fodd bynnag, fel yr esbonia James Morgan, Sylfaenydd y prosiect, mae cyfnod yr ŵyl yn arbennig o brysur iddyn nhw.
"Rydyn ni'n gweithredu drwy gydol y flwyddyn ond mae'r galw yn dyblu adeg y Nadolig. Rydyn ni'n jyglo popeth - rydyn ni ar y trywydd iawn ar hyn o bryd i ddarparu teganau i 1000 o blant ar gyfer y Nadolig hwn yn unig. Ac rydym yn gweld ei fod yn golygu cymaint i rieni ag y mae i'r plant. Dywedodd un rhiant wrthyf, ‘Diolch i chi, nid oes rhaid i mi ddweud wrth fy mhlentyn nad yw Siôn Corn yn bodoli.’”
Cafodd James, sy'n gweithio'n llawn amser yn y GIG, ei ysbrydoli i ddechrau ToyBox ar ôl clywed am amgylchiadau teulu o gleifion yn y feddygfa y mae'n ei rheoli.
"Roedd hi'n fam sengl, gyda phlentyn pedair oed, a'r unig deganau oedd ganddyn nhw oedd can o Coke gyda reis yn y gwaelod, a phêl-droed fflat. Ac edrychais ar fy nhri mab ifanc, a oedd yn mynd trwy llwyth o deganau, o'i gymharu â'r cleifion hyn i lawr y ffordd oedd heb unrhyw beth. Ac roedd fy ngwraig a minnau'n teimlo bod yn rhaid i ni wneud rhywbeth."
Gan ddechrau o'u hystafell fyw, yn fuan symudon nhw i gynhwysydd llongau, ac yna i siop fach - ond roedd y galw mawr am eu gwasanaethau yn golygu eu bod wedi mynd yn rhy fawr i’r adeiladau hynny mewn 12 diwrnod. Arweiniodd hyn at eu safle presennol mewn warws ym Medwas, Caerffili, a wnaed yn bosibl diolch i arian y Loteri Genedlaethol.
Mae'r twf wedi cael ei adlewyrchu yn y tîm o wirfoddolwyr, gyda rhai gwirfoddolwyr yn bobl sydd hefyd wedi elwa o'r gwasanaeth. Mae Louise Monico yn athrawes yn Ysgol Gymraeg Penalltau, sydd, ar ôl ymweld â Toybox i gael teganau i'w disgyblion, bellach yn gwirfoddoli gyda'r prosiect.
"Fe ddes i yma ar gyfer yr ysgol, oherwydd roedd gennym ni gymaint o blant o deuluoedd incwm is, a hefyd ar gyfer ein dosbarth anghenion dysgu ychwanegol, oherwydd mae cymaint o deganau yma sy'n hollbwysig iddyn nhw. Ond cafodd Toybox Project gymaint o argraff arnaf i o ran faint y maen nhw’n helpu pobl, a phenderfynais fy mod i eisiau bod yn rhan ohono. Rwyf hefyd yn hoffi pa mor amgylcheddol yw'r prosiect, oherwydd rwy'n berson eco, ac mae'n wych faint o deganau sy'n cael eu hachub o safleoedd tirlenwi."
Mae ToyBox yn dal hyd at 15,000 o deganau yn eu warws ar unrhyw un adeg, gan ddosbarthu miloedd o gilogramau o deganau bob wythnos, ac arbed 99% ohonynt o safleoedd tirlenwi, gan ddangos effaith amgylcheddol wych eu gwaith, ynghyd â'i effaith gadarnhaol ar deuluoedd ledled de Cymru.
Dywedodd John Rose, Cyfarwyddwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru: "Mae'r effaith y bydd ToyBox Project yn ei chael ar deuluoedd y Nadolig hwn yn anfesuradwy. Fel ariannwr, rydym yn falch o gynnig grantiau i brosiectau fel y rhain sy'n cefnogi plant a phobl ifanc, ac sy'n helpu cymunedau i wella bywydau pobl. Mae'r gwaith gwych hwn diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, sy'n codi £30 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU."
I gael rhagor o wybodaeth am yr holl grantiau a ddyfarnwyd ewch i xxx ac am yr holl ariannu sydd ar gael gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ewch i https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding/wales
Ariannwyd rhwng 29/07/24 a 26/10/24
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru