Gall AI fod yn rym pwerus er gwell”: harneisio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer pobl a chymunedau
Ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig yn cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio AI ar gyfer ceisiadau grant a 10 egwyddor ar ddefnyddio AI er budd pobl a chymunedau
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau ar ddefnyddio Deallusrwydd Artiffisial (AI) ar gyfer ceisiadau grant. Gan gydnabod rôl gynyddol AI yn y drydydd sector a’r cyfleoedd a ddaw, ac mewn ymgais i wella hygyrchedd ac effeithlonrwydd i sefydliadau sy’n ymgeisio am ariannu, mae ariannwr cymunedol mwyaf y Deyrnas Unedig wedi cynnig cyngor ar ddefnyddio adnoddau AI.
Ochr yn ochr â’r canllawiau hyn, mae’r Gronfa wedi diffinio 10 Egwyddor AI, sy’n nodi sut fydd hi’n bosibl i ddefnyddio AI er budd pobl a chymunedau a byddent yn cynnal digwyddiad ar-lein am ddim ar 11 Mawrth i rannu’r dysgu ac annog cydweithio ar draws y sector.
Yn ôl y Charity Digital Skills Report 2024, mae 61% o elusennau eisoes yn defnyddio AI ond canfu The Status of UK Fundraising 2024 Benchmark Report fod bron i 70% o weithwyr proffesiynol elusennau yn dweud nad oes ganddynt yr adnoddau i archwilio sut y gallai AI gael ei ddefnyddio, gan amlygu bwlch mewn sgiliau, hyder a gallu yn y sector.
Meddai Sarah Watson, Pennaeth Arloesi Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Mae AI am fod yn newidiwr gem i elusennau a grwpiau cymunedol, gan eu helpu i ryddhau amser i ganolbwyntio ar gefnogi cymunedau, ac i feddwl am gwestiynau pwysicach megis sut rydym yn mynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu cymdeithas heddiw. Mae ganddo botensial trawsnewidiol i ni fel ariannwr a gallai ryddhau amser i ni ganolbwyntio ar waith sy’n unigryw i fodau dynol, megis gwrando ar ein cymunedau a’n deiliaid grantiau.
“Mae cyfiawnder a thegwch wrth graidd popeth a wnawn, ac rydym yn grediniol y gall AI fod yn rym pwerus er gwell os caiff ei ddefnyddio yn y ffordd gywir.
“Rydym yn gwybod fod llawer o arianwyr, grwpiau cymunedol a sefydliadau eraill yn meddwl ynghylch y materion hyn, felly rydym yn annog pobl i ymuno â ni yn ein digwyddiad ar-lein am ddim ar 11 Mawrth i am sgwrs onest ynglŷn â sut rydym wedi datblygu ein hegwyddorion AI gyda’r arbenigwyr Tim Cook, Sylfaenydd AI Confident, a Dan Sutch, Cyfarwyddwr CAST, ac i rannu’r dysgu a’r arferion gorau ar draws y sector.”
Un elusen sydd eisoes yn croesawu AI yw WECIL ym Mryste, sefydliad mawr ei fri a arweinir gan ddefnyddwyr ac sy’n cefnogi pobl anabl i fyw'r bywyd y maen nhw’ n ei ddymuno.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cefnogi WECIL i ddefnyddio AI er budd pobl anabl, gan ddylunio cynhyrchion digidol sy’n gynhwysol o bobl sy’n niwroamrywiol neu sydd â gwahaniaeth mewn dysgu, gan ryddhau amser y tîm i gefnogi pobl sydd ag anghenion unigol mwy cymhleth.
Esboniodd Prif Weithredwr WECIL, Dominic Ellison sut mae’r elusen wedi defnyddio ariannu’r Loteri Genedlaethol i ddatblygu beth maen nhw’n ei gredu sy’n un cyntaf, sef bot sgwrsio o’r enw ‘Cecil from WECIL’ sy’n gallu gweithredu fel dogfen Hawdd i’w Darllen. “Nid yw technoleg yn gyffredinol wedi ei ddylunio gyda phawb mewn golwg ac nid yw llawer o gynhyrchion AI newydd yn ystyried anghenion pobl sydd ag anableddau dysgu, felly roedd yn bwysig i ni ddylunio Cecil mewn modd sy’n bodloni anghenion mynediad pobl sydd ag anableddau dysgu.
“Pan rydych yn ei agor, rydych yn cael cynnig opsiynau gan gynnwys opsiynau gweledol, i’ch helpu i ganfod y wybodaeth gywir. Mae hyn yn ei dro yn gwneud ein gwefan yn haws i’w llywio i bobl sydd ag anableddau dysgu neu sy’n niwroamrywiol. Nawr y gwaith yw hyfforddi Cecil - mae’r tîm yn edrych ar ddata, beth mae pobl yn ei ofyn, sut mae pobl yn ei ddefnyddio. Mae hi’n ddyddiau cynnar o hyd ac yn broses barhaus ond rydym yn credu ei fod yn mynd i dorri tir newydd i lawer o’r bobl rydym ni’n gweithio gyda, ac os gallwn ni ei gael yn iawn, yna rydym yn gobeithio y bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr.”
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn dyfarnu grantiau i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau ledled y Deyrnas Unedig, Mae chwaraewyr y Loteri genedlaethol yn codi dros £30 miliwn bob wythnos i achosion da ledled y Deyrnas Unedig.
I gael gwybod rhagor ewch i www.tnlcommunityfund.org.uk/media/documents/AI-principles-welsh.pdf.
I archebu lle yn y digwyddiad ar-lein am ddim ar 11 Mawrth ewch i https://ow.ly/ePt450ULLX3
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig