Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol Cymru yn penodi aelodau newydd
Heddiw, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr gweithgarwch cymunedol mwyaf y DU, wedi cyhoeddi penodiad Dr Victoria Winckler a Callum Bruce-Phillips i'w Phwyllgor Cymru.
Mae Dr Victoria Winckler wedi bod yn Gyfarwyddwr Sefydliad Bevan ers 2002. Dros y 40 mlynedd diwethaf mae hi wedi gweithio ar lefel uwch yn y trydydd sector, llywodraeth leol ac addysg uwch, sydd wedi rhoi dealltwriaeth ddwfn iddi hi o gyd-destun gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol Cymru.
Callum yw Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli Amgueddfa Cymru ac mae'n aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr Mess Up The Mess Theatre Company Ltd. Mae'n ymuno â Phwyllgor Cymru fel rhan o'n rhaglen Llais Ieuenctid, ymrwymiad i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein holl waith.
Dywedodd Dr Simone Lowthe-Thomas, Cadeirydd Pwyllgor Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Rwy'n falch o groesawu Victoria a Callum i ymuno â Phwyllgor Cymru. Mae Victoria yn dod â chyfoeth o brofiad - yn enwedig o'r sector gwirfoddol a chymunedol yng Nghymru. Daw Callum â safbwynt hanfodol bwysig i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein holl waith. Y llynedd, dosbarthwyd £36.8 miliwn mewn 1,005 o grantiau ledled Cymru, i gyd diolch i arian a godwyd gan chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."
Wrth sôn am ei phenodiad, dywedodd Victoria: "Mae dull y Gronfa fel y nodwyd yn ei strategaeth Cymuned yw’r man cychwyn, a sut mae'n ymateb i angen o fewn cymunedau, yn amhrisiadwy."
"Os edrychwn yn allanol, rwy'n credu bod gennym ni gyfnodau anodd iawn o'n blaenau - mae yna argyfwng tai, rydyn ni'n dal i fod mewn argyfwng costau byw, mae gennym ni newidiadau technoleg sy'n dod â newidiadau enfawr i swyddi pobl, mae gennym argyfwng hinsawdd hefyd - ac mewn cyfnod ansicr, yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw teulu a chymuned.”
Am ei benodiad, dywedodd Callum: "Mae'n fraint ac yn anrhydedd cael bod yn rhan o Raglen Ieuenctid y Gronfa ac rwy'n edrych ymlaen at helpu llywio rhaglenni ariannu yn y dyfodol i ymateb i angen pobl ifanc ledled Cymru."
Mae Pwyllgor Cymru yn helpu penderfynu ar gyfeiriad strategol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, ac mae'n eistedd fel panel ariannu 'Cefnogi Syniadau Gwych’.
Mae Victoria yn ymuno wrth i aelod arall o’r pwyllgor adael, sef Nicola Russell-Brooks, a gwblhaodd ei chyfnod o saith mlynedd o wasanaeth ymroddedig gyda Phwyllgor Cymru ar ddechrau 2025.
I ddysgu rhagor, ewch i www.TNLCommunityFund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru