Dewch i gwrdd â’r fam ysbrydoledig sydd wedi codi miloedd ar ôl colli ei mab 10 mlwydd oed i diwmor yr ymennydd
Fe sylfaenodd Diane Parkes fudiad ymroddedig Joss Searchlight, sy’n canolbwyntio ar deuluoedd a effeithir arnynt gan diwmor yr ymennydd mewn plentyndod. Mae’r mudiad wedi ei enwi ar ôl mab Diane, Joss Parkes, a fu farw oherwydd glioma coesyn yr ymennydd (DIPG) nad oedd gwella ohono ac yntau, yn drist iawn, yn ddim ond 10 mlwydd oed.

Er mai dim ond wythnosau a roddwyd iddo fyw yn dilyn ei ddiagnosis yn bedair oed, roedd ei mab yn dal i fod ar dir y byw am chwe blynedd arall er gwaethaf popeth, gan farw yn 2011.
“Roedd Joss yn gymaint o hwyl. Doedd dim ots beth oedd yn mynd trwyddo, roedd yn dal i wenu,” meddai Dianne Parkes, Ymddiriedolwr a Sefydlodd Joss Searchlight.
“Roedd yn bedair oed pan gafodd ddiagnosis a chael pythefnos i fyw. Aeth o fod yn fachgen bach hollol iach i fod a diagnosis terfynol.
“Mae Joss Searchlight yn dod o le personol iawn, ac mae’r ymddiriedolwyr a’r rheolwyr cefnogol eraill yn yr un cwch. Daeth Joss â hapusrwydd i ni gyd, ac roedd am helpu plant eraill. Ef yw’r ysbrydoliaeth ar gyfer hyn i gyd.
“Er gwaethaf y diagnosisau hyn, does neb y tu hwnt i help. Mae bob amser rhywbeth y gallwch chi ei wneud i helpu pobl.”
Gan weithio mewn partneriaeth â’r Brain Tumour Charity, mae Dianne a’r tîm yn Joss Searchlight wedi codi dros £150,000 i helpu i ddatblygu ymchwil i mewn i ganser yr ymennydd na ellir ei wella.

Yn ogystal â chodi arian hanfodol ar gyfer ymchwil i mewn i diwmorau'r ymennydd prin yn ystod plentyndod, mae Joss Serachlight yn darparu cefnogaeth gynhwysfawr i’r plant a effeithir a’u teuluoedd. O gymorth ariannol i gwnsela emosiynol ac offer arbenigol, mae Joss Searchlight yn ymroddedig i wneud gwahaniaeth ym mywydau’r plant a’u teuluoedd ar draws Cymru ac ardaloedd eraill o’r Deyrnas Unedig.
“Mae yna 70 o blant yng Nghymru yn cael diagnosis o ganser yr ymennydd bob blwyddyn, a bydd chwater o’r rheiny yn marw bob blwyddyn”, ychwanegodd Dianne.
“Gyda chanser yr ymennydd, mae gennych blentyn anabl yn syth. Maen nhw’n colli eu golwg, colli eu clyw, eu cydsymudiad. Mae angen i chi roi systemau yn eu lle i allu helpu.
“Rydyn ni eisiau helpu teuluoedd gymaint ag y gallwn, ond rydyn hefyd am roi’r neges bod angen iddyn nhw fod yn gweithio gyda llefydd fel yr hosbisau hefyd. Mae llawer iawn o rieni yn dod â’u plentyn i mewn diwrnod neu ddau cyn iddynt fawr, ond gallen nhw fod wedi cael blwyddyn neu fwy o gefnogaeth cyn hynny.
“Mae’n hanfodol ein bod yn dechrau cysylltu teuluoedd â’r adnoddau, sef beth rydyn ni’n ei wneud mewn siroedd eraill, a beth sydd angen i ni ei wneud yng Nghymru hefyd.”
Heddiw mae Joss Serachlight yn un o 169 o brosiectau yng Nghymru i ddechrau rhannu cyfran o dros £7 miliwn mewn ariannu diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Bydd y grantiau yn helpu grwpiau i wneud eu gwaith hanfodol ac amrywiol yn cefnogi eu cymunedau.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y Deyrnas Unedig, yn dyfarnu gratiau i gryfhau cymdeithas a gwella bywydau ledled y DU. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, byddwn yn dosbarthu o leiaf £4 biliwn erbyn 2030, gan gefnogi gweithgareddau sy’n creu cymunedau gwydn sy’n fwy cynhwysol a chynaliadwy’n amgylcheddol.
Bydd £9,700 o’r grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd i’r mudiad yn cael ei ddefnyddio i ariannu gweithiwr cymorth i fynd i’r afael ag anghenion emosiynol, a hamperau a fydd yn cynnwys nwyddau cartref a meddygol hanfodol.
Meddai John Rose, Cyfarwyddwr Cymru Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: "Mae Dianne a’i thîm yn Joss Searchlight yn bobl eithriadol sy’n ymroddedig i gefnogi teuluoedd a phlant a effeithir arnynt gan ganser prin yma yng Nghymru. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, rydym yn gallu cefnogi prosiectau anhygoel fel hyn sy’n mynd y filltir ychwanegol i gefnogi pobl sy’n mynd trwy’r adegau anoddaf yn eu bywydau.”
Mae Joss Searchlight wedi derbyn grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar. I gael gwybod rhagor am yr ariannu hwn gan Gronfa gymunedol y Loteri Genedlaethol, ewch i’n gwefan: https://www.tnlcommunityfund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru