Cwrdd â'r tîm: cyflwyno ein Haelodau Bwrdd a Phwyllgor Ifanc newydd
Yma yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn credu y gall cymdeithas elwa o wrando mwy ar safbwyntiau pobl ifanc. Rydym hefyd yn gwybod o'n profiad ein hunain bod pobl ifanc yn fedrus ac yn benderfynol o wneud gwahaniaeth er gwell i'r byd o'u cwmpas.
Fel ariannwr, rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ein holl waith, boed hynny drwy'r grantiau a roddwn, y bobl rydym yn dylanwadu arnynt, neu'r pethau rydym yn eu dysgu. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi bod ar daith; rydym wedi cyflwyno ein tîm Llais Ieuenctid cyntaf yn ôl yn 2020 ac ers hynny rydym wedi mynd ymlaen i recriwtio nifer o Gynghorwyr Llais Ieuenctid i helpu ein timau ariannu i ddylunio a llywio’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc a’u cymunedau. Yn fwy diweddar, gwahoddwyd dwy o’n Cynghorwyr – Tia a Rachael – i eistedd ar banel gwneud penderfyniadau Cronfa’r DU, sy’n nodi dechrau pennod newydd gyffrous i ni.
Ond nid yw'r gwaith yn dod i ben yma. Heddiw, mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod wedi penodi pedwar o bobl ifanc i’n Bwrdd a’n Pwyllgorau Gwlad am y tro cyntaf erioed.
Bydd y penodiadau – sy’n cynnwys Ellie, Holly (Yr Alban), Caolan (Gogledd Iwerddon), Callum (Cymru) a Millie (Lloegr) – yn sicrhau bod pobl ifanc ledled y DU yn cael dweud eu dweud ynghylch y pethau a wnawn, y penderfyniadau a wnawn, a’r ffordd rydym yn cefnogi’r cenedlaethau i ddod. Bydd ein haelodau pwyllgor ifanc yn dod â'u profiad bywyd, ynghyd â gwybodaeth helaeth o'r ardal y maent yn ei chynrychioli, wrth wneud penderfyniadau ar ein rhaglenni ariannu mwyaf (dros £500,000) a chynghori ar ddyfodol ein strategaeth ariannu. Bydd ein haelod bwrdd ifanc – Ellie – hefyd yn gweithio gyda’r bwrdd i lunio strategaeth hirdymor a pholisïau allweddol y Gronfa.
Mae pob un o’r criw newydd yn dod â set o sgiliau a phrofiadau gwahanol, ond eto maent yn unedig o ran eu hangerdd a’u hegni i wneud gwir wahaniaeth i’r genhedlaeth nesaf. Cewch wybod rhagor amdanynt yn ein blog diweddaraf.
Ellie (hi), 21, DU – aelod o’r Bwrdd

'Dw i'n ymgyrchydd brwd dros hawliau plant a chyfranogiad ieuenctid mewn prosesau gwneud penderfyniadau.
Ar hyn o bryd dw i'n Gadeirydd Senedd Ieuenctid yr Alban (SYP) ac yn aelod o’r SYP dros Glasgow Cathcart. Fel cadeirydd, dw i’n arwain y sefydliad a'r bwrdd o ymddiriedolwyr ac yn sicrhau bod mandad ieuenctid Senedd Ieuenctid yr Alban yn ganolog i bopeth a wnânt. Yn ogystal â fy rôl fel cadeirydd, dw i'n ymddiriedolwr i Young Scot, Elusen Gwybodaeth a Dinasyddiaeth Ieuenctid Cenedlaethol yr Alban.
Mi wnes i arwain prosiect ‘The Right Way’ i’r SYP sydd â'r nod o gefnogi swyddogion i gynnwys pobl ifanc yn eu gwaith mewn ffordd ystyrlon. Dw i hefyd yn gweithio ar faterion yn ymwneud â phrofedigaeth yn ystod plentyndod drwy fy ymgyrch, ‘Grieving and Growing’ a fy ngwaith ar banel cynghori 'It’s Time’ sy'n cefnogi pobl ifanc sydd wedi colli rhiant.
Dw i ar fin dechrau fy mlwyddyn olaf ym Mhrifysgol Glasgow yn astudio Gwleidyddiaeth a Chymdeithaseg. Dw i hefyd yn gweithio gyda'r tîm Profiad Myfyrwyr yng Ngholeg y Gwyddorau Cymdeithasol.
Dw i hefyd yn gweithio fel gweithiwr ieuenctid i ganolfan gofalwyr ifanc yn East Renfrewshire gan gefnogi eu rhaglen addysg cyfoedion.
Yn fy amser hamdden, dw i'n mwynhau mynd i gyngherddau, darllen, a chwarae gyda fy nhair cath!'’
Holly (hi), 26, Yr Alban

'Dechreuodd fy nhaith i ym maes cyfranogiad ieuenctid a llywodraethu yn 2020 pan gysgodais Tim Frew, Prif Weithredwr YouthLink Scotland, tra roeddwn yn y brifysgol. Ar ôl graddio, ymunais YouthLink Scotland fel eu Swyddog Datblygu Gwirfoddoli Ieuenctid, gan gydweithio â phobl ifanc a sefydliadau i gefnogi rhaglenni YouthVIP ac IWill. Cefais fy ysbrydoli wrth weld dros fy hun werth rhoi pobl ifanc wrth wraidd gwneud penderfyniadau. Yn 2022, symudais i UK Youth fel swyddog prosiect, lle daliais ati i gefnogi cyflwyno rhaglenni a arweinir gan bobl ifanc a datblygu fy sgiliau ymgysylltu â phobl ifanc ymhellach.
Yn 2024, ymunais â Chyngor ar Bopeth yr Alban (CAS) fel Swyddog Strategaeth a Llywodraethu a chefais fy newis i eistedd ar fwrdd ymddiriedolwyr Change Mental Health. Yn y ddwy rôl hon datblygais ddiddordeb mewn byrddau elusennau a llywodraethu cynhwysol. Dw i’n edrych ymlaen at ddod â fy nealltwriaeth unigryw, o weithio gyda bwrdd ymddiriedolwyr yn fy rôl o ddydd i ddydd, ynghyd â bod yn ymddiriedolwr fy hun, i bwyllgor yr Alban.
Mae fy mhrofiad o gyfranogiad ieuenctid a llywodraethu elusennau yn gyrru fy angerdd dros wneud gwahaniaeth. Dw i'n gyffrous i ddod â fy arbenigedd i Bwyllgor yr Alban ac yn credu'n gryf bod rhoi pobl ifanc wrth wraidd llywodraethu elusennau yn allweddol i greu newid parhaol.’
Caolan (ef/fo), 24, Gogledd Iwerddon

'Fy enw i yw Caolan McKiernan, ac mae'n anrhydedd cael ymuno â Phwyllgor Gogledd Iwerddon Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Mae cael y cyfle hwn yn 24 oed yn rhywbeth dw i’n falch iawn ohono. Dw i’n angerddol iawn am weithio gyda phobl ifanc a chefnogi eu datblygiad trwy waith ieuenctid. Dw i wedi gweld drosof fy hun yr effaith drawsnewidiol y mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ei chael ar unigolion a sefydliadau ledled Gogledd Iwerddon, yn enwedig o ran grymuso pobl ifanc a chryfhau cymunedau. Dw i’n gyffrous i gyfrannu at y gwaith hanfodol hwn a helpu i sicrhau bod ariannu’n cyrraedd y prosiectau sy’n gwneud gwir wahaniaeth i’w bywydau.
Fel rhywun sydd wedi byw yng ngorllewin Belfast gydol ei oes, dw i wedi ymroi i waith ieuenctid yn fy ngyrfa, wedi fy ysgogi gan fy mhrofiadau fy hun yn tyfu i fyny yn yr ardal. Ers dros bedair blynedd, dw i wedi gweithio yng Nghanolfan Ieuenctid yr Holy Trinity, lle dw i wedi cael y fraint o gefnogi a grymuso pobl ifanc, yn union fel y gwnaeth fy ngweithwyr ieuenctid i mi ar un adeg. Mae’r arweiniad gefais i mewn canolfannau ieuenctid wedi llywio fy llwybr, gan agor drysau i gyfleoedd sy’n newid bywyd, a dw i’n ymrwymedig i ddarparu’r un peth i’r genhedlaeth nesaf.
Ar hyn o bryd dw i yn fy nhrydedd flwyddyn o radd ran-amser pedair blynedd mewn Gwaith Ieuenctid Cymunedol ym Mhrifysgol Ulster, Belfast. Yn 2024, cefais y fraint o gwblhau rhaglen arweinyddiaeth o bell am 12 wythnos gyda’r Washington Ireland Programme Academy. Fel rhan o’r cynllun hwn, mi wnes i gyd-gyflwyno prosiect ar Blismona Cymunedol gydag arweinwyr ifanc o bob rhan o’r wlad. Ym mis Medi 2024, roedd yn anrhydedd cael gwobr Class Valedictorian, cydnabyddiaeth sy'n adlewyrchu fy ymrwymiad i arweinyddiaeth ac ymgysylltu â'r gymuned.
Dw i’n awyddus i ddod a fy mhrofiad, fy angerdd a fy mewnwelediad i Bwyllgor Gogledd Iwerddon Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Edrychaf ymlaen at weithio gyda fy nghyd-aelodau ar y Pwyllgor i gefnogi prosiectau sy'n gwneud gwir wahaniaeth a pharhaol yn ein cymunedau.'
Callum (ef), 26, Cymru

' Shwmae ! / Helo! Fy enw i yw Callum a dw i’n gyffrous iawn i ddechrau fel aelod o Bwyllgor Cymru. Dw i’n Wneuthurwr Ffilmiau a Hwylusydd Cyfranogol llawrydd wedi fy magu ym mhentref Brynaman yn ne Cymru, ond dw i bellach yn byw yn Abertawe. Astudiais Llenyddiaeth Saesneg ac Astudiaethau Ffilm a Theledu ym Mhrifysgol Aberystwyth a graddiais yn 2019.
Dechreuais fy ngwaith llawrydd yn 2021 yn ystod pandemig Covid-19 ac ers hynny dw i wedi gweithio gyda gwahanol grwpiau ieuenctid a chymunedol i greu ffilmiau, fideos a rhaglenni dogfen byr fel cyfrwng iddyn nhw ennill sgiliau ymarferol a phersonol, yn ogystal â rhoi'r adnoddau iddyn nhw adrodd eu straeon eu hunain. Dw i hefyd yn gweithio i Amgueddfa Cymru fel Cydlynydd Ymgysylltu a Gwirfoddoli, yn ogystal â fel Gweithiwr Cymorth Ieuenctid Sesiynol i YMCA Abertawe. Dw i hefyd yn aelod o Fwrdd Cyfarwyddwyr cwmni theatr ieuenctid yn Rhydaman o'r enw Mess Up the Mess.
Cyn hynny, roeddwn yn aelod o Fwrdd Cynghori Ieuenctid y Gronfa Gwaddol Ieuenctid, a leolir yn Llundain. Ar ôl gweithio yn y trydydd sector am y rhan fwyaf o fy ngyrfa broffesiynol fer, dw i’n gyffrous iawn i weld pethau o safbwynt yr ariannwr ac yn gobeithio defnyddio fy mhrofiadau bywyd a phroffesiynol i lywio fy rôl fel aelod o Bwyllgor Cymru.'
Millie (hi), 28, Lloegr

'Dw i wedi gwirfoddoli mewn amrywiaeth o rolau dros y 15 mlynedd diwethaf. Dechreuais pan oeddwn yn fy arddegau fel Swyddog Natur Ieuenctid gyda’r RSPB ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael fy nghydnabod am fy ymdrechion gwirfoddoli drwy gael cario’r Fflam Olympaidd cyn Gemau Olympaidd Llundain 2012!
Dw i’n angerddol dros chwaraeon ac arweinyddiaeth ieuenctid. Roeddwn yn Llysgennad Ifanc drwy gydol yr ysgol, gan symud ymlaen yn y pen draw i eistedd ar Grŵp Llywio Cenedlaethol y Llysgenhadon Ifanc, gan roi cyfeiriad i’r rhaglen arweinyddiaeth ieuenctid genedlaethol. Drwy gydol y brifysgol, mi wnes i barhau i rymuso arweinwyr ifanc oedd yn dod i'r amlwg fel Arweinydd Tîm yn yr Youth Sport Trust a chefnogi talent cenedlaethol a gwersylloedd egnïol i ferched. Gan ddefnyddio’r profiadau hyn, dw i bellach yn ymddiriedolwr yn Achieve, Thrive, Flourish, sy'n helpu pobl ifanc, trigolion lleol a rhanddeiliaid i nodi eu cryfderau, eu dyheadau a'u cyfleoedd a bod yn sbardun i greu newid cadarnhaol i bawb, yng nghalon eu cymuned.
Ar wahân i wirfoddoli, dw i wedi gweithio i'r elusen genedlaethol SportInspired , gan sefydlu eu rhaglen Arweinwyr Ifanc cyn arwain y Tîm Cymunedau yng Nghyngor Bwrdeistref Basildon lle cefais fy hyfforddi fel Arweinydd Datblygu Cymunedol yn seiliedig ar Asedau. Bellach, dw i’n gweithio fel Uwch Swyddog Datblygu Gwirfoddol a Chymunedol ym Mwrdeistref Tower Hamlets yn Llundain, gan arwain ar gyllid allanol a meithrin gallu yn y gymuned.
Dw i'n gyffrous i ddod a fy mhrofiadau fel arweinydd ifanc a fy angerdd dros ddatblygiad cymunedol sy’n seiliedig ar le i'r Gronfa.’
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Deyrnas Unedig