A allech chi helpu penderfynu sut mae arian y Loteri Genedlaethol yn cefnogi cymunedau yng Nghymru?

Aelod o Bwyllgor Gwlad

Mae gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol gyfle cyffrous i bobl sy’n angerddol dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i gymunedau yng Nghymru. Rydym yn chwilio am berson i ymuno â Phwyllgor Cymru.

Fel ariannwr mwyaf gweithgarwch cymunedol yn y DU, rydym ni’n dyfarnu grantiau o arian Achosion Da’r Loteri Genedlaethol i gymunedau ledled Cymru.

Ynglŷn â’r rôl

Mae Pwyllgor Cymru’n helpu llywio cyfeiriad strategol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru. Prif rôl aelodau’r Pwyllgor yw defnyddio eu gwybodaeth a’u meddwl strategol i helpu darparu cyfeiriad Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru, gwneud penderfyniadau ar geisiadau i’n pwyllgorau grant a bod yn llysgennad ar gyfer y Gronfa.

Mae’n amser cyffrous i ymuno â Phwyllgor y Gronfa yng Nghymru. Mae’r cyfle hwn yn dod ar adeg o newid arwyddocaol yn y Gronfa yn dilyn lansiad ein strategaeth newydd, Cymuned yw’r man cychwyn, sy’n gosod cyfeiriad newydd tuag at 2030. Bydd Aelodau Pwyllgor Cymru sy’n ymuno ar yr adeg gyffrous hon yn gyfrifol am oruchwylio cyflawniad yng Nghymru, pan ddisgwylir twf yn sgil achosion da, ynghyd â gwaith asedau segur parhaus y Gronfa.

Mae Pwyllgor Cymru yn dod â sylfaen eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad ynghyd sy’n adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau yr ydym yn eu hariannu a’u gwasanaethu. Y peth pwysicaf yw bod ymgeiswyr yn angerddol dros wneud Cymru’n lle gwell i bawb.

Rydym ni’n chwilio am rywun a fydd yn cynnig amrywiaeth eang o wybodaeth, sgiliau a phrofiad bywyd ac wedi’i ddysgu, yn enwedig rhywun sydd â chefndir ym myd busnes ac angerdd dros wneud Cymru’n lle gwell i bawb.

Dyma gyfle unigryw i gyfrannu at sefydliad sy’n trawsnewid bywydau pobl. Os ydych chi’n credu fod gennych chi’r cefndir a’r nodweddion personol sydd eu hangen, byddem wrth ein boddau i glywed gennych.

Gwybodaeth

Rôl anweithredol yw hon sy’n gofyn am ymrwymiad oddeutu 2 ddiwrnod y mis, ond gallai hyn amrywio o fis i fis. Telir y rôl ar gyfradd o £5232 y flwyddyn.

Lawrlwythwch y briff i ymgeiswyr i ddysgu rhagor am y rôl a sut i ymgeisio.

Lawrlwythwch gopi o’r ffurflen gais.

Lawrlwythwch gopi o’r ffurflen Cydraddoldeb, Tegwch a Chynhwysiant.

Dyddiadau

Dyddiad Cau: Dydd Iau 22 Awst 2024, ond rhowch wybod i ni os oes angen rhagor o amser arnoch i gwblhau’r ffurflen ar-lein.

Dyddiad Cyfweld: Disgwylir cynnal y cyfweliadau ym Medi 2024

Tegwch, Amrywiaeth a Chynhwysiant

Mae cymunedau yn y DU yn dod o bob lliw a llun. Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb – felly, rydym wedi ymrwymo i degwch, amrywiaeth a chynhwysiant ac rydym yn gweithio’n galed i sicrhau bod ein harian yn cyrraedd lle mae ei angen.

Rydym hefyd yn credu y dylai ein pobl gynrychioli’r cymunedau, sefydliadau, ac unigolion yr ydym yn gweithio gyda nhw. Dyna pam mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi ymrwymo i fod yn gyflogwr cynhwysol ac yn lle gwych i weithio. Rydym yn cydnabod ac yn dathlu’r ffaith fod ein pobl yn dod o gefndiroedd amrywiol. Rydym yn croesawu’n gadarnhaol geisiadau gan bobl o gefndiroedd ethnig leiafrifol, pobl ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirsefydlog, pobl LHDTC+ a phobl o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol ac addysgol gwahanol, yn ogystal â phobl o bob oedran.

Fel Cyflogwr Hyderus o ran Anabledd, rydym yn cymryd agwedd ragweithiol at wneud addasiadau rhesymol, os oes angen, drwy gydol y broses recriwtio ac yn ystod cyflogaeth.