Offer i’ch helpu casglu a defnyddio tystiolaeth a dysg
Ar y dudalen hon mae offer a deunyddiau rydym wedi’u hariannu.
1. Darganfod dysg o brosiectau eraill rydym wedi’u hariannu
Gallwch hefyd ddod o hyd i adroddiadau ymchwil a gwerthuso o wahanol brosiectau rydym wedi’u hariannu yn ein llyfrgell dystiolaeth.
2. Cael data i ddeall eich cymuned leol
Mae’r wefan hwn gan Happy City Thriving Places Index yn rhoi data i chi ar gryfderau a heriau ardaloedd lleol gwahanol yng Nghymru a Lloegr. Mae’n cynnwys tri phrif faes pwnc:
- cydraddoldeb
- cynaliadwyedd
- ac amodau’r ddinas
3. Gallwch ddefnyddio’r offer ar-lein am ddim yma
Gallwch lawrlwytho ein fframweithiau canlyniadau a chanllaw mesuriadau annibynnol. Rhestr yw hwn o offer ac adnoddau gall fod yn ddefnyddiol i chi i fesur y gwahaniaeth mae eich prosiect yn ei wneud. Gallwch ei ffiltro i ddod o hyd i offer ac adnoddau i’ch gwaith chi.
Gall yr offer ar-lein hyn eich helpu i gymharu eich data â mudiadau eraill
Gall defnyddio yr un offer â nifer o fudiadau eraill eich helpu i gymharu eich data. Felly os ydych eisiau cymharu eich canlyniadau, gallwch ddangos y darlun gyfan – a sut mae eich gweithgareddau yn ffitio fewn i hynny.
Mae’n haws defnyddio offer sydd wedi’u profi
Mae defnyddio offer ar-lein mae mudiadau eraill yn eu defnyddio yn haws na dechrau rhywbeth o’r newydd.
Gallwch ddefnyddio’r arolwg Happiness Pulse i fesur budd a lles. Mae hwn yn arolwg ar-lein pum munud o hyd sy’n mesur lles unrhyw fath o grŵp.
Mae’n trefnu eich holl ganlyniadau mewn i ddangos fwrdd. Gallwch hefyd lawrlwytho adroddiadau graffig.
4. Gallwch ddefnyddio’r canllawiau cam wrth gam hyn
Canllaw i fesur budd a lles
Canllaw ar-lein cam wrth gam gan y Ganolfan What Works for Wellbeing. Bydd yn eich helpu i ddeall os, a sut mae eich gweithgareddau yn effeithio lles y bobl rydych yn gweithio â nhw. Mae’n cynnwys canllaw ar sut i ddewis pa gwestiynau i’w defnyddio ac offer creu arolwg.
Canllaw bras i fesur unigrwydd
Mae’r canllaw hwn gan y Ganolfan What Works for Wellbeing yn darparu cyngor ac arweiniad ar sut i ddeall a mesur eich effaith ar leihau unigrwydd. Mae’n gosod y mesuriadau unigrwydd cenedlaethol gall prosiectau eu defnyddio. Mae’n cynnwys templed holiadur ar gyfer gwerthusiad unigrwydd.
5. Darganfod sut gallwch wella eich arfer
Mae Inspiring Impact yn cynnig dau offeryn hunan-asesiad. Gall rhain ddangos i chi sut i leihau eich effaith, arfer a chasgliad data. Ar ôl ateb y cwestiynau hunan-asesiad, rydych yn derbyn adroddiad personol sy’n dweud wrthych beth i’w wneud nesaf.
6. Cymorth gan fudiadau arbenigol
Beth gallent eich cefnogi gyda:
- Cefnogaeth ymarferol i bob cam o waith data a thystiolaeth
- Cynllunio, deall a gwella eich effaith
- Cyfathrebu, cymharu a rhannu eich canlyniadau
- Cyfnewid arfer
Sut gallent eich cefnogi:
- Cefnogaeth ariannol
- Adnoddau ar-lein
- Hyfforddiant ar-lein
- Offer hunanasesu
- Rhwydweithiau dysgu cymheiriaid
Charity Evaluation Working Group (Linkedin Group)
Beth gallent eich cefnogi gyda:
- Rhwydwaith cefnogaeth cymheiriaid i weithwyr proffesiynol gwerthuso elusennau
- Cyfnewid dysgu ac arfer
- Mynediad i Gymunedau Ymarfer (Iechyd a Lles).
Sut gallent eich cefnogi:
- Wyneb i wyneb a hyfforddiant ar-lein
- Canllaw cam wrth gam ar-lein
- Mynediad at gronfeydd data
Beth gallent eich cefnogi gyda:
- Paru ystadegwyr arbenigol â mudiadau menter gwirfoddol, gymunedol a chymdeithasol
- Cefnogaeth ymarferol i gasgliad a dadansoddiad data
Sut gallent eich cefnogi:
- Cefnogaeth wedi’i deilwra un i un
Alliance for Useful Evidence - Nesta
Beth gallent eich cefnogi gyda:
- Cyngor ar sut i ddefnyddio tystiolaeth yn effeithiol
- Eirioli ac adeiladu cynghreiriau a phartneriaethau strategol ar gyfer defnydd craffach o dystiolaeth
Sut gallent eich cefnogi:
- Rhwydweithiau cymheiriaid
- Dosbarth meistr tystiolaeth
- Digwyddiadau hyfforddi
- Adnoddau
- Cyngor