Rhoi gwybod i ni sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen
Os oes gennych grant Loteri Genedlaethol o dros £10,000 gennym i brosiect sy’n para dwy flynedd neu fwy, byddwn yn gofyn i chi ddweud wrthym sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen yn flynyddol (rydym yn galw hyn yn ddiweddariad datblygiad). Byddwn hefyd yn cael sgyrsiau â chi’n rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Ond gallwch dal gysylltu â ni ar unrhyw bryd os oes rhywbeth hoffech sgwrsio am neu gael cymorth gyda.
Rydym eisiau sicrhau bod eich prosiect yn mynd yn iawn
Ond mae hefyd yn gyfle i chi adlewyrchu a dysgu o’r gwaith rydych yn ei wneud, a gweld os y gall wella’r hyn rydych yn ei wneud yn y dyfodol.
- Beth i’w ddweud wrthym yn niweddariad eich prosiect
- Dylech gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi
- Gallwch roi diweddariad o’ch prosiect mewn amryw o ffurfiau gwahanol
- Pam rydym yn gofyn am ddiweddariadau ar eich prosiect
- Beth a wnawn â’r wybodaeth am eich prosiect
- Cofiwch rannu eich stori o’ch arian Loteri Genedlaethol yn ehangach hefyd
Beth i’w ddweud wrthym yn niweddariad eich prosiect
Rydym eisiau gwybod sut mae eich prosiect wedi dod yn ei flaen dros y 12 mis diwethaf. Dyma’r pethau rydym fel arfer yn hoffi gwybod amdanynt.
Gall yr union wybodaeth rydym yn gofyn amdano newid yn ddibynnol ar:
- lle mae eich prosiect wedi’i leoli yn y DU
- pa wybodaeth oeddech chi a’ch Swyddog Ariannu wedi cynllunio ei gasglu am eich prosiect pan ddechreuodd.
- pa raglen mae eich rhaglen yn rhan ohoni.
Dylech gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi
Weithiau, mae’r bobl rydym yn ei ariannu yn credu y dylent gasglu dysg i ni. O ganlyniad, maent yn ceisio casglu pethau maent yn meddwl byddem yn ei hoffi, yn hytrach na’r hyn sy’n ddefnyddiol iddyn nhw. Ond dylai’r ddysg fod yn ddefnyddiol i chi a’ch prosiect.
Os ydych eisiau mwy o wybodaeth am sut i gasglu dysg sy’n ddefnyddiol i chi, eich prosiect a’ch cymuned, dewch o hyd iddo yma.
Gallwch roi diweddariad o’ch prosiect mewn amryw o ffurfiau gwahanol
Gallwch roi’r wybodaeth i ni yn y ffordd sy’n gweithio orau i chi, er enghraifft drwy ddefnyddio:
- gwerthusiad
- adroddiad blynyddol
- adborth gan staff, gwirfoddolwyr a chyfranogwyr
- graffiau, siartiau, ystadegau a data
- deciau sleidiau a phostiadau blog
- fideos, lluniau a ffeithluniau
- cofnodion cyfarfodydd
Os oes gennych ffynhonnell wahanol o ariannu i’ch prosiect
Efallai eich bod eisoes yn ysgrifennu’r math yma o adroddiadau iddyn nhw hefyd. Felly nid ydym eisiau gwneud i chi orfod ysgrifennu adroddiad gwbl newydd i ni hefyd. Mae hyn y golygu gallwch anfon rhywbeth rydych eisoes wedi’i ysgrifennu i fudiadau eraill sy’n trafod y pethau rydym yn eich ariannu ar eich cyfer. Os ydych yn anfon rhywbeth rydych eisoes wedi’i ysgrifennu, uwch oleuwch y darnau sy’n berthnasol i ni.
Pam rydym yn gofyn am ddiweddariadau ar eich prosiect
Hoffem i chi ddal i edrych ar y gwahaniaeth mae eich arian Loteri Genedlaethol yn ei wneud yn eich cymuned – a gweld os oes unrhyw beth allwch ei ddysgu o’r gwaith rydych yn ei wneud er mwyn gwella sut rydych yn gweithio yn y dyfodol.
Hoffem ddefnyddio eich diweddariadau i wella ein gwaith ni hefyd – a rhannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu gyda grwpiau eraill i’w helpu i drawsnewid eu cymunedau eu hunain.
Rydym hefyd eisiau gwybod sut rydych yn defnyddio ein harian a beth mae’n cael ei ddefnyddio ar ei gyfer. Felly weithiau rydym angen cael y diweddariadau gennych cyn i ni allu talu mwy o’ch arian.
Beth a wnawn â’r wybodaeth am eich prosiect
Bydd eich Swyddog Ariannu yn edrych ar y wybodaeth byddwch wedi’i anfon i ni. Gallent roi adborth i chi, trafod ffyrdd o gefnogi eich gwaith neu rannu’r hyn rydych wedi’i ddysgu ag eraill.
Os hoffech eich dysg gael ei rannu’n ehangach, gallwch ofyn i ni feddwl am ei ychwanegu i'n Llyfrgell Dystiolaeth – efallai hoffech gymryd golwg a gweld os oes unrhyw ddysg sy’n berthnasol i chi yna.
Cofiwch rannu eich stori o’ch arian Loteri Genedlaethol yn ehangach hefyd
Gallwch ddefnyddio’r wybodaeth rydych wedi’i gasglu i ddweud wrth eich cymuned sut mae eich prosiect yn dod yn ei flaen. Gallent wedyn weld y gwahaniaeth mae arian y Loteri Genedlaethol yn ei wneud mewn cymunedau ledled y DU. Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth, logos a deunyddiau am ddim i’ch helpu i wneud hyn yma.