Dywedwch wrth bawb am eich grant trwy gyfryngau cymdeithasol

Mae sianelau cyfryngau cymdeithasol fel Facebook, Twitter ac Instagram yn ddulliau gwych o hysbysebu'ch grant a'r gwaith rydych yn ei wneud.

Mae'n hawdd iawn i greu cyfrif ar y llwyfannau cyfryngau cymdeithasol hyn. Mae'n syniad da i neilltuo rhywun i reoli eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol er mwyn i chi barhau i rannu gwybodaeth ac ymateb i unrhyw sylwadau.

Rydym am i chi:

  1. Rhannu eich newyddion grant ar y cyfryngau cymdeithasol, gan ddefnyddio #LoteriGenedlaethol i ddiolch i chwaraewyr.
  2. Dilyn Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ar y cyfryngau cymdeithasol: rydym ar Twitter (@TNLComFundWales) Facebook (The National Lottery Community Fund/ Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol), Instagram a LinkedIn.
  3. Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i rannu newyddion am eich prosiect drwy gydol eich grant.
  4. Rhoi caniatâd i ni rannu eich lluniau a fideos ar ein sianelau digidol, drwy lofnodi a chyflwyno ein ffurflen cydsyniad.

Wedyn gallwn rannu'ch storïau gyda'r gymuned Loteri Genedlaethol ehangach!

Gofynnir i chi gydnabod cefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol trwy ddefnyddio'r hashnod #LoteriGenedlaethol wrth bostio cynnwys sy'n gysylltiedig â'ch grant.