Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn darllen hawdd o’r arweiniad
Mae’r rhaglen peilot 2019 bellach ar gau
Nid ydym yn derbyn ceisiadau i’r rhaglen hwn bellach. Yn dilyn y peilot, lansiom rhaglen Profiadau o Lygad y Ffynnon 2020 ac mae hwn hefyd wedi cau i geisiadau bellach.
Gallwch ymgeisio os yw eich mudiad:
- Wedi cael ei sefydlu gan arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon a/neu
- Yn cael ei redeg gan arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon a/neu
- Ag arweinwyr sy’n adlewyrchu’r sawl yr ydych eisiau ei gefnogi
A’i fod hefyd yn un o’r canlynol:
- mudiad gwirfoddol neu gymunedol
- elusen gofrestredig
- grŵp neu glwb sydd â chyfansoddiad
- cwmni nid er elw neu gwmni buddiant cymunedol
- menter gymdeithasol
Ni allwn dderbyn ceisiadau oddi wrth:
- unigolion
- unig fasnachwyr
- cwmnïau sy’n anelu at greu elw yn bennaf i’w ddosbarthu’n breifat
- mudiadau a leolir y tu allan i’r Deyrnas Unedig
- ceisiadau a wneir gan un mudiad ar ran un arall
- ysgol
- corff statudol (gan gynnwys cynghorau tref, plwyf a chymuned).
Os nad ydych yn diwallu’r meini prawf ymgeisio, edrychwch am raglenni ariannu eraill y gallwch fod yn gymwys ar eu cyfer yma:
Beth ydym ni’n edrych amdano yn eich cais?
Rhaid i’ch cais ddiwallu o leiaf un o’r tair blaenoriaeth ariannu
Ein blaenoriaethau yw:
- treialu a dysgu am wahanol ffyrdd y gallwn ddatblygu arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon
- cefnogi gwaith i newid y ffordd y caiff profiad o lygad y ffynnon ei ystyried a’i werthfawrogi wrth wneud penderfyniadau
- annog enghreifftiau dyfeisgar o sut i ddatblygu profiad o lygad y ffynnon ar bob lefel o fewn mudiad
Mae’r mathau o gynigon y gallwn eu derbyn yn cynnwys:
- rhaglenni neu gynlluniau arweinyddiaeth sy’n ymwneud â datblygu arweinyddiaeth, megis mentora neu hyfforddi
- dulliau sefydlu arweinyddiaeth â phrofiad o lygad y ffynnon o fewn mudiad fel y gall y mudiad ddod yn fwy cynaliadwy, e.e. gwella strwythurau llywodraethu/gwneud penderfyniadau, cynllunio olyniaeth, pecynnau cefnogaeth ar gyfer lles
- herio a hyrwyddo ffyrdd ystyrlon o sefydlu arweinyddiaeth â phrofiad o lygad y ffynnon wrth ddylunio a chyflwyno gwasanaethau
- prosiectau sy’n cyflwyno arbenigedd gydag arweinyddiaeth â phrofiad o lygad y ffynnon ar gyfer thema, lleoliad, gwasanaeth neu sector lle maent yn cael eu tangynrychioli
Mae eich prosiect neu weithgaredd wedi'i arwain gan bobl â phrofiad o lygad y ffynnon
Mae’n bwysig dweud wrthym ni fod pob mudiad a ariennir trwy’r rhaglen hon yn cael eu harwain gan arweinwyr â phrofiad o lygad y ffynnon. Rydym eisiau pobl â phrofiad o lygad y ffynnon i fod ar y blaen wrth ddylunio, datblygu a chyflwyno gweithgareddau y maent yn eu cynllunio.
Er enghraifft, gall arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon fod yn:
- rhywun a fu’n ddigartref sy’n gweithio i wella gwasanaethau digartrefedd
- unigolyn â HIV sydd wedi sefydlu ac yn rhedeg gwasanaeth cefnogi rhwng cymheiriaid i bobl eraill sydd â HIV
- unigolyn sydd wedi colli anwylyn i hunanladdiad ac wedi sefydlu ac yn rhedeg grŵp cefnogi i eraill sydd wedi colli rhywun trwy hunanladdiad.
Ni fyddai arweinydd â phrofiad o lygad y ffynnon yn:
- unigolyn heb fod yn anabl sydd wedi gwirfoddoli gyda phobl anabl, ac eisiau sefydlu elusen i’r anabl
- rhiant/gofalwr i rywun â HIV sydd wedi sefydlu grŵp cefnogi i bobl sydd â HIV
- rhywun dosbarth canol sy’n rhedeg cynllun mentora dosbarth gweithiol.