Arweiniad ar dracio cynnydd
Arweiniad ar dracio cynnydd
Dangosyddion
Mae dangosyddion yn ein helpu i ddeall arwyddion newid a thracio cynnydd tuag at gyflawni'r newid hwnnw.
Mae dangosydd yn arwydd bod y canlyniad, neu newid, yn digwydd. Yn aml, mynegir dangosyddion fel:
- i ba raddau y gellir ...
- y gallu i ...
- y swm o ...
I wybod p'un a ydych yn gwneud cynnydd tuag at gyflawni canlyniadau ai beidio, bydd angen i chi bennu o leiaf un dangosydd ar gyfer pob canlyniad. Bydd eich dangosyddion a'u lefel yn eich helpu i wybod p'un a yw newid penodol yn digwydd, ac i ba raddau y mae canlyniad penodol yn cael ei gyflawni dros fywyd y prosiect.
Ar ôl i chi adnabod y newid y dymunwch ei wneud (eich canlyniadau), y dangosydd yw'r ateb i'r cwestiwn: "os yw newid yn digwydd, sut byddwn ni'n gwybod amdano?" Mae'n helpu i ystyried y cwestiwn hwn yn gyntaf, cyn meddwl am sut i'w fesur. Er enghraifft:
Canlyniad | Sut byddwn ni'n gwybod? |
Pobl hŷn sy'n llai unig | Bydd newid yn nifer y bobl hŷn sy'n dweud eu bod yn profi unigedd |
Llai o fandaliaeth yn yr ardal | Bydd newid yn nifer yr achosion yr adroddir amdanynt |
Mae gan fudiadau gwirfoddol bach well dealltwriaeth o sut i gynhyrchu incwm | Bydd newid yn lefel y ddealltwriaeth o sut i gynhyrchu incwm o fewn mudiadau bach yn yr ardal (a thros y tymor hwy, newid mewn incwm) |
Mesur cynnydd
Hefyd, bydd angen i chi bennu:
- graddfa neu lefel y newid y dymunwch ei wneud, megis faint o bobl yn gyffredinol fydd yn profi'r canlyniadau yn sgil eich prosiect, a
- sut y byddwch yn mesur y newid er mwyn i chi wybod faint o gynnydd rydych yn ei wneud tuag at gyflawni eich canlyniadau.
Gellir mynegi dangosyddion canlyniadau mewn niferoedd (er enghraifft, gostyngiad mewn llygredd), neu mewn geiriau (er enghraifft wrth asesu safbwyntiau neu brofiadau pobl, megis teimladau pobl ifanc o hunanhyder, neu allu rhieni i ymdopi gyda'u plant).
Ar gyfer pob dangosydd a ddefnyddiwch i fesur cynnydd, bydd angen i chi ddangos faint o gynnydd rydych wedi'i wneud o flwyddyn i flwyddyn. Bydd hyn yn golygu amcangyfrif lefelau a graddfeydd amser ar gyfer eich dangosyddion, er enghraifft "bydd gan 200 o drigolion lleol agwedd fwy positif at bobl ifanc erbyn diwedd yr ail flwyddyn".
Un ffordd o feddwl am fesur cynnydd yw dychmygu cwrdd ag un o'ch buddiolwyr am y tro cyntaf ac eto wedyn ar ôl i wythnos, mis neu flwyddyn fynd heibio:
- Beth maen nhw'n ei wneud pan fyddwch yn cwrdd am y tro cyntaf? Beth gallen nhw fod yn ei ddweud? Sut maen nhw'n ymgysylltu (neu'n methu ag ymgysylltu) â'r prosiect? Sut ydych chi'n gwybod bod ganddyn nhw anghenion?
- Sut byddech chi'n ateb y cwestiynau hyn yng nghanol y prosiect, neu ar ddiwedd eu cyfranogiad yn eich prosiect? Beth fydd yn wahanol ar eu cyfer o ran eu sgiliau, eu hagwedd neu eu gwybodaeth?
Gallech chi osod yr wybodaeth hon allan mewn ffordd sy'n debyg i'r enghraifft a ganlyn:
Canlyniad | Dangosydd | Lefel y dangosydd | Amserlen |
Pobl hŷn sy'n llai unig | Nifer y bobl hŷn sy'n dweud eu bod yn teimlo'n unig | Mae 50 o bobl hŷn yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig Mae 100 o bobl hŷn yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig At ei gilydd mae 250 o bobl hŷn yn adrodd eu bod yn teimlo'n llai unig | Erbyn blwyddyn 1 Erbyn blwyddyn 2 Erbyn diwedd y prosiect |
Llai o fandaliaeth yn yr ardal | Nifer yr achosion o fandaliaeth yr adroddir amdanynt | Adroddir am 10 achos bob mis Adroddir am 5 achos bob mis Adroddir am 1 achos bob mis | Erbyn blwyddyn 1 Erbyn blwyddyn 2 Erbyn diwedd y prosiect |
Mae gan fudiadau gwirfoddol bach well dealltwriaeth o sut i gynhyrchu incwm | Lefel y ddealltwriaeth o gynhyrchu incwm o fewn mudiadau bach yn yr ardal | 100 people attend training 150 o bobl yn gwneud hyfforddiant At ei gilydd mae 400 o bobl wedi gwneud hyfforddiant (mae arolygon dilynol gyda mudiadau sy'n cymry drhan yn dangos cynnydd mewn gweithgareddau cynhyrchu incwm ym mlynyddoedd un, dau a thri) | Erbyn blwyddyn 1 Erbyn blwyddyn 2 Erbyn diwedd y prosiect |
Mewn rhai prosiectau mae'n bosib y bydd canlyniadau hanner y ffordd drwodd, h.y. y newidiadau sylweddol a geir cyn cyrraedd y canlyniad dymunol pennaf. Os mai dyna'r achos, gallwch adnabod y camau ar hyd y ffordd a'u llenwi nhw i mewn, gan ddisgrifio sut rydych yn gwybod bod y buddiolwyr wedi symud trwy'r cam.
Mewn rhai prosiectau, megis helpu pobl i fwyta'n fwy iach mae'n bosib y bydd y buddion go iawn, fel gostyngiad mewn clefyd y galon a mathau eraill o salwch yn dod i'r amlwg dim ond ar ôl i flynyddoedd neu ddegawdau fynd heibio. Yn y cyfryw achos, bydd yn fwy realistig ac ymarferol i fesur newidiadau mewn ffactorau fel gwybodaeth, agweddau ac ymddygiad: camau ar hyd y ffordd.
Yn ystod bywydau llawer o brosiectau ceir rhai canlyniadau annisgwyl, naill ai rai dymunol neu annymunol. Gallai fod yn fuddiol i gofnodi'r canlyniadau annisgwyl hyn, gan y bydd yr wybodaeth hon yn eich helpu i ddysgu o'ch prosiect a'i addasu wrth i chi symud yn eich blaen.
Byddwn ni ac arianwyr eraill yn gofyn i chi pa gynnydd yr ydych wedi'i wneud tuag at gyflawni eich canlyniadau wrth i amser fynd heibio, felly bydd angen i chi ychwanegu at yr wybodaeth hon o flwyddyn i flwyddyn. Gan hynny, mae adnabod dulliau ymarferol a realistig o fesur cynnydd yn hanfodol i lwyddiant eich prosiect a'ch perthynas â'ch arianwyr.