Y prosiectau rydym yn ei ariannu

Rydym yn cefnogi prosiectau sy’n cefnogi pobl a chymunedau ledled y DU i ffynnu.

Rydym yn ariannu llawer o wahanol weithgareddau trwy amrywiaeth o raglenni ariannu. Gallwch ddarganfod mwy am sut i ymgeisio isod, gan gynnwys:

Beth sy’n gwneud cais da

Rydym eisiau ariannu syniadau da sy’n gwneud o leiaf un o’r tri pheth hyn:

  • dod â phobl ynghyd a chreu perthnasau cryf mewn ac ar draws cymunedau
  • gwella’r lleoedd a’r gofodau sy’n bwysig i gymunedau
  • helpu mwy o bobl i gyflawni eu potensial trwy eu cefnogi yn y cam cynharaf posibl.

Gan ddibynnu ar ba raglen ariannu rydych yn ymgeisio iddi, gallwn ofyn am fwy o wybodaeth. Er enghraifft, sut mae eich prosiect yn ffitio gyda’r gweithgareddau eraill sydd eisoes yn digwydd yn eich cymuned.

Defnyddio adnoddau Deallusrwydd Artiffisial mewn ceisiadau grant

Mae adnoddau Deallusrwydd Artiffisial (AI) yn gynyddol wreiddio yn ein bywydau. Mae adnoddau fel ChatGPT, Gemini, Copilot a Claude yn newid y ffordd y mae pobl yn gweithio trwy arbed amser a gwella hygyrchedd. Rydym yn deall y bydd y cymunedau rydym yn eu gwasanaethu yn awyddus i ganfod ffyrdd o ddefnyddio’r adnoddau hyn yn eu gwaith eu hunain.

Darllen ein datganiad ar Ddeallusrwydd Artiffisial (AI)

Sut i gael syniad gwell o’r prosiectau rydym yn debygol o’u hariannu.
Edrychwch ar y prosiectau rydym eisoes wedi'u hariannu.

Faint o arian rydym yn ei gynnig ac am ba mor hir

Rydym yn cynnig gwahanol niferoedd o ariannu, yn ddibynnol ar yr hyn rydych eisiau ei wneud. Gallwch ymgeisio am:

Fel arfer, y mwyaf o arian grant rydych yn ymgeisio amdano, yr hiraf mae’n ei gymryd i chi baratoi eich cais (ac i ni ei asesu). Ond gallwch gael syniad gwell o ba mor hir mae’n debygol o’i gymryd trwy edrych ar y gwahanol ffyrdd rydym yn cynnig arian grant – sy’n cael eu hadnabod fel rhaglenni.

Am ba mor hir gallwch gael arian grant?
Os ydych yn derbyn llai na £20,000 o arian grant, bydd gennych hyd at ddwy flynedd i orffen (o’r dyddiad rydych yn dweud wrthym y bydd yn dechrau).

Yn gyffredinol, gall prosiectau sy’n costio dros £20,000 redeg o un flynedd i bum mlynedd (ond mi all hyn newid yn ddibynnol ar y rhaglen rydych yn ymgeisio iddi).

Ar beth allwch wario’r arian

Mae yna nifer o ffyrdd gwahanol rydym yn cynnig arian grant (yn cael eu hadnabod fel rhaglenni). Ac mae beth allwn ei ariannu yn dibynnu ar y rhaglen rydych yn ymgeisio iddi.

Yn gyffredinol, gallwn ariannu:

  • costau cyfalaf (fel adeiladau a gwelliannau tir)
  • costau staff
  • costau rhedeg
  • gweithgareddau
  • offer
  • costau craidd eraill sydd ei angen i gefnogi’r prosiect.

Weithiau, rydym hefyd yn talu am arian grant i’ch helpu i barhau â phrosiect llwyddiannus.

Pa gostau nid ydym yn ei ariannu

Ni allwn ariannu:

  • alcohol
  • benthyciadau neu daliadau llog
  • gweithgareddau crefyddol
  • gweithgareddau er elw neu godi arian
  • TAW y gallwch ei hawlio yn ôl
  • gweithgareddau statudol
  • eitemau neu weithgareddau ar gyfer budd personol
  • costau y talwyd amdanynt eisoes cyn i chi gael arian gennym.

Os nad ydych yn siŵr os byddem yn ariannu eich prosiect

Cymrwch olwg ar y mathau o brosiectau rydym eisoes wedi'i ariannu. Gallwch gysylltu â ni am gyngor hefyd.