Ciara Lawrence and Edel Harris, Mencap
Mae cyfathrebu eglur wedi bod yn hanfodol yn ystod y pandemig. Mae’n flaenoriaeth allweddol i’r elusen anableddau dysgu, Mencap, o gyngor iechyd hygyrch a dealladwy i sedd y sector elusennol ei hunan wrth y bwrdd. Mae Zoë Anderson, Rheolwr Gwybodaeth a Dysgu yn clywed oddi wrth y prif weithredwr, Edel Harris ac oddi wrth Ciara Lawrence, swyddog gwybodaeth Mencap sydd wedi ymuno erbyn hyn â thîm strategaeth yr elusen.
Mae fersiwn Hawdd ei Darllen o’r dudalen hon ar gael ar-lein yma. Gellir ei lawr lwytho hefyd fel PDF: Fersiwn Hawdd ei Darllen Mencap (PDF 978 KB)
Mae Covid-19 wedi taro rhai grwpiau a chymunedau yn galetach. Canfu’r Swyddfa Ystadegau Gwladol fod y risg o farwolaeth o goronafeirws yn 3.7 gwaith yn fwy i bobl sydd ag anabledd dysgu. Mae nifer ohonynt wedi cael eu gwahanu a’u torri ymaith o’u cefnogaeth a’u cysylltiadau arferol, neu wedi cael anhawster yn deall y newid mewn rheolau.
Yn Lloegr, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi prosiect Home Not Alone Mencap gyda grant o £100,000. Gan weithio i ostwng unigrwydd, mae’r prosiect yn helpu staff, gwirfoddolwyr a phobl sydd ag anabledd dysgu i ddod yn bencampwyr digidol, trwy gyflwyno gweithgareddau ar-lein, rhannu adnoddau a chyd-ddylunio’r rhaglen. Yng ngogledd Iwerddon, mae’r Gronfa hefyd wedi cefnogi gwaith Mencap ar waith ymyrraeth gynnar yn y cartref yn ystod y pandemig.
Esbonio cyfnodau clo i bawb
Mae Ciara, sydd ag anabledd dysgu, yn siarad yn angerddol am effaith Covid-19 ar bobl anabl. “Maen nhw wedi cael eu rhoi o’r neilltu o fewn ystyriaethau. Nid oes digon o wybodaeth dda, ddealladwy ac eglur wedi bod ar gael. Mae nifer o bobl wedi bod yn ymdopi heb eu cefnogaeth gofal cymdeithasol arferol, felly nid ydynt wedi cael help i ddeall y cyfarwyddyd.”
Oherwydd bod pobl ag anabledd yn gallu bod yn fwy agored i niwed o ran Covid-19, mae wedi bod yn arbennig o bwysig eu bod yn deall y cyfarwyddyd, sydd wedi cael ei newid neu ei ddiweddaru’n aml. Ond nid oes cefnogaeth gan bawb i wneud hynny. “Pan ddechreuodd y cyfnod clo cyntaf, nid oeddwn yn deall yr hyn roeddwn yn cael caniatâd i’w wneud,” esboniodd Ciara. “Fe gymerodd lawer o ymdrech gan fy mam – yn rhithiol, dros y ffôn, dros yr e-bost – i geisio esbonio hyn i mi.”
Mae elusennau a sefydliadau anableddau wedi datblygu cyngor dealladwy a hygyrch, gan gydweithio i osgoi dyblygu. “Rydym yn falch iawn o’r rôl rydym wedi chwarae wrth drosi a chyfieithu’r cyfarwyddyd hwn sy’n newid yn gyson,” esboniodd Edel Harris. “Rydym yn gwybod fod elusennau eraill sy’n gweithredu o fewn y gofod hwnnw. Yn hytrach na’n bod i gyd yn gwneud hynny felly, rydym wedi dod ynghyd a gweld pwy sydd yn y sefyllfa orau, pwy sydd â’r capasiti neu’r adnoddau i arwain y gwaith hwnnw. Digwyddodd hynny’n gyflym iawn.”
Yn Mencap, roedd Ciara wedi creu gweithgor deunyddiau hawdd i’w darllen i ddatblygu cyfarwyddyd gwell. Gan weithio gyda chydweithwyr eraill sydd ag anabledd dysgu, “derbynion ni’r dogfennau, gan edrych arnynt a’u darllen, a dywedon ni, “a yw hyn yn hawdd i’w ddeall? A yw’r lluniau yn iawn? A ydynt yn gwneud synnwyr? A yw’r testun yn rhy hir? A oes geiriau hawdd a dealladwy?” Rydym yn sicrhau fod popeth mor ddealladwy a hygyrch ag sy’n bosibl. Oherwydd os ydym yn gosod rhywbeth ar ein gwefan, mae hynny’n cynrychioli ein henw da.”
Roedd hefyd yn golygu cydnabod y bydd anghenion a dewisiadau gwahanol sy’n cael eu ffafrio gan y gynulleidfa. “Mae 1.5 miliwn o bobl yn byw ag anabledd dysgu yn y DU,” dywedodd Ciara. “Mae hynny’n llawer o bobl. Dim ond un ohonynt ydw i. Ond os byddaf yn gweithio gyda llawer o bobl wahanol, gallwn sicrhau ei fod yn addas i bawb.
“Mae’r grŵp hwnnw wedi bod mor bwerus, maen nhw wirioneddol wedi helpu i greu newid. Nawr mae Mencap yn meddwl am sut y gallant eu defnyddio yn y dyfodol, sy’n wych. Rwyf wedi gweld ambell ddarn o adborth hyfryd oddi wrth deuluoedd, yn dweud, “Rwyf wedi ei esbonio i’m mab neu ferch erbyn hyn, a nawr rydym yn deall.’ Mae hynny’n wych. Mae’n golygu ein bod wedi gwneud ein gwaith a’n bod wedi’i wneud yn wirioneddol dda.”
Llais eglur i’r sector
I Edel, mae eglurdeb a chydweithrediad yn hanfodol o ran sut mae’r sector yn siarad dros ei hunan a’r sawl mae’n ei gefnogi. “Dydw i ddim yn meddwl fod gan y sector elusennol un llais, yn enwedig yn Lloegr,” dadleua. Mae’n cymharu hyn gyda’i blynyddoedd yn gweithio yn Yr Alban, lle “roedd gan y trydydd sector lais, roedd ganddynt sedd wrth y bwrdd. Yn gymaint ag yr wyf yn meddwl fod gennym nifer o gymdeithasau masnachu, cyrff cynrychiadol … mae Covid wedi datgelu hyn: rydym oll yn siarad gyda’r un bobl, yn ceisio lobïo a newid pethau, ac rydym oll yn baglu dros ein gilydd. Mae angen i ni gael llais uwch ac mae angen i ni gael un llais.”
Sut mae unioni hyn gyda’r angen i gydnabod amrywiaeth y sector, sydd â nifer o farnau a safbwyntiau gwahanol? “Os byddem yn gwybod yr ateb un frawddeg i hynny, fe fyddem yn debygol o fod yn wraig gyfoethog iawn! Mae cymaint o sefydliadau cymunedol ac elusennol anhygoel, sy’n darparu’r cyfrwng ar gyfer eu mater penodol neu grŵp neilltuol o bobl i gael gwrandawiad. Nid ydym eisiau colli hynny. Ond rwy’n meddwl mwy am fod yn rhan o ymateb cenedlaethol. Rwy’n meddwl yn fwy strategol wrth ystyried un llais i’r sector.
“Gofynnwyd i ni fod yn rhan o lawer o gyfarfodydd a grwpiau gorchwyl. Maent oll wedi bod yn berthnasol ac yn bwysig, ac eto pan fyddwch yn mynd i’r cyfarfod, yr un hen wynebau rydych yn eu gweld o amgylch y bwrdd. Mae’n lle sy’n ofnadwy o orlawn. Beth yw rôl y sector elusennol yn yr argyfwng cenedlaethol, wrth fod yn bartner cydradd tra’n penderfynu’r ymateb? Yn y ffordd mae’r GIG, yr awdurdodau lleol, y llywodraeth yn cydweithio ar y lefel strategol honno.”
Gweledigaeth a gwerthoedd
Mae Edel hefyd yn edrych ar fath arall o eglurdeb. “Yn y bôn, os ydych yn elusen mae’n rhaid i chi gael diben eglur – gweledigaeth a chyfres o werthoedd. Pan fyddwch yn edrych ar bethau mewn ffordd sylfaenol heb yr holl elfennau, dyna sy’n eich cadw’n sefydlog pan fyddwch yn ymateb i argyfwng.” Dechreuodd Mencap weithio ar strategaeth newydd ar ddechrau 2020, cyn y pandemig. “Felly rydym wedi dechrau dadansoddi ein hunain, i edrych ar ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol.” Mae Covid-19 wedi cyflymu’r holl feddylfryd hon.”
Beth yw’r weledigaeth? “I’r DU fod y lle gorau i fyw bywyd hapus ac iachus os oes gennych anabledd dysgu. Mae ein strategaeth gyfan ar gyfer y dyfodol yn seiliedig ar y gynsail o barhau i wrando a chael ein harwain o ddifrif gan y bobl sydd ag anabledd dysgu a’u teuluoedd. Rydym yn siarad llawer mwy am ddull mwy cymunedol sy’n canolbwyntio ar bartneriaeth o ran y ffordd y byddwn yn gwneud pethau yn y dyfodol.”
O’r man cychwyn hwnnw, fe weithion nhw “ar ei nôl i bob diben, gan edrych ar ein gwerthoedd trefniadaethol, ein pwrpas. A oes sefydliadau eraill mewn sefyllfa well i gyflwyno’r effaith yr ydym yn dymuno ei weld ar gyfer pobl ag anabledd dysgu? Sut ydym ni’n chwarae gwahanol fath o rôl i gyflawni’r weledigaeth honno – nid o anghenraid trwy wneud y cyfan ein hunain, ond sut ydym ni’n gweithio mewn partneriaeth ag eraill ac yn cefnogi eraill i wneud i bethau gwych ddigwydd?”
Un o’r atebion yw “lleihau cymhlethdod. Yn y ffordd mae elusennau’n cael eu llywodraethu ac yn gweithredu, y ffordd rydym yn denu arian, y ffordd rydym yn mesur effaith – mae llawer o aneffeithiolrwydd. Yn ystod y pandemig, “rydym oll wedi arddangos y gallwn weithio mewn ffordd wahanol. Ac weithiau rwy’n meddwl ein bod yn gorgymhlethu pethau.”
Yn hytrach na hynny, mae’n edrych am “y math o ddiwylliant sy’n caniatáu ar gyfer ystwythder wrth wneud penderfyniadau. Rydym yn sicr yn gweithio tuag at ddiwylliant sydd wedi’i rymuso mwy, fel y gellir gwneud y penderfyniadau yn y fan a’r lle gan bobl sydd yn sefyllfa orau i’w gwneud – gan waredu â sawl haen o hierarchiaeth a biwrocratiaeth.”
Mae Edel yn gweld cynaliadwyedd ariannol fel gwers allweddol o’r pandemig. “Rwyf wedi gweithio o fewn y sector elusennol am dros 20 mlynedd. Rydym wastad yn cerdded ar hyd y tynraff yna rhwng sicrwydd ariannol, yn hytrach na chynaliadwyedd, a dim ond yn cael dau ben llinyn ynghyd.” Hyd yn oed mewn amseroedd arferol, mae’n “anodd canfod eich lle ar y tynraff hwnnw. Felly rwy’n meddwl fod rhaid cael galwad i ddeffro ar gyfer y sector ac o ran y gymdeithas. Ni allwn ddisgwyl i elusennau, sy’n cynnig rhan o’r ymateb cenedlaethol i’r argyfwng, i fod yn lle hwnnw am byth lle mae gormod o arian yn ormod, a lle nad yw digon o arian yn ddigon o arian. Mae’r syniad cyflawn o sector sy’n gynaliadwy yn ariannol yn mynd i fod yn allweddol, yn enwedig i elusennau sy’n dibynnu ar un neu ddau o ffrydiau ariannu – ac mae nifer o’n partneriaid o fewn y rhwydwaith yn y sefyllfa honno.”
Ac i Mencap yn benodol, mae diwygio gofal cymdeithasol yn flaenoriaeth, “ar bob lefel strategol. Os byddwn i gyrraedd diwedd yr argyfwng hwn ac na fyddwn wedi manteisio ar y cyfle i werthfawrogi’r proffesiwn gofal cymdeithasol, i’w weld fel sector y dylid buddsoddi ynddo, ac nid fel un sy’n ddraen ar gyllid cyhoeddus, yna dylem fod yn teimlo cywilydd yn eu hunain.”
Gwerthfawrogi’r arbenigwyr
Mae Ciara yn tynnu sylw at y ffaith fod mewnwelediadau a gwybodaeth werthfawr gan bobl sydd ag anabledd dysgu i’w gyfrannu. “Gallant ddweud wrthych chi am eu profiadau o lygad y ffynnon. Ac mae’n helpu pan fyddant yn mynegi hyn.”
Mae eisiau mwy o ddealltwriaeth oddi wrth y byd prif ffrwd. “I mi, mae’n wirioneddol bwysig fod pobl yn cwrdd â phobl sydd ag anabledd dysgu ac yn siarad gyda hwy o ddifrif, i ddod i’w hadnabod, a chlywed eu storïau. Mae hynny’n creu newid grymus.”
Ynghyd â chydnabod profiadau pobl sydd ag anabledd dysgu, byddai hyn yn arddangos eu sgiliau a’u doniau. “Mae ganddynt gymaint i’w gyfrannu. Gallant roi hyfforddiant i chi, gallant roi arbenigedd i chi, gallant roi cyngor i chi.” Mae pobl yn cysylltu â hi erbyn hyn trwy gyfryngau cymdeithasol: “Nawr eu bod yn gwybod fy mod yma. Fi yw’r arbenigwraig ar anabledd dysgu, fi sydd â’r arbenigedd ar ddeunyddiau hawdd i’w darllen, gallaf eu helpu.
“Felly’r neges yw, gadewch i ni weithio gyda’n gilydd. Dewch at bobl sydd ag anabledd dysgu, siaradwch gyda ni, dewch i’n cwrdd. Ac o’n profiad ni, fe fyddant yn dysgu’r hyn sydd angen iddynt ei gyflawni i wneud pethau’n well.”
Darllen pellach
Siaradodd Edel Harris a Ciara Lawrence gyda Zoë Anderson ar 6 a 8 Ionawr 2021. Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar 10/12/2021.