
Lleisiau o’r pandemig: Cyfweliadau or rheng flaen
Mae ein deiliaid grant wedi ymateb i’r heriau o Covid-19 gydag ystwythder, creadigrwydd ac agwedd penderfynol
Rydym wedi bod yn dal sut maen nhw wedi ymateb ac addasu, gan rannu storïau a mewnwelediad drwy ein gwefan a digwyddiadau. Rydym hefyd am edrych y tu ôl i'r penawdau am gipolwg dyfnach ar waith sefydliadau unigol, eu heriau a'u llwyddiannau.
Mae Lleisiau o’r pandemig yn gyfres newydd o gyfweliadau manwl gyda sefydliadau sy'n gweithio ar y rheng flaen. Mae'n archwilio'n fanylach yr hyn y mae deiliaid grantiau wedi'i wneud, yr hyn y maent wedi'i ddysgu a sut y byddent yn cynghori eraill, yn seiliedig ar eu profiadau yn yr argyfwng hwn.