Ciara Lawrence and Edel Harris, Mencap UK (easy read)
Mae Covid-19 wedi bod yn anodd i bawb. Ond mae wedi bod yn wirioneddol anodd i nifer o bobl ag anabledd dysgu.
Zoë Anderson ydw i o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
Roeddwn eisiau gwybod mwy am yr hyn sy’n digwydd i bobl ag anabledd dysgu yn ystod Covid-19 a sut y gallwn helpu.
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol eisoes wedi helpu.
Roedden ni wedi rhoi £100,000 i brosiect Mencap o’r enw Home Not Alone yn Lloegr.
Mae’r prosiect yn helpu stopio pobl rhag bod yn unig.
Mae’n helpu pobl i gwrdd a gwneud pethau ar y rhyngrwyd.
Yng Ngogledd Iwerddon mae’r arian wedi helpu pobl ag anabledd dysgu i gael cefnogaeth gartref yn ystod Covid-19.
Siaradais gydag Edel Harris a Ciara Lawrence o Mencap i ganfod mwy am yr hyn a all helpu.
Helpu pawb i ddeall rheolau Covid-19
Dywedodd Ciara o Mencap fod nifer o bobl ag anabledd dysgu wedi cael eu hanghofio yn ystod Covid-19.
Dywedodd fod llawer o wybodaeth wedi bod yn anodd i bobl ag anabledd dysgu i’w deall.
Ac nid yw nifer o bobl ag anabledd dysgu wedi cael eu cefnogaeth arferol.
Mae hyn yn golygu nad ydynt wedi cael pobl i’w helpu i wybod beth i’w wneud.
Mae wedi bod yn anodd hefyd gan fod y rheolau Covid-19 yn newid yn gyson.
Mae anabledd dysgu gan Ciara.
Dywedodd ei bod wedi canfod y rheolau yn anodd i’w deall i gychwyn.
Roedd rhaid iddi ofyn i’w mam am help.
Beth all helpu?
Roeddwn wedi canfod fod gwybodaeth eglur am Covid-19 a’r hyn i’w wneud yn wirioneddol bwysig.
Mae Mencap a sefydliadau eraill wedi gwneud ychydig o waith da ar hyn.
Maen nhw wedi gweithio gyda’i gilydd i lunio ychydig o wybodaeth hawdd i’w deall am Covid-19.
Roedd Ciara hyd yn oed wedi sefydlu grŵp deunyddiau hawdd i’w darllen yn Mencap.
Roedd y grŵp wedi edrych ar lawer o wybodaeth am Covid-19.
Roedden nhw wedi ystyried sut i’w wneud yn well i bawb.
Dywedodd Ciara fod y grŵp deunyddiau hawdd i’w darllen wedi gwneud gwaith gwych.
Dywedodd rhai teuluoedd fod y grŵp gwybodaeth wirioneddol wedi helpu.
Gweithio gyda’n gilydd
Mae Edel yn uwch bennaeth Mencap.
Dywedodd ei bod yn bwysig fod gwahanol sefydliadau yn gweithio gyda’i gilydd pan fo problem fel Covid-19.
Dywedodd fod Covid-19 wedi helpu Mencap hefyd i feddwl mwy am y dyfodol a’r hyn sydd angen iddynt ei wneud.
Mae Mencap yn gweithio gyda phobl ag anabledd dysgu a’u teuluoedd.
Maen nhw’n edrych ar sut y gall pawb ag anabledd dysgu gael bywyd hapus ac iachus.
Gwrando ar bobl ag anabledd dysgu
Dywedodd Ciara mai’r hyn sydd bwysicaf yw gwrando ar bobl ag anabledd dysgu fel hi.
Dywedodd Ciara y dylai pobl gwrdd â phobl ag anabledd dysgu a chlywed yr hyn sydd ganddynt i’w ddweud.
Bydd hyn yn helpu pobl i ddeall pobl ag anabledd dysgu.
Ac fe fydd yn helpu pobl ag anabledd dysgu i ddangos yr hyn y gallant ei wneud.
Yna gallwn oll weithio gyda’n gilydd, dywedodd Ciara.