Angus: Nôl i’r Gwreiddiau
Mae sefydliadau cymunedol yn Angus, ar arfordir dwyreiniol Yr Alban, yn rhoi’r rhanbarth mewn safle cryf i fanteisio ar ei gryfderau economaidd a naturiol i’r eithaf trwy ofalu am anghenion craidd fel darpariaeth bwyd a chysylltiad cymdeithasol, a gwrando ar yr hyn sy’n bwysig i bobl leol.
Siaradodd Temoor Iqbal â rhai o’r grwpiau ar lawr gwlad sy’n gweithio i ddathlu’r hyn sy’n wych am fywyd gwledig gan weithio i liniaru’r heriau a wynebir.
Trosolwg ariannu
Yn ystod y pum mlynedd hyd at 2020-21, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi £2.3 miliwn yn Angus trwy 96 o grantiau i grwpiau cymunedol ac elusennau.
Rydym wedi cefnogi 83 o grwpiau lleol trwy grantiau bach, gyda grantiau o £7,214 ar gyfartaledd, ac rydym wedi dyfarnu 13 o grantiau mwy, gyda gwerth o £137,478 ar gyfartaledd.
Aeth ein grant mwyaf o £381,000 at Montrose Playhouse Project i drawsffurfio pwll nofio adfeiliedig i hwb cymunedol ar gyfer addysg a’r celfyddydau, gan gynnwys sinema tair sgrin, ystafelloedd addysg ac arddangos, lle manwerthu, caffi ac ystafelloedd gweithgaredd at ddefnydd y gymuned.
Aeth ein grant lleiaf o £499 at Tayside Dynamos Powerchair Football Club i brynu cadair pŵer newydd ar gyfer chwaraeon. Mae’r grŵp yn cynnal sesiynau pêl-droed cadair pŵer wythnosol yn ogystal â chlybiau gwyliau, gan alluogi mwy o bobl i gymryd rhan mewn chwaraeon.
Mae tua 30% o’n cyllid lleol wedi cael ei fuddsoddi i brosiectau sy’n gweithio i fynd i’r afael ag unigrwydd ac ynysrwydd, gan gynnwys £158,500 i Monifieth Befriending Scheme i gysylltu pobl hŷn sydd wedi cael profedigaeth â gwirfoddolwyr sy’n darparu cwmni a’u helpu i ddatblygu a dilyn eu diddordebau.
Mae saith o’r prosiectau, gwerth 10% o gyfanswm ein cyllid, yn helpu dosbarthu bwyd. Defnyddiodd Brechin Community Pantry £10,000 i osod ystafell ymgynghori i ddarparu cefnogaeth un-wrth-un i bobl sy’n wynebu tlodi bwyd. Trwy osod band eang ac offer TG, mae pobl bellach yn gallu defnyddio’r lleoliad i ymgeisio am swyddi a chwilio am gyfleoedd.
Rydym wedi cefnogi 32 o brosiectau plant a phobl ifanc trwy tua 13% o’n cyllid lleol. Helpodd grant £10,000 i Arbroath and Montrose District Scout Council wneud Canolfan Sgowtiaid Ponderlaw yn fwy hygyrch trwy lifft risiau a llawr gwrthlithro. Ehangodd y cyfleusterau cegin newydd yr amrywiaeth o weithgareddau a gynigir.
Mae’r agenda ffyniant bro parhaus yn golygu gwahanol bethau i wahanol gymunedau, ond mae’n cael ei gysylltu agosaf ag ardaloedd dinesig sy’n delio â dirywiad diwydiant lleol.
Nododd adroddiad 2020 am ffyniant bro gan Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid fod y mannau â’r angen mwyaf mewn trefi mawr a dinasoedd mewn rhanbarthau diwydiannol blaenorol, ynghyd ag “ardaloedd arfordirol ac ynysig”.
Mae’r categorïau olaf hyn yn aml ar ddiwedd y rhestr. Maen nhw’n cael eu nodi ond nid ydynt o reidrwydd yn denu’r un sylw a ffocws.
Mae nifer o resymau dros hyn, fel y canfuwyd gan adroddiad lles gwledig y Gymdeithas Llywodraeth Leol, gan gynnwys tuedd i gysylltu cefn gwlad â harddwch a chyfoeth, ac ystadegau ardal eang “nad ydynt yn ddigon manwl i ddod o hyd i’r pocedi o amddifadedd sy’n bodoli ymysg cyfoeth gwledig”.
Mae hyn yn gallu arwain at broblemau fel ynysrwydd cymdeithasol, tlodi bwyd a diffyg cysylltiad – problemau gwraidd sydd angen edrych arnynt os yw seilwaith mwy hirdymor ac amcanion cyflogaeth y broses ffyniant bro i’w cyflawni.
Canolfan eich hun
Gyda chefnogaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mae sefydliadau lleol yn gweithio i fynd i’r afael â’r problemau hyn. Yn Angus ar arfordir dwyreiniol Yr Alban, sydd â phoblogaeth sy’n heneiddio, mae prosiectau fel Rural Wisdom yn gweithio gyda phobl hŷn i sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed mewn cymdeithas sy’n symud yn gynyddol tuag at wasanaethau canolog mewn ardaloedd trefol i ffwrdd o drefi a phentrefi gwledig.
“Mae pobl hŷn mewn cymunedau gwledig yn delio â heriau ychwanegol sy’n cyfrannu at ynysrwydd,” eglura Anne Connor, Prif Weithredwr Outside the Box, y sefydliad y tu ôl i’r prosiect.
“Canolbwyntiodd Rural Wisdom yn Angus ar gyfranogiad a gofyn i’r bobl hynny beth sy’n bwysig iddyn nhw. Canfuom nad oedd yr hyn oedd pobl yn ei ddweud wrthym o reidrwydd yr un peth â blaenoriaethau’r llywodraeth leol ac awdurdodau eraill.”
Yn Angus, canolbwyntiodd y prosiect yn bennaf ar dref Brechin a’r pentref cyfagos Edzell. Roedd pobl yn chwilio am lefydd i’w defnyddio ar gyfer gweithgareddau cymunedol ar ôl i’r llyfrgell yn Edzell gau, ac ar ôl i gyfleusterau yng nghanol Brechin gau oherwydd bod y cyngor lleol yn symud ei fan gymunedol i adeilad newydd ar ymyl y dref, ac aeth y prisiau ar gyfer neuaddau cymunedol i fyny.
“Teimlodd pobl fel petai nad oedd ganddynt lefydd yr oeddent mewn rheolaeth ohonynt neu y gallent eu defnyddio’n hawdd mwyach. Y canlyniad oedd nad oedd pobl yn cyfarfod mor aml ag o’r blaen ac roedd hyn yn cyfrannu at bobl yn cael llai o gysylltiadau cymdeithasol, teimlo’n unig a’r holl ganlyniadau gwael eraill sy’n dilyn hynny,” dywed Anne.
Ymatebodd y prosiect i hyn trwy weithio i ddod o hyd i fannau gweithgarwch y gallent fod ar gael at ddefnydd y gymuned. Un enghraifft oedd grŵp canu sy’n agored i’r holl drigolion. Mae’r grŵp yn defnyddio cerddoriaeth fel ffordd o ddod â phobl leol ynghyd i greu ymdeimlad o gymuned, a chyda chymorth y prosiect, maen nhw bellach yn gallu gwneud hynny mewn ystafell gyffredin uned tai gwarchod.
Teimlodd pobl fel petai nad oedd ganddynt lefydd yr oeddent mewn rheolaeth ohonynt neu y gallent eu defnyddio’n hawdd mwyach. Y canlyniad oedd nad oedd pobl yn cyfarfod mor aml ag o’r blaen ac roedd hyn yn cyfrannu at bobl yn cael llai o gysylltiadau cymdeithasol, teimlo’n unig a’r holl ganlyniadau gwael eraill sy’n dilyn hynny.Anne Connor, Prif Weithredwr, Outside the Box
Dod â chenedlaethau ynghyd
Roedd Rural Wisdom hefyd yn cynnwys gwaith rhwng cenedlaethau. “Roedd nifer o resymau pam oedd gan bobl lai o gysylltiadau â’u cymdogion,” dywedodd Anne. “Roedd pobl yn ymwybodol ohono ac eisiau gwneud rhywbeth cadarnhaol i ddod â phobl ynghyd a dod i adnabod ei gilydd.”
Dechreuodd bobl hŷn a phlant yn yr ysgol gynradd yn Edzell brosiect, gan ddefnyddio’r clwb bowlio lleol fel lle i gyfarfod.
Arweiniodd hyn at gynhyrchiad Intergen, ffilm am ddod â chenedlaethau ynghyd, a rannwyd â’r ysgol ac yna’r pentref cyfan. Roedd y digwyddiad lansio’n ddiwrnod llwyddiannus a oedd yn pontio’r cenedlaethau, a denodd y prosiect cyfan sylw lleol arwyddocaol gan y cyfryngau.
Iach a hapus
Nid cysylltiadau rhwng cenedlaethau, fodd bynnag, yw’r unig gysylltiadau y mae pobl yn Angus yn poeni amdanynt.
Dros y blynyddoedd diwethaf, mae nifer o wasanaethau gofal cynradd ac ysbyty wedi symud i Dundee, sy’n golygu bod trigolion Angus – yn enwedig y rhai hynny sy’n byw yng ngogledd y rhanbarth – yn wynebu taith sylweddol i dderbyn rhai gwasanaethau iechyd.
Mae nifer o brosiectau wedi dechrau mynd i’r afael â hyn, gan ddarparu mynediad lleol at wasanaethau meddyg teulu, er enghraifft, fel nad yw pobl hŷn nad ydynt yn gallu teithio i Dundee yn hawdd yn colli’r cyfle i gael gofal meddygol. Mae gan bobl ifanc, fodd bynnag, anghenion cysylltu llai penodol, ond nid yn llai pwysig, wrth ddod allan o ynysrwydd a phellteroedd cynhenid bywyd gwledig.
Yn ogystal â mynediad at wasanaethau, mae agwedd lles i hyn, oherwydd mae erydiad hybiau a chyfleusterau lleol yn ei gwneud hi’n anoddach i bobl ifanc ffurfio cymunedau ac ymdeimlad o berthyn i le maen nhw’n byw. Mae Covid-19 ond wedi gwneud hyn yn anoddach, gyda’r astudiaeth RuralCovidLife 2020 yn canfod fod 38% o bobl mewn ardaloedd gwledig Yr Alban yn teimlo’n unig rywfaint o’r amser neu bob amser.
Mae Murton Trust yn ceisio mynd i’r afael â hyn trwy ei waith addysg i bobl ifanc, a ariennir trwy’r rhaglen Young Start i gyfrifon banc segur. “Rydym ni’n gweithio i leihau ynysrwydd gwledig a dod â phobl ynghyd,” meddai’r Rheolwr Gweithredol Alison Elliott.
“Mae pobl ifanc sy’n ynysig yn yr ysgol yn dod atom ni, ac er efallai eu bod yn gweithio gyda rhywun o ochr arall Angus tra eu bod nhw yma, mae’r ddau ohonynt yn rhan o’n cymuned. Does dim ots beth yw eu cefndir, yr hyn maen nhw’n cael trafferth ag ef, neu’r hyn y maen nhw’n ei gyflawni – mae croeso iddyn nhw yma ac maen nhw’n rhan o’n cymuned ym Murton.”
Mae’r prosiect yn rhoi profiad awyr agored ymarferol i bobl ifanc ar warchodfa natur 100 erw Murton, lle maen nhw’n gweithio ag anifeiliaid ac yn dysgu am dyfu bwyd. Mae’r sefydliad yn gweithio gyda thua 120 o bobl ifanc y flwyddyn, a channoedd mwy yn ystod dyddiau profiad gwaith a drefnir.
Mae pobl ifanc sy’n ynysig yn yr ysgol yn dod atom ni. Does dim ots beth yw eu cefndir, yr hyn maen nhw’n cael trafferth ag ef, neu’r hyn y maen nhw’n ei gyflawni – mae croeso iddyn nhw yma ac maen nhw’n rhan o’n cymuned.Alison Elliott, Rheolwr Gweithredol, Murton Trust
Ail-feddwl am fwyd
Fel rhan o’r Gronfa Cefnogi Cymunedau, cronfa ymateb Covid-19 yr helpom ni ei dosbarthu ar y cyd â saith o gyllidwyr eraill ar ran Llywodraeth yr Alban, sefydliad angori oedd Murton Trust i hybu twf a chynhyrchiant bwyd yn ystod y pandemig.
“Rural Angus yw un o gynhyrchwyr bwyd mwyaf y wlad, ond mae pobl gennym sy’n wynebu tlodi bwyd ofnadwy,” dywed Alison.
Gwelodd rôl Murton yr ymddiriedolaeth yn cynnal tri o brosiectau bwyd yn ogystal â goruchwylio nifer o rai eraill. Roedd y gwaith yn cynnwys hyfforddi pobl â gerddi sut i dyfu bwyd, dod o hyd i fannau lleol ar gyfer y rhai hynny heb erddi eu hunain i dyfu bwyd, ac ehangu ac amlygu’r gwaith a ddarperir eisoes gan grwpiau eraill yn yr ardal.
Dosbarthodd y sefydliad becynnau gwely uchel a hadau fel bod pobl yn gallu dechrau tyfu mewn ardaloedd bach, cynghoron nhw bobl o ran lle i fynd i dyfu bwyd a gweithion nhw â ffermwyr lleol ac archfarchnadoedd i’w cysylltu â banciau bwyd.
“Oherwydd y rhwydweithio hynny, gwnaethom lwyddo i sicrhau tair blynedd arall o gyllid gan Scotland Food and Drink a’r awdurdod lleol,” dywed Alison. “Nawr mae gennym berson mewn swydd i oruchwylio’r cysylltiad rhwng hybiau bwyd a busnesau i sicrhau cyflenwad a lleihau gwastraff, sydd wedi bod yn her yn y gorffennol.”
Ar ochr arall y gwaith hwn, defnyddiodd Community First, menter gymdeithasol a gefnogir gan y Gronfa, gyfuniad o gefnogaeth Covid-19, Arian i Bawb a Gwella Bywydau i sefydlu’r prosiect archfarchnad cymdeithasol S-mart.
Dechreuodd hyn fel “ffordd i ddarparu mynediad at fwyd fforddiadwy mewn amgylchedd urddasol, gan dynnu unrhyw stigma neu adnabyddiaeth o amgylchiadau personol”, yn ôl y cyd-sylfaenydd Carol Malone.
Mae’r siop yn gwerthu bwyd dros ben gan gyflenwyr a chynhyrchwyr lleol am bris is, yn ogystal â chynnig pecynnau bwyd am ddim i’r rhai hynny mewn angen a darparu cyfleuster i bobl sydd â llai o angen i dalu mwy er mwyn lleihau pris siopa rhywun arall.
Trwy ganolbwyntio ar fanteision lleihau gwastraff a hyrwyddo bwyd lleol, mae Community First wedi llwyddo i ddarparu rhaff achub drwy gydol Covid-19 a thu hwnt, gan ail-ddiffinio sut mae darpariaeth sylfaenol yn edrych i’r rhai hynny sy’n wynebu tlodi bwyd.
“Yn ystod y cyfnod clo llawn cyntaf, roeddem ni’n gallu darparu 35,991 o brydau bwyd i bobl yn Angus,” dywed y cyd-sylfaenydd Pauline Lockhart. “Rydym hefyd wedi cefnogi 150 o deuluoedd yr wythnos gyda bwyd am bris is ers agoriad S-Mart ym mis Gorffennaf 2020. Mae teuluoedd sy’n siopa gyda ni’n arbed hyd at £600 y flwyddyn, ac mae cwsmeriaid hefyd yn dweud wrthym fod gwell ganddynt yr amgylchedd cyfeillgar a chroesawgar o’i gymharu ag archfarchnadoedd lleol. Mae hyn wir wedi dod â chymuned Angus yn agosach at ei gilydd.”
O’r gwaelod i fyny
Boed wedi’i sbarduno gan ymateb i bandemig Covid-19 ai peidio, mae gwaith yr ydym wedi’i gefnogi yn Angus yn amlwg yn mynd i’r afael â’r angen sylfaenol am ymdeimlad o gyfrwng cymunedol, mynediad at wasanaethau a darpariaeth bwyd fforddiadwy. Trwy fynd i’r afael â’r anghenion hyn, fodd bynnag, mae sefydliadau lleol hefyd yn gwneud yr ardal yn lle gwell i fyw trwy ddatrysiadau arloesol, sy’n canolbwyntio ar bobl ac yn sicrhau mai pobl sy’n arwain yn hytrach na chael eu gwasanaethu yn unig.
“Roedd hi mor bwysig bod Rural Wisdom yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol,” dywed Anne. “Galluogodd hynny i ni roi lle i bobl am sgyrsiau manwl, ac mae natur hirdymor ariannu’n golygu ein bod ni wedi gallu defnyddio’r hyn yr ydym wedi’i dreialu yn Angus mewn ardaloedd eraill.”
Fel y mae ffodusrwydd cymysg prosiectau ailddatblygu ôl-ddiwydiannol wedi’n dysgu, mae datrysiadau o’r brig i lawr i broblemau cymdeithasol nad ydynt yn ymwneud â’r gymuned yn uniongyrchol yn llai tebygol o lwyddo.
Trwy ddilyn dull sefydliadau ar lawr gwlad yn Angus, ni fydd cymunedau’n mynd i’r afael â’u hanghenion uniongyrchol yn gynaliadwy yn unig; byddan nhw hefyd mewn sefyllfa llawer yn well ar gyfer y broses ffyniant bro trwy seilwaith a chreu swyddi, gyda phobl a grwpiau lleol yn barod i weithio gyda’i gilydd er budd y gymuned gyfan.
Roedd hi mor bwysig bod Rural Wisdom yn cael ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol. Galluogodd hynny i ni roi lle i bobl am sgyrsiau manwl, ac mae natur hirdymor ariannu’n golygu ein bod ni wedi gallu defnyddio’r hyn yr ydym wedi’i dreialu yn Angus mewn ardaloedd eraill.Anne Connor, Outside the Box