Straeon seiliedig ar le
Wrth i ni chwilio am adferiad cynaliadwy o bandemig Covid-19 rydym yn edrych yn fanylach ar sut mae gwahanol gymunedau'n defnyddio arian y Loteri Genedlaethol i adeiladu ar gyfer y dyfodol. Ein nod yw dangos sut y gall dull a arweinir gan bobl gefnogi adnewyddu cymunedol a lefelu.
Er bod y straeon hyn yn canolbwyntio ar leoedd a allai fod wedi'u labelu 'wedi'u gadael ar ôl' neu'n 'ddifreintiedig', rydym am adrodd stori wahanol; peidio â gwadu'r heriau y mae cymunedau'n eu hwynebu, ond taflu goleuni ar y daith y mae pob un wedi'i chymryd a sut y maent yn adeiladu ar eu cryfderau.
Rydym yn dangos sut mae deiliaid grantiau yn dod ag uchelgais, deinamiaeth a gweledigaeth, gan ddefnyddio'r gorau o'u cymuned a'r bobl sy'n byw ac yn gweithio ynddi.