Costau byw – Mannau cynnes
Mae llawer o bobl bellach yn byw mewn cartrefi oer. Amcangyfrifir bod un o bob pedwar o aelwydydd mewn tlodi tanwydd, a bron i hanner yr aelwydydd incwm isel yn byw mewn cartrefi sy'n gollwng ynni.
Mae hyn wedi arwain at bobl yn cymryd camau eithafol i arbed ynni: gadael eu cartref yn ystod y dydd i osgoi ei gynhesu, gwresogi un ystafell yn unig, neu hyd yn oed ddiffodd pob cyfleuster yn y cartref.
Mae elusennau a grwpiau cymunedol wedi camu i'r adwy i gefnogi pobl drwy'r gaeaf caled, drud hwn. Mae rhai yn helpu pobl i leihau costau ynni drwy ddiogelu cartrefi rhag drafftiau, cynnal archwiliadau ynni cartref, neu ddarparu blancedi a gwresogyddion i bobl fynd adref gyda nhw. Mae llawer yn rhannu awgrymiadau arbed arian, yn rhoi benthyg poptai sy'n arbed ynni, neu'n helpu pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm.
Mae rhai wedi dechrau cynnig mannau cynnes: lleoedd lle mae pobl yn cael eu gwahodd i dreulio eu dyddiau, gan gadw'n gynnes heb unrhyw gost ychwanegol.
O gysyniad na wyddom ddim amdano flwyddyn yn ôl, mae o leiaf 4,070 o sefydliadau bellach yn darparu mannau cynnes, croesawgar am ddim i’r cyhoedd ledled y DU.
Er nad ydyn nhw’n datrys yr argyfwng costau byw, rydyn ni’n gweld eu bod nhw’n gallu chwarae rhan werthfawr fel rhan o gymorth ehangach, gan helpu pobl trwy aeaf anodd iawn a gwneud yn siŵr nad ydyn nhw ar eu pen eu hunain.
Yma rydyn ni'n rhannu mwy amdanyn nhw: ble maen nhw, sut maen nhw'n gweithredu, beth maen nhw'n ei gynnig, a beth rydyn ni'n ei ddysgu am yr hyn sy'n gweithio wrth sefydlu a rhedeg mannau cynnes.
Mae’r dadansoddiad hwn yn canolbwyntio ar y grantiau yr oeddem ni wedi’u dyfarnu erbyn dechrau Rhagfyr, 2022. Mae llawer mwy wedi agor ers hynny, ac mae gan eraill bellach fwy o brofiad o gynnal eu gwasanaethau – felly rydym ni’n gwybod bod yna bethau rydym ni wedi’u methu neu nad ydym ni wedi eu gweld eto. Byddem wrth ein bodd yn clywed beth rydych chi’n ei ddysgu am fannau cynnes yn eich cymuned, fel y gallwn ni wneud y gwaith hwn yn ymarferol ac yn ddefnyddiol.
- Ble gallwch chi ddod o hyd i fannau cynnes?
- Pryd mae eu hangen?
- Beth mae mannau cynnes yn ei gynnig?
- Pwy sydd yn cael eu heffeithio fwyaf?
- Beth sy'n gwneud mannau cynnes yn effeithiol?
- Sut i greu awyrgylch croesawgar?
- Beth yw'r pethau ymarferol?
- Digwyddiad – Mannau Cynnes: Ymatebion i’r argyfwng costau byw
Ble gallwch chi ddod o hyd i fannau cynnes?
Mae yna fannau cynnes ledled y DU. I ddod o hyd i un o fewn, neu o gwmpas eich cymuned, gallwch ddechrau trwy wirio map Croeso Cynnes o fannau cynnes cofrestredig. Mae gwefan eich cyngor yn fan cychwyn da arall. Gallech hefyd wirio beth mae cyllidwyr yn ei wneud.
Rydyn ni'n gweld mannau cynnes yn cael eu sefydlu mewn lleoliadau newydd a phresennol. Mae llawer o hybiau cymunedol cyfarwydd fel caffis, neuaddau pentref neu lyfrgelloedd yn gweithio'n dda oherwydd eu bod wedi'u sefydlu a thrigolion yn gyfarwydd â nhw. Felly rydym ni’n ariannu rhai ohonynt i aros ar agor yn hirach neu, i agor yn amlach.
Er enghraifft, mae Eglwys yr Holl Saint a Sant Iago yn Swydd Northampton yn cynnal caffi cymunedol cynnes ar fore Gwener. Rydym ni wedi rhoi arian i helpu i gynhesu’r adeilad am weddill y dydd ac ar ddydd Sul, “gan nad oes llawer o leoedd eraill ar agor y diwrnod hwnnw”. Yn ogystal, mae cynulliad Tiferes Yisroel yn Llundain wedi ymestyn ei horiau agor i gynnwys y penwythnos - er mwyn darparu lle cynnes y gall y gymuned gwrdd a chefnogi ei gilydd tra'n lleihau cost gwresogi eu cartref.
Rydym hefyd yn gweld grwpiau yn dod at ei gilydd i ddarparu ymateb cydgysylltiedig. Mae ffederasiwn o sefydliadau cymunedol yng Nghaerliwelydd wedi sefydlu hybiau cynnes mewn unarddeg canolfan gymunedol ar draws y ddinas. Yn ogystal â bwyd a diodydd poeth, mae’r canolfannau hyn yn cynnig cyngor a gwybodaeth gan asiantaethau arbenigol, gydag awgrymiadau arbed arian, a hyfforddiant mewn arbed ynni.
Mae rhai mannau cynnes wedi'u datblygu o'r newydd - er enghraifft, trwy aildrefnu cynllun hwb bwyd i greu gofod cymdeithasol newydd, neu ail-bwrpasu caffi cymunedol poblogaidd yn fanc cynnes.
Fe wnaeth Banc Bwyd Gogledd Ayrshire yn Ardrossan ail-fodelu ei safle i sefydlu Hwb Gwresogi ar ôl cael gwybod bod 92% o'i gwsmeriaid eisoes yn dogni eu defnydd o ynni yn ystod gwanwyn/haf, 2022. Mae'r hwb ar agor pedwar diwrnod yr wythnos tan ddiwedd mis Chwefror yn darparu prydau bwyd a diodydd poeth yn ystod y dydd. Mae swyddog hawliau lles y banc bwyd ei hun ac asiantaethau partner wrth law i gynnig cyngor.
Er mwyn eu sefydlu roedd llawer o'r lleoedd hyn angen grant bach i ailaddurno gofod, neu brynu dodrefn newydd. Ar ôl ymgynghoriad cymunedol uwchraddiodd Partneriaeth South Stanley yn Durham ei hoffer caffi i ddatblygu gofod cynnes sydd ar agor chwe diwrnod yr wythnos, gyda wifi am ddim wedi'i ariannu gan Gyngor Durham. Yn dilyn adborth gan wrandawyr, mae Leek Radio, gorsaf radio gymunedol yn Swydd Stafford, wedi agor Hwb Cynnes yn ei hystafell gymunedol a’i ffreutur.
Pryd mae eu hangen?
Gall fod yn anoddach dod o hyd i rywle cynnes ar adegau penodol. Felly mae sefydliadau’n teilwra eu horiau agor i lenwi bylchau, gan gydnabod bod galw yn newid ar benwythnosau, yn ystod hanner tymor, ac ar wahanol adegau o’r dydd.
Mae gofod “Cartref oddi cartref”, Cymdeithas Gymunedol De Mitcham ar agor ar wahanol adegau o’r wythnos. Pwrpas hyn yw cyrraedd ystod mor eang â phosibl o bobl. Hyrwyddir y gwasanaeth trwy grwpiau diwylliannol, meddygfeydd lleol ac ysgolion.
Er bod y rhan fwyaf o fannau cynnes ar agor yn ystod y dydd, mae eraill yn agor yn hwyrach. Ym Mhort Talbot, mae Hwb Dysgu Ysgol Cwm Brombil yn le cynnes y gellir ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan am dair awr y nos, gyda mynediad i’r rhyngrwyd a lluniaeth. Mae lle i blant wneud eu gwaith cartref ac mae’r tîm yn helpu oedolion gyda cheisiadau am swyddi.
Mae rhieni yn Totnes wedi gofyn am fannau diogel a chynnes i’w plant yn ystod hanner tymor, felly rydym wedi cefnogi Soundart Radio i ehangu ei rhaglen gweithgareddau gwyliau i gynnwys gwyliau hanner tymor. Drwy gydol 2023 bydd yn darparu gweithdai am ddim i deuluoedd yn ystod hanner tymor.
Pan nad oes gennych chi [arian], mae’n rhaid ceisio penderfynu a yw’n bwysicach gwario £5 ar nwy, neu £5 am datws, bara a rhywfaint o laeth.
Beth mae mannau cynnes yn ei gynnig?
Yn ogystal â darparu lle cynnes, croesawgar i bobl dreulio amser ynddo, mae'r rhan fwyaf o'r mannau cynnes yn cynnal gweithgareddau, yn dod â phobl at ei gilydd ac yn cynnig cymorth.
Mae’r hwb gwresogi yn Lighthouse Café Dudley bellach wedi ychwanegu gwasanaeth galw heibio ddwy noson yr wythnos, gan gynnig cymorth gyda thai, iechyd meddwl, budd-daliadau, neu driniaeth defnyddio sylweddau. Mae'r Caffi hefyd yn cydlynu nifer o grwpiau crefft a hyfforddi. Mae’r clybiau ar ôl ysgol yn lle cynnes i wneud gwaith cartref a chymryd rhan mewn gweithgareddau.
Mae rhai mannau yn dod ag ystod o wasanaethau i mewn o dan yr un to, gan weithredu fel siopau ar gyfer gwahanol anghenion cymunedol. Mae Canolfan Llesiant Partneriaeth Garnsychan yn Nhorfaen, Cymru, bellach yn fanc cynnes sydd yn gweithredu pum diwrnod yr wythnos. Mae'n cynnig lluniaeth, cyfrifiaduron â mynediad am ddim i'r rhyngrwyd, cymorth cyflogadwyedd, cyngor ariannol, a chymorth gyda gwaith cartref. Mae hefyd yn cynnig sanau thermol, poteli dŵr poeth, a phoptai araf, i helpu pobl i arbed ynni gartref.
Mae elusennau yn helpu pobl i gadw'n gynnes yn eu cartrefi eu hunain. Er mwyn mynd i'r afael â llwydni yn ogystal ag oerfel, mae Cyngor ar Bopeth Eastleigh yn cynnig dadleithyddion bach, cludadwy i gleientiaid, er mwyn helpu i atal lleithder peryglus mewn cartrefi. Fel rhan o raglen adeiladu gwytnwch ehangach, mae NSPCC Yr Alban yn darparu 450 o “fwndeli cynnes y gaeaf” gyda blancedi clyd, cotiau nos a phyjamas llewys hir i ddisgyblion ysgol gynradd a allai fod yn byw mewn cartrefi heb wres yn Govan.
Pwy sydd yn cael eu heffeithio fwyaf?
Mae cartrefi oer yn realiti i lawer ohonom y gaeaf hwn, ond mae rhai grwpiau’n cael eu heffeithio’n fwy nag eraill. Efallai y bydd y rhai sy'n cynnal mannau cynnes am feddwl a allant roi cymorth ychwanegol i unrhyw un o'r grwpiau canlynol.
Ym mis Medi 2022, canfu’r Ymddiriedolaeth Tegwch Ariannol fod bron i hanner yr aelwydydd anabl (48%) wedi cael trafferth cadw eu cartref yn gynnes, o gymharu â 30% o aelwydydd nad ydynt yn anabl. Yn anecdotaidd, mae rhai elusennau yn dweud wrthym fod pobl wedi diffodd nwy er mwyn sicrhau eu bod yn gallu fforddio talu am y trydan sydd ei angen i redeg offer achub bywyd, megis cymorth anadlu.
I gefnogi'r trigolion mwyaf bregus yn Swydd Aberdeen, mae Eglwys Laurencekirk yn Swydd Aberdeen yn gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cludiant am ddim i'w lle cynnes, ac oddi yno. Mae hyn yn cynnwys llawer o bobl anabl a thrigolion hŷn.
Mae'r rhai ar incwm is neu ansicr yn aml yn talu mwy am nwyddau a gwasanaethau hanfodol. Yn aml does ganddyn nhw ddim mynediad at y tariffau tanwydd gorau, neu mae nhw’n gorfod defnyddio mesuryddion rhagdalu drud ar gyfer ynni. Mae rhai demograffeg yn cael eu heffeithio’n anghymesur: mae’r New Economics Foundation yn amcangyfrif bod aelwydydd Du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig eraill yn profi cynnydd cyfartalog 1.6 gwaith yn uwch mewn costau byw na’u cymheiriaid gwyn.
Mae'r un peth yn wir am deuluoedd incwm isel sydd â dibynyddion lluosog, ac sy'n hawlio budd-daliadau. Eisoes ym mis Ebrill 2022, roedd aelwydydd tlotach yn profi chwyddiant uwch ar gyfartaledd nag aelwydydd cyfoethocach: chwyddiant o 10.9% ar gyfer y 10% o aelwydydd tlotaf o gymharu â 7.9% ar gyfer y 10% cyfoethocaf.
Mae Canolfan Gristnogol Dorking yn cefnogi llawer o drigolion sydd newydd gyrraedd o Syria ac Wcráin trwy ei banc bwyd ei hun, a'r oergell gymunedol. Nid oedd gan bobl unman i gwrdd heb fynd i gostau felly roeddent yn ciwio y tu allan yn yr oerfel o 9:00yb ar gyfer agor am 10:30. Bellach mae gan y Ganolfan arian y Loteri Genedlaethol i agor ei chaffi ddwy awr ynghynt am 8:30yb.
Canfuwyd bod cartrefi oer yn cyfrannu at gynnydd o 30% mewn marwolaethau yn y gaeaf ymhlith pobl dros 75 oed. Er mwyn lleihau'r risg y bydd trigolion hŷn yn mynd yn oer gartref, mae Small Acts of Kindness yn Swydd Hertford yn dosbarthu bagiau anrhegion ‘Cynnes yn y Gaeaf’ gydag eitemau fel blancedi cynnes a hetiau thermol.
Gwyddom fod teuluoedd yn poeni am gadw eu plant yn gynnes ac yn ddiogel. Mae ymchwil yn awgrymu bod plant sy'n byw mewn cartrefi oer ddwywaith yn fwy tebygol o ddioddef o broblemau gyda'r frest ac anadlu na phlant sy'n byw mewn cartrefi cynnes.
Er mwyn cynnig gweithgareddau rhad i'r teulu mewn amgylchedd cynnes, mae'r Chantry Centre yn Swydd Gaerloyw yn ymestyn ei sesiynau i'r teulu. Maen nhw bellach yn cynnig man chwarae meddal, cinio ysgafn a the/coffi am £2 y plentyn + gofalwr. Yna, bydd yn aros ar agor tan 7yh yn cynnig pryd o fwyd nos fforddiadwy a gweithgareddau i oedolion a phlant hŷn, megis crefftau, sgitls, a thenis bwrdd.
Beth sy'n gwneud mannau cynnes yn effeithiol?
Gwyddom nad yw mannau cynnes yn mynd i’r afael ag achosion sylfaenol yr argyfwng, ac y bydd angen i bobl barhau i gynhesu eu cartrefi rywfaint o’r amser. Ni fydd pawb yn gallu cyrraedd mannau cynnes ac efallai na fydd eraill yn gwybod amdanynt neu ddim eisiau mynychu.
Ond mae tystiolaeth gynnar yn awgrymu y gall mannau cynnes gynnig cefnogaeth ar unwaith a helpu pobl i deimlo eu bod yn cael gofal.
Rydym yn dysgu mwy drwy'r amser am yr hyn sy'n eu gwneud yn effeithiol. Dyma ein hargraffiadau cychwynnol.
- Sicrhau bod teithio i'r lleoliad, ac oddi yno yn fforddiadwy. Gall teithio fod yn ddrud, gan roi mannau cynnes allan o gyrraedd y rhai sy’n byw ymhellach i ffwrdd, yn methu fforddio tocyn bws, neu sydd â chyflwr iechyd. Mae SCIO Cobhair Bharraigh wedi agor gofod cynnes ar Ynys Barra. Gan ddefnyddio grant y Loteri Genedlaethol mae’r sefydliad yn cynllunio’r ffyrdd mwyaf effeithlon o ddod â phobl i mewn, gan gynnwys rhannu ceir a bws trydan bach ar gyfer grwpiau mwy.
- Mae pwrpas yn bwysig. Mae pobl yn fwy tebygol o ddefnyddio'r mannau cynnes pan fydd yn cynnig rhywbeth maen nhw am ei wneud. Mae Clwb HEAT Roots4Life yn cynnig man cynnes lle gall plant 10-14 oed wneud gwaith cartref, cael cinio poeth ac ymuno mewn dosbarthiadau coginio, crefftio a bocsio.
- Rhan o becyn cymorth ehangach. Mae’r man cynnes yn gyfle i gyfeirio pobl at gymorth arall, o wasanaethau iechyd meddwl a chymorth gyda budd-daliadau i roi cyngor ynni i bobl a blancedi i gadw’n gynnes gartref. Mae Canolfan Eglwys y Santes Catrin yn Wakefield yn hyfforddi preswylwyr i weithredu fel hyrwyddwyr ynni yn eu man cynnes. Mae hyrwyddwyr yn cynnal gweithdai ymwybyddiaeth ynni, gan gysylltu ag asiantaethau eraill i gael cymorth gydag insiwleiddio ac uwchraddio gwresogi.
- Gwneud i bobl deimlo eu bod yn cael gofal. Dylai’r man cynnes fod yn groesawgar yn ogystal â chynnes - gallwch ddod o hyd i awgrymiadau isod ar sut y gall gwasanaethau wneud i bobl deimlo'n gartrefol.
Sut i greu awyrgylch croesawgar?
Dylai mannau cynnes fod yn “ffagl o gynhesrwydd a chyfeillgarwch,” eglura Paula Stringer o Christians Against Poverty. Rydym yn gweld hyn yn ymarferol, gyda llawer o grwpiau yn ymateb yn garedig i feithrin cysylltiadau a meithrin teimlad o berthyn.
Mae llawer yn dechrau drwy roi croeso cynnes i unrhyw un sy’n mynychu, gan wybod na fydd pobl yn dychwelyd os ydynt yn teimlo nad yw’r gofod yn groesawgar. Felly mae grwpiau wedi cynllunio'n benodol ar gyfer awyrgylch cyfeillgar - heb gymryd yn ganiataol y bydd yn digwydd yn awtomatig. Er enghraifft, trefnodd y tîm y tu ôl i Neuaddau Pentref Hirwaun yn Aberdâr ‘Baned Gymunedol’ gyda the a bisgedi am ddim fel ffordd o annog preswylwyr i dreulio ychydig oriau yn y cynhesrwydd yn sgwrsio â phobl eraill.
Mae eraill yn pwysleisio sgiliau rhyngbersonol cryf wrth recriwtio staff a gwirfoddolwyr. Yn Fife, mae gan Community in Cupar wirfoddolwyr o’r cymunedau y mae’n eu gwasanaethu, gan gynnwys gwirfoddolwyr sy’n ffoaduriaid yn cefnogi teuluoedd sydd newydd gyrraedd gyda chysylltiadau ac iaith.
Mae’n dda cael rhywun ar gael i gwrdd a chyfarch pobl pan fyddant yn cyrraedd mannau cynnes, yn enwedig y rhai sy’n mynychu am y tro cyntaf. Mae pethau syml yn helpu, fel cael te a chyflwyno ymunwyr newydd i rywun arall, gwneud bathodyn enw ar gyfer newydd-ddyfodiaid, a gwneud yn siŵr bod enwau, rolau a lluniau o’r holl staff a gwirfoddolwyr ar gael ar y wal fel bod pobl yn gwybod at bwy y gallant droi. Yn ogystal, mae'n helpu i egluro beth sydd ar gael a beth sy'n digwydd yno.
Er mwyn creu teimlad croesawgar tra’n osgoi stigma, mae pwyllgor Neuadd Bentref Craignish yn Argyll a Bute yn hyrwyddo eu gofod cynnes fel un sy’n hygyrch i bawb, heb ganolbwyntio ar leddfu tlodi. Maen nhw hefyd wedi gwneud yn siŵr bod rhywbeth at ddant pawb, o grwpiau trafod i gemau, crefftau, cerddoriaeth a chelfyddydau.
Mae pryd a gwedd y gofod yn bwysig. Yn yr adolygiad o fannau cynnes, A Warm Welcome, mae’r gymdeithas llyfrgell a gwybodaeth CILIP yn amlygu sut y gall dodrefn a goleuo greu amgylchedd clyd lle mae pobl yn teimlo’n gartrefol. Hefyd, “mae seddau cyfforddus ar gyfer treulio amser hirach yno yn hanfodol […] ynghyd ag arwyddion clir o amgylch y gofod fel bod pobl yn gwybod beth sydd ar gael, ac ymhle.” I gyflawni hyn gyda chyllideb gyfyngedig, mae CILIP yn awgrymu chwilio am ddodrefn rhad ac am ddim gan sefydliadau fel Freecycle Network a Gumtree Freebies.
Rydym wedi ariannu llawer o fannau croesawgar, cymunedol eraill dros y blynyddoedd. Mae’r galw am fannau cynnes yn newydd, ond rydym eisoes yn deall pa mor bwysig yw’r croeso. Dyma beth rydyn ni wedi'i ddysgu o fuddsoddiadau fel Ageing Better.
Y grefft o gynnal. Mae gan grwpiau cymunedol gwych westeion gwych sy'n helpu i feithrin cyfeillgarwch ac ymgysylltiad. Mae pobl yn dweud wrthym fod angen i westeion cymunedol gael “hiwmor, agwedd gadarnhaol a phersonoliaeth gynnes, ofalgar, anfeirniadol ac anogol, er mwyn creu awyrgylch cynnes a chroesawgar.” Mae bod yn niwtral hefyd yn allweddol.
Pwysigrwydd wynebau cyfarwydd. Er mwyn helpu pobl i reoli eu pryder cymdeithasol am fynychu mannau cymunedol (newydd), mae rhai grwpiau wedi gweld cynlluniau cyfaill gwirfoddolwyr neu staff yn ddefnyddiol. Mae'r cyfeillion yn helpu trigolion i ddod o hyd i'r lleoliad, a chynnig cefnogaeth yn ystod ac ar ôl y digwyddiad.
Mae gwirio ar bobl yn gwneud iddyn nhw deimlo eu bod yn cael gofal. Gallai hyn gynnwys galwadau ffôn ar ôl eu hymweliad cyntaf i glywed sut hwyl gawson nhw, rhoi gwybod iddyn nhw eu bod nhw wedi cael eu colli pan nad ydyn nhw wedi mynychu, neu gynnig galwadau atgoffa i’r rhai a allai fod eu hangen.
Grym bwyd. Gall rhannu bwyd a chael paned o de wneud i bobl deimlo'n gyfforddus gyda'i gilydd, ac yn aml mae'n fan cychwyn da i sgwrsio.
Etifeddiaeth COVID-19. Erydodd y pandemig hyder pobl hŷn a bregus yn arbennig, felly efallai y bydd angen i grwpiau fuddsoddi amser i roi hyder i bobl ddychwelyd neu ymuno â grwpiau eto.
Osgoi cliciau. Gall canfyddiadau o grwpiau presennol fod yn rhwystr, oherwydd gall newydd-ddyfodiaid eu gweld fel cliciau. Meddyliwch am ffyrdd o reoli’r canfyddiad hwnnw – er enghraifft, annog cymysgu drwy weithgareddau, seddi, a chyflwyniadau.
Mae bod yn dryloyw yn lleihau pryder. Mae'n dda cael arwydd am brisiau- p'un a yw popeth am ddim, a ddisgwylir rhodd y gallwch ei dalu, neu a oes gan y gofod restr brisiau ffurfiol. Mae pobl yn teimlo llai o embaras os ydyn nhw'n gwybod beth mae disgwyl iddyn nhw ei dalu.
Beth yw'r pethau ymarferol?
P'un a ydych chi'n agor lleoliad newydd neu'n addasu gwasanaeth sy'n bodoli eisoes, mae sefydlu man cynnes yn golygu edrych ar gostau ynni, cysur, diogelwch a hygyrchedd. Yn A Warm Welcome, mae’r cynghorydd ariannol Martin Lewis a CILIP yn cynnig cyngor ymarferol ar gyfer datblygu mannau cynnes. Yma rydym yn darparu crynodeb o'r rheini, ynghyd ag awgrymiadau ychwanegol.
Cyfrifo costau gwresogi
Mae sefydlu man cynnes yn golygu ystyried eich costau gwresogi a'ch gwariant arfaethedig. Bydd hyn yn dibynnu ar y math o le (pa mor fawr ydyw, pa mor dda y mae wedi'i inswleiddio, oedran ac effeithlonrwydd ynni eich boeler), a sut y gallai prisiau ynni newid dros amser.
- Adnoddau i helpu canolfannau cymunedol i gyfrifo eu costau gwresogi. Mae'r Ganolfan Ynni Cynaliadwy yn cynnig cyfrifiannell costau gwresogi. Er ei bod wedi'i chynllunio ar gyfer eiddo domestig, mae'r gyllideb arbed ynni yn rhoi syniad bras o'r costau a'r arbedion i'w gwneud o wahanol welliannau.
- Syniadau cost isel ar gyfer lleihau'r defnydd o ynni. Mae arolwg ynni yn eich helpu i nodi gwelliannau gwresogi, goleuo ac inswleiddio ar gyfer adeiladau cymunedol. Mae cyngor ymarferol ar arbed ynni mewn adeiladau cymunedol yn trafod atebion megis gosod gwydr eilaidd cost isel ar ffenestri nad ydynt yn agor.
Capasiti a chysur
Nid yw bod dan do yn gwarantu cysur bob amser. Os ydych chi'n bwriadu agor gofod cynnes, ystyriwch faint o bobl fydd yn y lle ar unwaith. Beth yw'r tymheredd cywir, a pha fesurau a ddefnyddir ar gyfer hylendid?
- Dylai mannau cynnes anelu at 18-20°C fel isafswm tymheredd. Mae tystiolaeth, a thrafodaeth arbenigol yn awgrymu 18°C fel lefel sylfaenol o gynhesrwydd i berson iach sy’n gwisgo dillad cynnes. Yn aml, mae angen tymheredd ychydig yn gynhesach ar gyfer plant ifanc a phobl hŷn.
- Mae capasiti ystafelloedd yn bwysig, o ran diogelwch COVID-19 ac er cysur cyffredinol. Mae rheolau iechyd a diogelwch yn y gweithle yn nodi y dylai cyfanswm cyfaint yr ystafell, wedi'i rannu â nifer y bobl sy'n gweithio ynddo, fod yn gyfartal ag o leiaf 11 metr ciwbig (gan dybio uchder o 3 metr). Dyma’r isafswm – os oes llawer o ddodrefn yn yr ystafell, bydd angen mwy o le. Ar gyfer ystafell gymunedol, mae'r canllawiau'n awgrymu o leiaf un metr sgwâr y person, hyd yn oed ar yr adegau prysuraf. Mae gan A Warm Welcome gyngor ar gyfrifo digon o le.
- Ystyriwch oriau agor, a faint o ddefnyddwyr rydych chi'n eu disgwyl – cyfanswm a phan fyddant yn disgwyl i'r galw fod ar ei uchaf. Ystyriwch beth fydd pobl yn ei wneud: mae angen mwy o le arnoch ar gyfer ymarfer corff nag ar gyfer darllen llyfrau llyfrgell. Yn ddelfrydol, ni fyddai mannau croesawgar yn cyfyngu ar nifer y cwsmeriaid. Allwch chi ymestyn oriau i helpu i leddfu'r galw, neu newid y cynllun i greu mwy o le?
- Mae cynhesrwydd yn annog pobl i aros yn hirach, felly mae hylendid yn bwysig. Argymhellir gorsafoedd diheintio dwylo a glanhau arwynebau'n rheolaidd, ynghyd â dodrefn y gellir eu sychu'n lân.
- A yw'r adeilad yn hygyrch? A yw’n hawdd i bobl gyrraedd? Gallai hyn olygu gwella arwyddion, sicrhau bod cyrbau isel, mynediad gwastad neu rampiau i'r fynedfa, a chanllawiau. Dylai drysau a lifftiau fod yn hygyrch, a dylai coridorau a drysau fod yn rhydd o unrhyw rwystr, gyda lle i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn a bygi. Dylai systemau larwm fod yn addas ar gyfer y rhai â nam ar eu clyw.
Sut fydd y man cynnes yn cael ei awyru?
Dylai mannau cymunedol fod yn ddiogel yn ogystal â chynnes. Mae’n bwysig lleihau’r risg o COVID-19 a’r ffliw, yn enwedig wrth weithio gyda’r rhai sy’n agored i haint. Mae awyru da yn gysylltiedig â gwell iechyd - ond bydd agor ffenestri yn gostwng tymereddau. Mae angen i leoliadau ddod o hyd i gydbwysedd rhwng cynhesrwydd a diogelwch.
- Gall monitorau CO2 helpu i asesu a yw gofod wedi'i awyru'n dda neu'n wael. Gallant hefyd dynnu sylw at risg o haint wrth i bobl anadlu firysau yn yr awyr pan fyddant yn anadlu CO2 allan. Mae gan ystafell sydd wedi'i hawyru'n dda lefelau CO2 o rhwng 600 a 800 rhan y filiwn (ppm).]
- Byddwch yn wyliadwrus o ardaloedd sydd wedi'u hawyru'n wael. A oes diffyg ffenestri ac awyru mecanyddol mewn unrhyw ystafelloedd? Nid yw systemau ailgylchredeg yn helpu oherwydd eu bod yn symud aer presennol o gwmpas. Er y gall gwresogyddion ffan gynhesu gofod yn gyflym maen nhw hefyd yn cylchredeg aer, gan ofyn am fwy o awyru. Gall awyru mecanyddol, sy'n defnyddio gwyntyllau neu ddwythellau i ddod ag awyr iach y tu mewn, helpu heb ostwng y tymheredd. Gall unedau hidlo aer wella ansawdd aer, gan leihau'r risg o haint. Bydd agor mwy o le yn gwella llif yr aer - er enghraifft, a allwch chi gael gwared â rhanwyr ystafelloedd?
Digwyddiad – Mannau Cynnes: Ymatebion i’r argyfwng costau byw
Ar 2 Mawrth 2023, byddwn ni’n cynnal digwyddiad ar-lein am ddim am fannau cynnes ac ymatebion i’r argyfwng costau byw, gyda Carlisle Matters a North Ayrshire Heating Hub yn cymryd rhan. Bydd David Barclay o Warm Welcome ac aelod o dîm Turn2Us hefyd yn ymuno â ni. Mae tocynnau ar gael o TicketSource.