Ymateb i’r argyfwng costau byw
Mae’r argyfwng costau byw yn effeithio arnom ni i gyd. Mae pobl yn poeni am roi bwyd ar y bwrdd, fforddio’r trên i’r gwaith a thalu am nwy a thrydan. Mae elusennau wedi’u gorlethu gydag ymholiadau, tra bod costau staff a chyfleustodau wedi cynyddu ac mae gwirfoddolwyr yn ei chael hi’n anodd ymrwymo’r amser yr oeddent yn gallu ei roi’n flaenorol.
Ond rydym hefyd yn gweld gwaith anhygoel mewn cymunedau i gefnogi’r rhai hynny sydd wedi’u heffeithio fwyaf. Rydym ni’n falch i gefnogi mentrau lle mae pobl yn arwain y newid yn eu cymunedau, gan fynd i’r afael â’r problemau sy’n bwysig iddyn nhw. Rydym wedi cefnogi elusennau a grwpiau cymunedol ledled y DU sy’n gweithio i fynd i’r afael â phroblemau costau byw ers tro.
Yma, rydym ni’n rhannu’r hyn rydym yn ei ddysgu ganddynt – yn yr argyfwng uniongyrchol ac o’u gwaith mwy hirdymor o gefnogi cymunedau.
Rydym yn gwneud y gwaith ymchwil a dadansoddi hwn yn gyflym, gan obeithio rhoi adolygiadau byw i chi o’r hyn rydym yn ei glywed a’i weld. Yn sgil y dull hwn, mae’n bosibl y bydd pethau rydym wedi’u colli neu eu camddeall, neu efallai nad ydym wedi’u gweld eto. Croesawn gywiriadau, diweddariadau a heriau, er mwyn i ni allu gwella a datblygu’r gwaith hwn. Byddem wrth ein boddau i glywed gennych os yw’r canfyddiadau hyn yn berthnasol i’r hyn rydych yn ei weld yn eich cymuned. Gallwch gysylltu â ni ar knowledge@tnlcommunityfund.org.uk.