Ein Cronfa Ddigidol newydd
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi rhoi llawer o filiynau i brosiectau digidol dros y ddeng mlynedd ddiwethaf. Dros y pum mlynedd ddiwethaf yn unig mae wedi gwneud gwerth dros £16m o grantiau o dan £10,000 i gefnogi elusennau a mudiadau bach yn bennaf i ffynnu mewn oes ddigidol.
Ac eto dyma ni'n lansio Cronfa Ddigidol, gan neilltuo hyd at £15m dros y ddwy flynedd nesaf. Dyma pam.
Gall elusennau ddefnyddio digidol i wneud pethau anhygoel
Er nad yw offer ac arferion digidol yn fwledi arian a all ddatrys unrhyw broblem, mae ganddynt gapasiti rhyfeddol i ddod â phobl ynghyd i gyflawni pethau na allent fel arall.
Un o fy hoff enghreifftiau o fudiad cymdeithas sifil sy'n defnyddio digidol yw parkrun. Mae parkrun yn elusen sy'n trefnu rasau 5km wedi'u hamseru am ddim bob wythnos ledled y byd. Mae cannoedd ar filoedd o bobl yn cwrdd yn eu parc lleol bob penwythnos i wneud ymarfer corff, gwirfoddoli a chreu ymdeimlad o gymuned.
Mae rhedwyr unigol wedi cychwyn dros 23 miliwn o 'parkruns' hyd yma, sy'n ddigon trawiadol. Ond wyddech chi fod parkrun ei hun yn cyflogi dim ond 23 o bobl? Nid oes angen i chi fod yn athrylith mathemateg i weld pa mor drawiadol mae hwn.
Ar y cip cyntaf nid yw parkrun yn edrych o gwbl fel gweledigaeth y rhan fwyaf o bobl ' 'fudiad digidol’. Nid yw'n cael ei ystyried yn ‘fusnes newydd’, ac nid ydynt yn defnyddio llawer o eiriau cyfoes y byd technegol: Mae parkrun yn ymwneud ag angerdd a gwirfoddoli a phobl sy'n treulio amser gyda'i gilydd yn y byd go iawn.
Er hynny, y tu ôl i'r wyneb dynol iawn hwn mae defnydd clyfar o dechnoleg sy'n helpu cydlynu rasau, rhedwyr amser a chadw'r holl ymdrech gywrain yn gweithio'n llyfn. Heb y defnydd hwn o dechnoleg ddigidol, mae'n debygol y bydd llawer o filoedd o bobl na fyddent mor actif, neu gael cymaint o hwyl, ar draws y wlad bob wythnos. Rwy'n credu bod e'n enghraifft ryfeddol o sut y gall technoleg rymuso a chysylltu pobl, heb ddominyddu'r sgwrs.
Darganfod mwy am anghenion y sector
Gall llawer o'n hariannu gefnogi'r math hwn o waith eisoes, ond roeddem am brofi ein tybiaethau a deall yn well beth mae'r sector ei angen mewn gwirionedd o ran cefnogaeth ddigidol. Rydym yn deall llawer am yr hyn rydym yn ei ariannu, ond beth am y pethau nad ydym? A oeddem wir yn deall y cyd-destun yr oeddem yn gweithio y tu mewn iddo? Beth oedd y cyfleoedd na manteisiwyd arnynt?
Ac felly, yn yr ysbryd digidol gorau, cynhaliom ymchwil gyda defnyddwyr. Siaradom â mudiadau, rhai mawr a rhai bach, y rhai hynod ddigidol a'r rhai sy'n ofni digidol, y rhai newydd a'r rhai sefydledig.
Mae'n amlwg bod ein grantiau'n cael effaith enfawr. Ond darganfûm rhai meysydd allweddol lle gallai grantiau wedi'u ffocysu gael hyd yn oed yn fwy o effaith ar gapasiti digidol y sector.
Beth yw amcan ein ffocws cychwynnol?
Anelir cam gwneud grantiau cychwynnol y Gronfa Ddigidol at ddau fath eithaf penodol o fudiad. Mae'r math cyntaf o fudiad - y rhai rydym wedi cyfeirio atynt fel arloeswyr digidol - yn elusennau sefydledig o faint rhesymol, yr isafswm trothwy o ran maint yw incwm blynyddol o hanner miliwn o bunnoedd.
Mae'r ail fath yn hollol wahanol: mudiadau cymharol newydd, rhai bach mae'n fwyaf tebyg, yr ydym yn eu galw'n frodorion digidol. Mudiadau yw'r rhain sydd â digidol yn eu DNA, a grëwyd o'r gwaelod i fyny fel mudiadau digidol. Enghraifft dda o fudiad digidol brodorol yw parkrun, a drafodwyd uchod.
Felly pam ydym ni'n canolbwyntio ar y ddau fath benodol hwn o fudiad?
Yr ateb yw bod gan y ddau gryfderau arbennig a all helpu nhw i lwyddo wrth gyflwyno effaith ar raddfa fawr.
Ased allweddol y brodor digidol yw dealltwriaeth gynhenid eu sefydlwyr o sut i adeiladu gwasanaethau llawn effaith y gellir cynyddu eu graddfa yn y byd modern, wedi'i gyfuno â'r peth mwyaf gwerthfawr: llechen wag i weithio arni. O'r grŵp hwn o fudiadau rydym yn gobeithio efallai y byddwn yn dod o hyd i sefydliadau mawr fel Google a WhatsApp: gwasanaethau newydd sbon sy'n creu gwerth enfawr ar gyfer llawer o bobl.
Ar gyfer yr arloeswyr digidol (yr elusennau mwy sefydledig) eu hased pennaf yw eu sylfaen sylweddol gyfredol, a'r ffydd sydd gan lawer o bobl ynddynt eisoes. O'r mathau hyn o fudiadau sefydledig uchel eu hymddiriedaeth rydym yn gobeithio meithrin sefydliadau cymdeithas sifil cyfwerth neu'r gwasanaethau digidol a gynigir gan y BBC, Banc Lloyds neu Next. Roedd y rhain yn frandiau 'cyn-ryngrwyd' mawr a bontiodd yn llwyddiannus i ddigidol, yn newid o ddifrif yr hyn a gynigiant i bobl mewn llawer o achosion.
Sut gall y gwaith hwn gefnogi'r sector ehangach
Mae'r cam cyntaf hwn o'r Gronfa Ddigidol yn canolbwyntio ar roi hwn i'r nifer mawr o enghreifftiau gwych o wasanaethau llawn effaith sy'n defnyddio digidol i gyflawni graddfa, o fewn y sector gwirfoddol a chymunedol. Er hynny, gall digidol gyflwyno effeithiau gwych nad ydynt yn ymwneud â graddfa hefyd, ac mae'r Gronfa Ddigidol yn canolbwyntio ar y rhain hefyd.
Y tu hwnt i gefnogaeth ein rhaglenni ariannu presennol, yn y Flwyddyn Newydd byddwn yn rhannu mentrau penodol i helpu'r mudiadau hynny nad ydynt yn gwybod ble i ddechrau gyda digidol neu nad oes ganddynt yr adnoddau i gael gwybod. Byddwn hefyd yn ymchwilio i ddulliau annog partneriaethau, cydweithio a pherthnasoedd rhwng mudiadau o faint penodol i rannu arbenigedd a phrofiad yn y maes hwn.
Rwy'n hynod ddiolchgar i'r holl bobl yn y sector gwirfoddol a chymunedol a roddodd gymaint o'u hamser i'n helpu dylunio'r fenter newydd hon. Rwy'n ddiolchgar hefyd, wrth gwrs, i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sy gwneud y cyfan yn bosib yn y lle cyntaf.
Mae'r Gronfa Ddigidol ar agor bellach, a bydd y cam cyntaf yn derbyn ceisiadau tan 5pm ar 3 Rhagfyr 2018. Gallwch ddarllen popeth am sut i ymgeisio a sut i lwyddo yma.