Beth rydym yn ei ddysgu am ariannu seiliedig ar le
Etholiadau canol tymor America yw, efallai, y lle olaf y byddech yn disgwyl clywed am bentref glan môr Jaywick, a sbardunodd y poster ymgyrch braidd yn fisâr hwn ddicter dealladwy gan iddo ystrydebu rhywle sydd, dros flynyddoedd diweddar, wedi profi newidiadau cadarnhaol sylweddol.
Rydym ni yn y Gronfa wedi helpu sicrhau bod arian y Loteri Genedlaethol wedi cefnogi agweddau ar y newid hwn, ond bu i'r achlysur hwn atgoffa fi am rai o'r gwersi hanfodol rydym wedi'u dysgu am ariannu seiliedig ar le dros flynyddoedd diweddar.
PEIDIWCH Â CHYMRYD YN GANIATAOL EICH BOD YN GWYBOD AM LE
Ym Mynegeion Amddifadedd Lluosog 2010 a 2015, cofnodwyd rhan ddwyreiniol Jaywick fel y gymdogaeth fwyaf difreintiedig yn Lloegr. O dan y fath amgylchiadau, gall fod temtasiwn i ddychmygu mai'r ateb yw achubiaeth gan y Llywodraeth neu arianwyr, ond nid yw hyn o reidrwydd beth mae'r gymuned ei eisiau.
Yn wir, wrth ennyn diddordeb pobl leol clywsom fod teimladau cymysg am bobl o'r tu allan - gan gynnwys ni - yn 'parasiwtio' i mewn, teimlad a glywsom dro ar ôl tro ar draws y wlad. Ac felly fe wrandawom ac, eleni, addasom ein dull er mwyn lleoli mwy o'n swyddogion grant mewn hybiau rhanbarthol, yn agosach at y cymunedau rydym yn bodoli i'w gwasanaethu.
Roedd y dull hwn yn hanfodol ar gyfer rhywle fel Jaywick. Nawr bod ein staff wedi eu lleoli'n lleol, mae'r naratif wedi newid: Rydym yn gweld yr ysbryd cymunedol cryf, ac rydym wedi llwyddo i ddod â phobl a mudiadau lleol ynghyd i drafod beth sy'n dda yn yr ardal a sut y gellir adeiladu arno. Gallwn ddod o hyd i'n lle yn yr ecosystem ariannu ehangach, gan gydweddu â'r hyn sydd eisoes yn digwydd, fel buddsoddi gan yr awdurdod lleol.
Rydym wedi cefnogi Fforwm Cymunedol Jaywick gyda grant i sefydlu cynllun ariannu lleol ar gyfer grantiau bychain iawn (£50 a £1,000) i gefnogi trigolion i wneud i'w syniadau ddigwydd yn gyflym. Ac erbyn hyn rydym yn ddigon agos at y gymuned i weld beth allai weithio nesaf, a gweld cryfderau pobl Jaywick yn tyfu. Mewn geiriau eraill, gallwn i gyd weld heibio i label "y gymdogaeth fwyaf difreintiedig yn Lloegr".
MAE'N YMWNEUD Â MWY NAG ARIAN YN UNIG
Mae'r enghraifft hon wedi'i hatgyfnerthu gan ein profiad, a phrofiad arianwyr eraill, mewn cymunedau ar draws y wlad, sy'n gosod gwerth ar lawer mwy na dim ond yr arian a ddyfarnwn.
Yn Hull, mae Sefydliad Rank yn canolbwyntio ar adeiladu a meithrin rhwydweithiau a pherthnasoedd, a ddaeth i gael eu hystyried fel y 'glud hollbwysig' yn eu gwaith.
Yn Hartlepool, hyfforddodd Sefydliad Joseph Rowntree bobl leol fel ymchwilwyr cymunedol, a arweiniodd at ddau adroddiad ar yr hyn sydd fwyaf pwysig i bobl yn y dref. Erbyn hyn mae Hartlepool Action Lab yn helpu datblygu atebion lleol i broblemau mor gyflym â phosib.
MAE ANGEN I CHI ENNYN DIDDORDEB POBL YN EU CYMUNEDAU
Yr hyn sy'n allweddol i'r gwaith hwn i gyd yw ennyn diddordeb pobl yn lleol yn y gymuned - ond ni fydd hyn bob amser yn hawdd. Mae ein rhaglen Heneiddio'n Well wedi datgelu y gallai fod angen i brosiectau fynd at bob ac ennyn eu diddordeb ar y strydoedd, wrth arosfannau bws, mewn tafarndai neu mewn siopau hapchwarae.
Pan fydd prosiectau'n cefnogi cymuned lleiafrif ethnig benodol, mae'n bwysig cydweithio â nhw i ddylunio a theilwra'r gefnogaeth. Mae dod o hyd i'r partneriaid, mudiadau neu froceriaid iawn hefyd yn helpu datblygu cysylltiadau a ffydd.
Mae ein hadolygiad o'r hyn sy'n gweithio wrth atal trais difrifol gan bobl ifainc yn pwysleisio bod angen i gefnogaeth ymestyn o ysgolion a gwasanaethau statudol i'r gymuned. Gall hyn fod yn bell o fod yn syml yn y fath gyd-destun, lle gall pethau fel lleoliad hyblyg i ennyn diddordeb fod yn hanfodol oherwydd ei fod yn beryglus i rai pobl ifainc mewn ardaloedd sydd â gelyniaeth côd post neu gangiau. Mae llawer o bobl ifainc nad ydynt byth yn gadael yr ystâd y maent yn byw arni, neu maent yn ei gadael yn anaml, i gyrchu cyfleoedd rhywle arall.
MAE LLAWER I'W DDYSGU O HYD
Wrth gwrs mae llawer o bethau cymhleth yn digwydd yma. Mae ein hadroddiad, 'Rhoi cynhwysion da yn y cymysgedd: Gwersi a chyfleoedd ar gyfer gweithio ac ariannu seiliedig ar le' yn cynnig rhai egwyddorion i gyfeirio dulliau ariannu seiliedig ar le yn y dyfodol, ac rydym yn gosod cwestiynau i arianwyr - gan gynnwys ein hunain - fyfyrio arnynt.
Her allweddol yw ansawdd gwael llawer o'r dystiolaeth sydd eisoes yn bodoli am ddulliau seiliedig ar le. Mae adroddiad diweddar gan What Works Centre for Wellbeing yn cydnabod hyn, ond yn cynnig sylfaen dystiolaeth ddatblygol ar sut y "gellir defnyddio isadeiledd cymunedol i roi hwb i gysylltiadau cymdeithasol a lles mewn cymuned.”
Nid oes yr un ffordd iawn o weithio mewn lle. Ar gyfer ariannu seiliedig ar le mae angen dull hyblyg, agored a realistig, a thrwy ein hariannu rydym yn parhau i ddysgu am bwysigrwydd gwybod cefndir a chyd-destun lle. Mae buddsoddi mewn pobl a pherthnasoedd - ac adeiladu ar asedau a photensial lleol - yn hollbwysig.
Nid oes unrhyw atebion hawdd, ond trwy rannu dysgu ymarferol a phendant - a chael yr hyder i siarad am gamgymeriadau a heriau - a oes modd i ni i gyd bwysleisio ein dysgu a disgrifio sut y gallai portffolio cytbwys ac effeithiol o ariannu seiliedig ar le edrych?
Hoffem glywed eich barn yn fawr.
Gallwch ddarllen mwy am ein mewnwelediad i weithio seiliedig ar le yma.