Uchelgais a chred gyffredin: Sylfaen newydd ar gyfer y bond rhwng arianwyr ac elusennau?
Mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol bellach yn dosbarthu arian mewn ffyrdd sydd yn fwy ymddiddanol a'n cael ei arwain gan bobl. Ein nod yw i sicrhau bod ymgeisio am a derbyn grant yn fwy tebyg i berthynas cydradd rhwng elusennau ac arianwyr. Mae Dan Paskins, Uwch Bennaeth Datblygu ein portffolio Lloegr, yn adlewyrchu ar y ffordd mae elusennau a chymunedau wedi siapio ein dull ariannu a'r hyn rydym wedi ei ddysgu yn y flwyddyn ddiwethaf.
Yng nghynhadledd flynyddol NCVO, galwodd eu prif weithredwr Sir Stuart Etherington am wahanol fath o berthynas rhwng arianwyr ac elusennau.
"Nid oes gennyf ddiddordeb mewn gofyn am ddychwelyd toreth o grantiau ficro-reoledig, ddigyswllt, gyda'r sector fel cleientiaid o lywodraeth. Hoffwn weld datganoliad llwyr o bŵer ac asedau. Cred ddiffuant mewn cymunedau," dywedodd.
Uchelgais gyffredin
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol rydym yn rhannu'r uchelgais hon - ac rydym wedi bod yn gwneud newidiadau arwyddocaol i'r ffordd rydym yn gweithio er mwyn ei roi i ymarfer.
Rhai blynyddoedd yn ôl, roedd y profiad o geisio cael arian gennym yn debyg iawn i'r broses o gael awdurdod lleol neu gytundebau llywodraethol. Roedd amrywiaeth o raglenni gwahanol a phob un gyda set o ganlyniadau, a roedd rhaid i elusennau lenwi ffurflenni er mwyn ymgeisio am y grant.
Yn ragweladwy, o ganlyniad i hyn roedd y rhan fwyaf o'n ariannu mwyaf a hir dymor yn mynd i elusennau oedd hefyd yn cael arian gan y llywodraeth, ac i'r rhai oedd wedi datblygu eu sgiliau i fod yn wych yn llenwi ffurflenni.
Bellach, mae llawer o elusennau gwych (a rhai sydd ddim mor wych) sydd hefyd yn dda yn llenwi ffurflenni, ond mae llawer mwy sydd ddim. Felly pan ddechreuodd fy nhîm i ail-ddylunio ein rhaglenni ariannu, ein dull datblygu ar gyfer ein grantiau newydd oedd i ddechrau drwy wrando - yn hytrach na phenderfynu beth oedd ein blaenoriaethau - er mwyn darganfod yr hyn sydd bwysicaf i'r cymunedau rydym yn ei gefnogi. Fe wranadaom ar y rhai roeddem wedi ei ariannu, ond hefyd ar y rhai nad oeddem wedi.
Pobl yn Arwain
Fe wrandaom ar bobl sy'n rhedeg elusennau bach doedd heb yr amser i ddarllen dogfen cyfarwyddyd cymhleth a ffurflen ymgeisio, ac i grwpiau cymunedol oedd yn dal i fod yn drist ac yn flin am sut beth oedd o i ymgeisio am grant nad oeddent wedi ei gael.
Fe glywsom gan bobl oedd yn teimlo fod cael arian yn gystadleuaeth am bwy all ysgrifennu am pa mor ddrwg a thruenus oedd popeth yn eu cymuned, yn hytrach nag am y cryfderau a'r cyfleoedd. Fe glywsom hefyd gan y rhai oedd yn teimlo fod cael arian yn dibynnu ar y gallu i dalu am godwyr arian proffesiynol yn hytrach na safon y gwaith.
Er mwyn delio a'r heriau yna, fe wnaethom lansio ein rhaglen ariannu Reaching Communities yn Lloegr oedd yn cynnig grantiau werth dros £10,000 Cawsom wared o'r ffurflenni cais arferol. Gall bobl nawr ddweud wrthym am eu syniadau ar eu termau nhw, mewn ffordd sydd yn gwneud synnwyr iddyn nhw.
Fe gyflogom ychydig o staff newydd, a newid o gael tua 25% o'n staff wedi eu lleoli mewn cymunedau leol i tua 75%, er mwyn iddynt allu dod i nabod eu hardal leol. Mae ein dull rheoli grantiau yn canolbwyntio ar alluogi pobl i ddysgu a rhannu i wneud y mwyaf o'u heffaith yn hytrach na ticio bocsys ar ffurflenni monitro yn unig. Ar gyfer yr holl brosiectau rydym yn ei ariannu, rydym yn dechrau gyda "yr hyn sy'n bwysig" i gymunedau, nid "beth sy'n bod" ar gymunedau.
Buddion i ddull pobl yn arwain
Gyda thîm newydd a dull gwbl wahanol o ariannu, roeddwn yn meddwl y byddai'n cymryd amser hir inni cyn gallu gweld canlyniadau arwyddocaol o'r newidiadau i'n proses ariannu. Roeddwn yn anghywir. Yn y flwyddyn ers inni lansio Reaching Communities:
- Mae mwy o elusennau a grwpiau cymunedol llai yn derbyn arian - roedd 80% o'n grantiau wedi mynd i sefydliadau gyda trosiant o dan £1 miliwn
- Mae sefydliadau yn cael eu hariannu dros amrywiaeth o lefydd - gyda o leiaf un grant mewn 259 o ardaloedd awdurdodau lleol, sydd yn gynnydd ers y 189 o'r flwyddyn flaenorol
- Mae 20% o'n grantiau wedi mynd i sefydliadau nad ydym erioed wedi ei ariannu o'r blaen - cynnydd ers 12% o'r flwyddyn flaenorol
- Mae'r amser cyfartalog o'r ymgais i'r arian yn cael ei ddyfarnu wedi ei leihau o 42 diwrnod - lleihad o 155 diwrnod i 112
- Rydym wedi dyfarnu grantiau, sydd yn llai mewn maint ond hirach mewn parhad - 44% o bedair mlynedd neu fwy o gymharu â 28%
- Mae pob un grant rydym wedi ei ddyfarnu wedi ei ddatblygu gan a chyda phobl yn y gymuned oedd yn bwriadu elwa.
Fel ddywedodd un ymgeisydd, roedd ymgeisio am grantiau i ni "yn gyfle i gael sgwrs ddeallus gydag ariannwr oedd â diddordeb yn eich syniad a'r ffordd gallwch ei wneud yn barod am y cais, a bod yn hyderus y gallwch gael gwrandawiad teg."
Mae ffydd yn y cymunedau yn hanfodol
Mae yna, wrth gwrs, lawer mwy i ddod er mwyn cynnal cymunedau yn fwy effeithiol gydag ariannu achosion da y Loteri Genedlaethol Fel rydym yn ychwanegu at ein gwybodaeth am gymunedau lleol, gallwn wneud mwy i rannu dysgu o'r weithgaredd gymunedol wych rydym yn ei gefnogi, ac i gysylltu pobl i ddatblygu cydweithrediadau newydd a gweithredu cataleiddio.
Rydym yn awyddus ein bod yn cefnogi mwy ar gostau rhedeg craidd, a galluogi'r sector i adeiladu ei alluoedd, a phrofi ffyrdd newydd o roi cyn gymaint o bŵer a rheolaeth dros ein arian yn nwylo'r cymunedau. Gall hyn olygu cynnwys cymunedau i siapio ein strategaeth ac i gael eu cynnwys mwy wrth wneud penderfyniadau am bwy a sut rydym yn dyfarnu arian.
Beth sy'n gwbl glir yw fod cael cred ddiamheuol bod cymunedau yn egwyddor cychwynnol hanfodol i arianwyr ac elusennau. Mae'n egwyddor sydd wedi ein ysbrydoli i wneud newidiadau mawr i'n diwylliant a'r ffordd rydym yn gweithio, sydd fel a ddwedodd Sir Stuart, yn "galluogi elusennau o bob math [i] gysylltu ac ysbrydoli a chefnogi pobl".