Sut ydym yn ysbrydoli cysylltiadau ystyrlon o fewn ein cymunedau?
Ein adroddiad sydd newydd ei lansio, Dod â phobl ynghyd: Mae Sut gall gweithrediad cymunedol daclo unigrwydd ac unigedd cymdeithasol, yn datgan nad yw unigrwydd yn camwahaniaethu. Mae Rheolwr Gwybodaeth a Dysgu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, Zoe Anderson a'r Rheolwr Polisi, Laura Cook, yn edrych yn fanylach ar rai o ganfyddiadau'r adroddiad isod.
Ffyrdd o gysylltu
Gall pobl brofi unigrwydd ar unrhyw adeg yn eu bywydau, ond mae trawsnewidiadau bywyd yn sbarduno hyn yn arbennig, megis gadael cartref, cael plentyn, symud i ardal newydd, ysgaru, plant yn gadael cartref, cael anabledd, dod yn ofalwr neu brofedigaeth.
Ar yr adegau hyn mewn bywyd, gall unigolion deimlo'n fregus iawn neu'n agored i niwed a cholli eu hymdeimlad o hunaniaeth.
I'r bobl hynny sydd wedi colli cysylltiadau, mae'n frawychus mynd allan a chwrdd â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Felly sut maent yn gwneud hynny? Mae'n ymwneud â chymryd camau bach i gynyddu ymgysylltiad. Gall croeso cyfeillgar neu wên syml wneud yr holl wahaniaeth rhwng unigolyn yn gwneud cysylltiadau go iawn neu dynnu'n ôl eto. Dyma pam rydym i gyd hefo rhan i chwarae wrth daclo unigrwydd.
Er y gellir rhannu'r cyfrifoldeb, rhaid i gymunedau ac unigolion deimlo eu bod wedi'u grymuso i dyfu a datblygu cyfleoedd i ymgysylltu, a fydd yn ysbrydoli ac yn ysgogi eraill i gysylltu. Mae ein dalwyr grant yn dod ag aelodau amrywiol o'r gymuned at ei gilydd a fyddai fel arall yn annhebygol o gwrdd, o'r hen a'r ifanc, i aelodau o gymunedau sydd newydd gyrraedd a rhai mwy sefydledig.
Y gofod cywir
Mae'r Cinio Mawr blynyddol, a gymerodd lle ar ddechrau'r mis, yn enghraifft gwych o hyn. Mae'n ddigwyddiad cenedlaethol sy'n annog cynifer o gymunedau â phosibl i ddod ynghyd dros barti stryd neu bryd bwyd. Mae'r weithred o ddod â phobl ynghyd i rannu bwyd yn gam cyntaf gwych i greu gofod croesawgar a chyfeillgar. Ac mae'r gair gofod yn berthnasol yma.
Nid oes rhaid i ofod fod yn neuadd draddodiadol neu'n ganolfan gymunedol, er bod y rhain yn fannau cyffredin i gwrdd â nhw. Mae llawer o gymunedau yn cysylltu mewn gerddi, parciau a chaffis. Fel yr amlygwn yn ein hadroddiad, rhaid i'r gofod neu'r ardal fod yn ddiogel, yn groesawgar ac yn hygyrch i'r gymuned. Mae salwch a thlodi yn ddangosyddion allweddol o unigrwydd, felly mae gwneud y mannau hyn yn hygyrch - trwy gael gwared ar rwystrau trafnidiaeth a chost - yn chwarae rhan hanfodol.
Mae cynllun Friendly Bench, cafodd ei ariannu gan y Loteri Genedlaethol, yn enghraifft gwych o'r 'gofod' yma. Gerddi cymunedol ymyl y ffordd yw'r rhain ledled y DU gyda seddau integredig sy'n cefnogi pobl hŷn ac ynysig, a'r rhai sydd â symudedd cyfyngedig, i dreulio amser gydag eraill, a chyda natur.
Mae cymuned yn bwysig
Fe welsom fod rhoi yn ôl i'r gymuned hefyd wrth wraidd datblygu cysylltiadau ystyrlon. Wrth i ni fynd drwy drawsnewidiadau, mae ein pwrpas mewn bywyd yn newid. Efallai y byddwn yn colli rhai cysylltiadau, ac mae'n rhaid i ni ganfod sut yr ydym yn cysylltu â phobl newydd a fydd yn rhannu ein diddordebau newydd. Mae ymdeimlad o gyfrifoldeb a rennir yn gwneud gwahaniaeth anferthol.
Mae yna brosiectau cyfeillio sy'n dod yn gyfeillgarwch naturiol, parhaus. Roedd hyn yn wir gyda Margaret, a oedd yn teimlo ychydig ar goll ar ôl marwolaeth ei gŵr. Diolch i Age Better Sheffield , cafodd Margaret ei rhoi â Josie, gwirfoddolwr a drefnodd ddiwrnodau allan, teithiau siopa, a chyfarfodydd eraill, a helpodd hi yn ogystal â Margaret:
“Rwy'n byw ar fy mhen fy hun, a gallwn fod wedi bod yn lle Margaret,” eglurodd Josie. "Dim yr hyn wnaethon ni, ond y cyfarfod, siarad a rhannu straeon oedd yn bwysig.”
Sut roedden nhw'n teimlo, a'r cysylltiad rhyngddynt, oedd y cynhwysion hud, ac er bod yr ymyrraeth ffurfiol wedi dod i ben, mae Margaret a Josie wedi parhau i gyfarfod fel ffrindiau.
Helpu eraill
Mae gan wirfoddoli fudd dwbl, gan wella lles y rhai a gefnogir a'r rhai sy'n cynnig cymorth. Rydym yn aml yn gweld pobl sy'n cymryd rhan yn ein gweithgareddau dalwyr grant yn mynd yn wirfoddolwyr. Mae nifer o bobl ym mhrosiect Healthier Independent Longer lives (HILL) yn Essex wedi mynd ymlaen i wirfoddoli, gan rannu eu sgiliau a'u gwybodaeth ag eraill. Roedd un person sy'n defnyddio'r gwasanaeth wrth ei fodd â phaentio a gwaith celf. Mae Tendring CVS, sy'n rhedeg y gwasanaeth, bellach wedi galluogi'r unigolyn hwn i redeg eu dosbarthiadau celf eu hunain. Mae wedi bod yn weithgaredd poblogaidd iawn ymhlith y cyfranogwyr, ac mae'r gwirfoddolwr newydd yn teimlo'n llawer mwy cadarnhaol am fywyd.
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, rydym yn grymuso pobl fel eu bod yn ymwneud yn ystyrlon â materion sy'n effeithio eu bywydau a'u cymunedau . Dweud eich dweud am yr hyn sy'n bwysig i chi, cael mynediad i gyfleoedd a fydd yn eich galluogi i wneud y gorau o'ch cryfderau a theimlo bod gennych lais cyfartal yn eich cymuned - mae'r rhain yn ffactorau allweddol yn ein nod o helpu cymunedau i ffynnu.
Efallai na fydd gennym yr holl atebion, ond fel ariannwr prosiectau sy'n dod â phobl ynghyd, rydym yn falch ein bod wedi ysbrydoli cysylltiadau ystyrlon yn ein cymunedau.
Darllenwch ein adroddiad Dod â phobl ynghyd: Sut gall gweithrediad cymunedol daclo unigrwydd ac unigedd cymdeithasol.