Rwyf i o blaid gweithrediad pobl ifanc ledled y byd ar newid hinsawdd: #OurTimeIsNow
Yn ddiweddar, helpodd actifydd hinsawdd ac Aelod Fforwm Ieuenctid Our Bright Future, Ummi Hoque ni i lansio ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd, lle’r oedd hi'n esbonio i westeion o sefydliadau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus pam mae 'dim ond y dechrau yw hwn' o'n brwydr yn erbyn hinsawdd. Isod, mae hi'n siarad am pam ei bod hi'n defnyddio ei llais ac yn gweithredu gyda'i chyfoedion i achub ein planed.
Rwy'n 18 a hoffwn gael planed ddiogel, iach i fyw ynddi yn y blynyddoedd sydd i ddod, ond os nad oeddech yn gwybod, rydym yn wynebu argyfwng. Argyfwng hinsawdd. Ac nid yw hwn yn broblem ar gyfer y dyfodol - rydym mewn argyfwng hinsawdd nawr.
Mae coedwig law’r Amazon - ysgyfaint ein planed sy'n cynhyrchu dros 20% o ocsigen y byd - mewn fflamau.
Deuthum yn ymwybodol gyntaf o'r trychineb hwn o'r enw newid hinsawdd pan oeddwn yn 14 oed; Deuthum o hyd i fideo YouTube (sy'n nodweddiadol o rywun milflwyddol) oedd yn darlunio o lygad y ffynnon, colled y rhewlifoedd yn yr Ynys Las. Er, fy nghenhedlaeth i yw'r gyntaf i dyfu yn dysgu am newid hinsawdd, ar yr un pryd, ni fydd y genhedlaeth olaf a all frwydro yn erbyn yr argyfwng.
Mae'r dyfodol yn ddisglair
Mi astudiais Ddaearyddiaeth i fy TGAU a Lefel A, ond i'r rhan fwyaf o fy nghyfnod yn yr ysgol uwchradd, roedd fy mhryder yn un mewnol. Nid oeddwn yn ymwybodol o'r hyn gallwn i’w wneud na'r cyfleoedd yn fy nghymuned i frwydro am gyfiawnder hinsawdd; hynny yw, nes i mi fynd i'r coleg.
Un o nifer o'r partneriaethau a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yw Our Bright Future. Mae'r rhaglen uchelgeisiol £3 miliwn hwn, sy'n cael ei arwain gan The Wildlife Trusts yn dod a'r sectorau ieuenctid ac amgylcheddol ynghyd. Mae wedi ei ffurfio o 31 o brosiectau ledled y DU, gyda phob un yn awdurdodi pobl ifanc 11-24 oed i ennill sgiliau hanfodol, profiad ac i wella eu lles, wrth weithredu fel catalyddion ar gyfer newid amgylcheddol yn eu cymuned leol. Gallent wneud hyn drwy weithredoedd fel cadwraeth, ymgyrchu, arweinyddiaeth, dylanwadu, datblygu mentrau cynaliadwy a hyfforddiant galwedigaethol.
Unwaith ddechreuais yn y coleg, gwasanaethodd prosiect o'r enw My World My Home , un o'r 31 prosiect Our Bright Future , fel platfform anhygoel i ddod o hyd i bobl ifanc eraill a oedd yn rhannu'r un pryder ar gyfer ein hinsawdd.
Y rhaglen arweinyddiaeth amgylcheddol hon, sy'n cael ei redeg gan Friends of the Earth a'r National Union of Students, yw lle ddechreuais fy siwrne o actifiaeth.
Cymryd camau cadarnhaol
Mae Our Bright Future, wedi ymgysylltu â 85,788 o bobl ifanc, yn rhagori ar ei darged cyffredinol o 60,000 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn gweithgareddau amgylcheddol. Mae wedi fy ysgogi i, a miloedd o bobl ifanc eraill i barhau i gymryd camau cadarnhaol tuag at ddylanwadu polisi ac arfer i achub ein planed.
Cyn bod yn rhan o Our Bright Future, doeddwn i ddim yn meddwl bod fy llais mor effeithiol â hynny na bod gan unrhyw un ddiddordeb mewn gwrando. Wrth dyfu i fyny, un o’r ‘rhwystrau cymdeithasol’ a grewyd ynof oedd ei bod yn annhebygol y byddai fy ngeiriau neu fy ngweithredoedd yn gwneud gwahaniaeth. Merch ifanc, Asiaidd, Fwslimaidd o Ddwyrain Llundain? Beth sydd ganddi hi i'w chynnig?
Dyna oedd y meddylfryd oedd gen i, ond mae hynny wedi newid yn llwyr ers i mi roi araith yn Nhŷ'r Cyffredin. Fel rhan o'r ymgyrch #TimeIsNow, dywedais wrth wleidyddwyr mae nawr yw'r amser i ni stopio cyfrannu tuag at newid hinsawdd ac adfer ein hamgylchedd naturiol.
Codi eich llais
Fe nododd y diwrnod hwnnw’r sylweddoliad o fy mhŵer fy hun fel actifydd hinsawdd - pŵer fy llais.
Pe bawn i'n gallu cael sylw grŵp o ASau, Prif Weithredwyr prif sefydliadau, meddygon a ffigurau proffil uchel yn yr ystafell Churchill, a'u cael i wrando ar fy stori a fy ngeiriau pryderus am ein hinsawdd sy'n newid, yna roedd hynny'n gyflawniad.
Pan edrychais fyny o'r meicroffon a chyfrif ar un llaw nifer o bobl oedd yn yr ystafell oedd yn rhannu fy nhôn croen tywyllach neu oedd o oed tebyg i mi, ar y foment honno doedd dim ots gan fy mod wedi eu swyno gyda fy llais a phŵer fy ngeiriau (gan gynnwys un neu ddau o jôcs).
Drwy Our Bright Future, mae pobl ifanc fel fi wedi ennill amryw o wybodaeth a sgiliau newydd sy'n benodol i bynciau amgylcheddol, yn ogystal â mwy o sgiliau trosglwyddadwy. Mae bron i 4,000 o gymwysterau neu wobrau amgylcheddol wedi eu hennill gan bobl ifanc, gyda 80% ohonynt wedi eu hachredu.
Fel creadigaeth pobl ifanc ar y cyd, rydyn ni'n gweithio i gyflawni tri o ofynion. Rydym eisiau mwy o amser wedi'i dreulio yn dysgu am yr amgylchedd naturiol, mwy o gefnogaeth i gael swyddi amgylcheddol a gofod wedi'i greu i bobl ifanc gael eu clywed a chwarae rôl weithredol yn y gymdeithas.
Pŵer mewn gweithrediad pobl ifanc
Fe roddom y gofynion yna i 50 o ASau mewn digwyddiad seneddol, wedi'i gyd-ddylunio gan bobl ifanc, i adael iddynt wybod wyneb i wyneb ein gofynion i wella ein hamgylchedd ac i roi pŵer i bobl ifanc.
Yn y pen draw, heb chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ni fyddai dim o hyn y bosibl. Credaf, bydd Cronfa Gweithredu Hinsawdd newydd y sefydliad yn gweithredu fel catalydd i bobl ifanc gael effaith barhaol yn ein cymunedau. Bydd yn blaenoriaethu ac yn arwain y ffordd o ran ymgysylltu â phobl ifanc ar weithredu yn yr hinsawdd, ac mae hyn yn hanfodol gan mai dyma yw dyfodol y bobl ifanc.
O ystyried y dechnoleg sydd gan bobl ifanc ar flaenau eu bysedd, a chyda symudiadau cymdeithasol fel Rhwydwaith Hinsawdd Myfyrwyr y DU a Extinction Rebellion yn rhoi cryfder inni mewn niferoedd, mae bod yn rhan o sefydliad byd-eang ar weithredu yn yr hinsawdd yn fwy hygyrch nag erioed o'r blaen. Ac rwy'n credu'n gryf yn yr ymgyrch #TimeIsNow.