Sut rydym yn siarad: gwleidyddiaeth iaith mewn arweinyddiaeth o lygad y ffynnon
Mae'r trydydd sector wedi gwneud camau arwyddocaol i addasu sut mae unigolion a heriau yn cael eu disgrifio, ond mae graddau o docynistiaeth yn parhau. Mae ein rhaglen peilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon yn ceisio mynd i'r afael â hyn drwy sicrhau bod pobl sydd â Phrofiad o Lygad y Ffynnon o heriau cymdeithasol yn arwain ar ddyluniad rhaglen a gwneud penderfyniadau. Mae Peter Atherton, sylfaenydd Mentrau dan Arweiniad Cymunedol ac arweinydd profiad o lygad y ffynnon a helpodd i ddylunio'r rhaglen, yn esbonio'r gwahaniaeth a wnaeth hyn i daith ariannu ei fudiad.
Laith a'r sector
Mae iaith yn gonglfaen y trydydd sector. Elusennau, arianwyr ac unigolion yn gweithio yn unol â labeli a thermau sy'n diffinio'r gwaith rydyn ni'n ei wneud a phwy rydyn ni'n ei wneud. Mae hyn yn ein helpu i gynnal yr ymwybyddiaeth a'r sensitifrwydd sydd ei angen i osgoi hierarchaethau a pherthynas dioddefwr-cymwynaswr rhwng gwahanol gyrff. Er hynny, mae pethau'n bell o fod yn berffaith, yn enwedig gyda sut rydym yn siarad am yr unigolion sy'n gwneud defnydd o wasanaethau'r sector.
Mae termau cyffredinol fel ‘buddiolwyr’ yn creu argraff un grŵp mewn angen, ar wahân i’r rhai sy’n darparu gwasanaethau. Mae hyn yn creu rhwystr i unigolion gyda Phrofiad o lygad y ffynnon i fod y rhai sy'n arwain dyluniad a darpariaeth gwasanaethau a phrosiectau. Fel mae Baljeet Sandhu yn ei ddweud yn ei hadroddiad
Gwerth Profiad o Lygad y Ffynnon mewn Newid Cymdeithasol: “Gall yr iaith a ddefnyddir i ddisgrifio unigolion a chymunedau sydd â phrofiad o lygad y ffynnon barhau i’w dal yn ôl a’u caethiwo fel 'dioddefwyr' neu 'ddefnyddwyr gwasanaeth’, yn hytrach na gyrwyr newid.”
Gallwn weld hyn ar waith drwy edrych ar derm megis 'cyd-gynhyrchu'. Fel cysyniad, mae cyd-gynhyrchu'n awgrymu cyfiawnder a chynhwysiad. Er, mae sut mae'n cael ei ddefnyddio'n amrywio. Rwyf wedi bod yn gysylltiedig â phrosiectau yn cynnwys mudiadau'r trydydd sector a'r sector cyhoeddus a gafodd eu labelu fel 'cyd-gynhyrchu', ond, yn seiliedig ar Ysgol Cyfranogiad Arnstein, ni aeth fy rhan â'r prosiectau hynny erioed y tu hwnt i'r lefelau o 'hysbysu' ac 'ymgynghori', y mae Arnstein yn ei roi ym myd symbolaeth.
Tu hwnt i symboleiddiaeth
Yr iaith sy'n esblygu o gwmpas profiad o lygad y ffynnon ac mae ei dderbyn yn y strwythurau sy'n llywodraethu cymdeithas yn gofyn am eglurder o hyd. Efallai y bydd angen newid labeli a gymhwysir i bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon neu a fabwysiadwyd ganddynt.
Bydd hyn y helpu sicrhau fod y bobl sy'n gysylltiedig gyda'r system a sydd gan brofiad o lygad y ffynnon, yn cael eu cynnwys oherwydd eu doethineb a'u mewnwelediad, ac nid oherwydd bod eu ymglymiad yn ddefnyddiol i gael grantiau.
Ond, mae'n rhy hawdd i feddwl bod newid iaith yn unig am gael effaith sylweddol ar y ffordd mae cymdeithas yn ystyried profiad o lygad y ffynnon. Mae ymddygiadau sy'n bodoli o fewn cymdeithas wedi'u gwreiddio'n ddwfn. Mae unigolion sydd wedi wynebu gwaharddiad cymdeithasol yn aml yn cael eu herlid gan systemau sy'n gweld problemau o'r fath oherwydd diffygion yn yr unigolyn.
O'r safbwynt hwn, mae angen newid yn y ffordd yr ydym yn siarad am brofiad o lygad y ffynnon a phobl sydd â phrofiad uniongyrchol o faterion cymdeithasol fynd law yn llaw â newid dyfnach, mwy ar lefel system. Yn hyn o beth, mae'r Rhaglen Beilot Arweinwyr â Phrofiad o Lygad y Ffynnon yn bendant yn gam i'r cyfeiriad cywir.
Manylder cain
Roedd y ffaith bod y rhaglen wedi'i siapio trwy gynllun preswyl deuddydd gydag arweinwyr profiad o lygad y ffynnon yn gydnabyddiaeth nad oes gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yr holl atebion, ac, weithiau, mae gwybod yr hyn nad ydych chi'n ei wybod yn bwysicach na gwybod beth rydych chi'n ei wybod. Yn wych, creodd tîm y rhaglen amgylchedd lle roedd cyfranogwyr yn teimlo'n ddiogel i gyfrannu.
Roedd yn ychydig o ddiwrnodau anodd, ond roeddem oll yn teimlo ein bod yn rhan ystyrlon yn rhywbeth pwysig. Ymhlith pethau eraill, buom yn trafod pwysigrwydd iaith ar gyfer y rhaglen, ac adlewyrchwyd y derminoleg hygyrch, gynhwysol y cytunwyd arni trwy gydol dogfennaeth y rhaglen.
Unwaith roedd y rhaglen wedi'i ddylunio, fe brofon yr ochr arall fel ymgeiswyr. Yn hyn o beth, y peth mwyaf adfywiol oedd llunio ein cais gan wybod y gallem fod yn ddilys yn unig: nid oedd angen ysgrifennwr cynnig arnom i loywi ein cynnwys. Gallem ddisgrifio’r hyn yr oeddem am ei wneud a’r gwahaniaeth yr oeddem yn teimlo y gallai ei wneud, heb boeni am yr iaith yn swnio’n ‘broffesiynol’. Fe wnaeth hynny gael gwared ar lawer o bwysau arnom a lefelu’r cae chwarae i fudiadau llai.
Yn olaf, er mwyn sicrhau bod y rhaglen yn gynhwysol o'r dechrau i'r diwedd, cafodd arweinwyr profiad o lygad y ffynnon eu cynnwys hefyd yn y panel gwneud penderfyniadau, a ddewisodd 20 ymgeisydd llwyddiannus o'r rhestr fer derfynol. Mae'r lefel hon o ymglymiad yn llawer uwch ar yr Ysgol Cyfranogi, gan gyrraedd lefel y pŵer dirprwyedig.
Cynnydd cymdeithasol
Sefydlwyd Mentrau dan Arweiniad Cymunedol gennyf i a Matthew Kidd, gan ddefnyddio ein profiad o ddibyniaeth, afiechyd meddwl a'r system garchardai. Rydyn ni'n helpu eraill sydd eisiau gwneud newidiadau i'w bywydau i deimlo eu bod nhw'n perthyn yn eu cymunedau ac i gyflawni eu potensial trwy fentora, gweithgareddau grŵp, adeiladu cymunedol a chyd-gynhyrchu.
Rydym yn gweithio i gael gwared ar y rhwystrau i gynhwysiant cymunedol i'r rheini sy'n wynebu gwaharddiad cymdeithasol oherwydd neu ochr yn ochr â materion cymhleth fel camddefnyddio cyffuriau ac alcohol, digartrefedd, troseddu ac afiechyd meddwl.
Y bobl rydyn ni'n gweithio gyda nhw yn aml yw'r rhai sy'n eistedd ar gyrion cymdeithas, ond fel sector mae'n rhaid i ni dderbyn mai dim ond pan fydd cymdeithas yn dysgu adnabod a thrin unigolion ar yr ymylon fel pobl gyfartal, mewn iaith ac ar waith y gall newid gwirioneddol, parhaol ddod.
Mae gennym ffordd bell i fynd yn hyn o beth, ond mae cydnabod gwerth profiad o lygad y ffynnon yn fan cychwyn pwysig o ran y trydydd sector yn esiampl i gymdeithas.