Mae newid hinsawdd yn fusnes i bawb, felly beth am i ni gyd weithredu i fyd i'r afael â fo
Gydag arolwg diweddar yn dangos bod tri chwarter o bobl yn y DU yn dweud y bydd yr amgylchedd yn bwysig iddyn nhw yn 2020, mae John Rose, ein Cyfarwyddwr Cymru ac arweinydd yr amgylchedd, yn trafod ein strategaeth amgylchedd.
Fel y gwelsom yn y newyddion yn gynyddol dros y flwyddyn ddiwethaf, mae'r argyfwng hinsawdd yn cyffwrdd â mwy a mwy o rannau o'n bywydau. Mae yna lawer o sôn am weithredu unigol, ond fel yr ariannwr mwyaf o weithgaredd cymunedol, credwn y gall dod â phobl ynghyd i weithredu ar lefel gymunedol gael effaith fawr.
Mewn arolwg diweddar o'r Canolfan Newid Hinsawdd a Thrawsnewidiadau Cymdeithasol , dywedodd mwy na thri o bob pump o bobl (62%) fod mynd i'r afael â newid hinsawdd yn gofyn am lefel 'uchel' neu 'hynod uchel' o frys. Yn y cyfamser, dangosodd arolwg cyhoeddus arall fod un o bob tri o bobl yn y DU yn cydnabod bod gan gymunedau rôl wrth gymryd camau amgylcheddol eleni, tra bod llawer - mwy nag un o bob deg o bobl - yn bwriadu ymuno â gweithgareddau amgylcheddol cymunedol yn y flwyddyn i ddod.
Mae hyn yn newyddion gwych, ac mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn cynyddu cefnogaeth i gymunedau sy'n gweithredu i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.
Strategaeth Amgylcheddol
Ers ein sefydlu, rydym wedi bod yn ariannwr amgylcheddol ac, yn ystod y saith mlynedd ddiwethaf yn unig, rydym wedi buddsoddi £345 miliwn mewn prosiectau sydd ag agwedd amgylcheddol, gan gynnwys Our Bright Future, Prosiect Fair Isle a Creu Eich Lle .
Dros y pum mlynedd diwethaf mae ein dull ‘pobl yn Arwain’ wedi canolbwyntio fwyfwy ar ddod â phobl ynghyd i wneud y gorau o’r hyn sydd gan yr amgylchedd naturiol i’w gynnig wrth wella eu bywydau.
Rydyn ni nawr yn falch iawn o gael ein strategaeth amgylchedd tair rhan newydd (dysgwch fwy amdani yn y fideo ar y dudalen hon ). Rhan gyntaf hyn yw cefnogi'r 12,000 o fudiadau y flwyddyn yr ydym yn eu hariannu, yn ogystal â'r rhai sy'n ymgeisio am ein arian, i gymryd camau i liniaru eu heffaith amgylcheddol.
Rydym yn gwneud hyn trwy ddarparu gwybodaeth ac ysbrydoliaeth newydd ar ein gwefan i weithredu'n amgylcheddol , a thrwy ein Ychwanegiadau Gweithredu Hinsawdd yng Nghymru , prosiect prawf a fydd llywio'r ffordd rydyn ni'n gweithio yn y dyfodol.
Ychwanegiad Gweithredu Hinsawdd
Mae'r cynllun peilot yn cynnig arian ychwanegol o hyd at £10,000 i brosiectau nad ydynt yn canolbwyntio ar yr amgylchedd ynghyd â chyngor arbenigol gan ein partneriaid Adfywio Cymru a Cymunedau Cynaliadwy Cymru i'w helpu i nodi gweithrediad ymarferol i weithredu ffyrdd mwy cynaliadwy o weithio.
Mae'r rhai sy'n cymryd rhan yn y cynllun wedi ymrwymo i fonitro effaith eu newidiadau, gan ganiatáu inni ddefnyddio'r gwersi hyn i weld sut y gallwn gefnogi mwy o gymunedau i weithredu yn wyneb yr argyfwng hinsawdd hwn.
Mae Partneriaeth Gymunedol De Sir Ddinbych yng Ngogledd Cymru yn un o'r grwpiau cymunedol sy'n cymryd rhan yn y cynllun.
Byddant yn defnyddio'r grant i osod 24 panel solar ar eu canolfan gymunedol, nid yn unig yn eu helpu i leihau allyriadau carbon, ond hefyd yn arbed ar filiau ynni, gan ei wneud yn dda i fusnes. Mae'r mudiadau eraill sy'n cymryd rhan ar fin cael eu cyhoeddi.
Cronfa Gweithredu Hinsawdd
Ail ran o'n strategaeth amgylcheddol yw'r Gronfa Gweithredu Hinsawdd £100 miliwn. Wedi'i lansio ym mis Gorffennaf y llynedd, bydd y gronfa hon yn galluogi pobl a chymunedau i arwain wrth fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
Bydd yn adeiladu rhwydwaith o bobl a chymunedau, mewn sefyllfa dda i ysgogi newid o fewn, rhwng a thu hwnt i'w cymuned.
Mae'r cyfnod cyflwyno ar gyfer syniadau cychwynnol yn ein rownd gyntaf o ariannu bellach wedi cau a hoffem ddiolch i bawb a gyflwynodd eu syniad - cawsom ymateb gwych gyda dros 600 o gynigion yn rhychwantu meysydd materion, gan gynnwys ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd naturiol a bwyd .
Disgwyliwn ddechrau cyhoeddi pwy sydd wedi derbyn arian yn ystod y Gwanwyn.
Lleihau ein hôl troed
Mae'r rhan olaf o'r strategaeth ynglŷn â lleihau effaith amgylcheddol Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ei hun. Dros y degawd diwethaf, rydyn ni wedi bod yn gweithio i leihau ein hôl troed amgylcheddol mewn sawl ffordd, gan gynnwys lleihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio i gynhesu a goleuo ein swyddfeydd.
Rydyn ni wedi lleihau gwastraff rydyn ni'n ei ddargyfeirio i safleoedd tirlenwi, wedi gwella ein cyfraddau ailgylchu ac rydyn ni'n defnyddio fideo-gynadledda, sy'n golygu y gallwn ni dorri lawr ar deithiau car diangen ar gyfer cyfarfodydd. Rydym wedi ymrwymo i leihau ein hallyriadau carbon ymhellach ac yn barhaus yn chwilio am ffyrdd y gallwn gyflawni hyn.
Er y bydd ein strategaeth amgylchedd yn y pen draw yn helpu i liniaru effaith newid yn yr hinsawdd yn y DU, bydd hefyd yn sicrhau budd ychwanegol i gymunedau ledled y wlad.
Rydym yn gwybod bod prosiectau cymunedol amgylcheddol nid yn unig yn helpu i leihau carbon, ond maent hefyd yn cynnig digon o fuddion eraill y gall pobl a chymunedau eu medi. Ac mae ein harolwg yn cefnogi hyn - mae'n dangos bod pobl eisoes yn ymwybodol o'r buddion y mae cynnwys y gymuned yn eu cael, gan gynnwys dod â'r gymuned ynghyd (49%), gwneud cyfeillgarwch a chysylltiadau newydd (42%), ac mae gwell lles meddyliol a chorfforol ymhlith cyfranogwyr. (40%).
Mae'r holl fuddion hyn yn helpu pobl a chymunedau i ffynnu a dyna hanfod popeth yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol.
****
Cliciwch yma i ddarganfod mwy am yr hyn y gallwch ei wneud i leihau eich ôl troed amgylcheddol .