Rhywbeth i gnoi cil drosto - cefnogi prosiectau bwyd cymunedol cynaliadwy trwy'r coronafeirws a'r tu hwnt
Dyma Nick Gardner, Pennaeth Gweithredu Hinsawdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn crynhoi ac yn myfyrio ar ddigwyddiad ymgynnull diweddar ar yr ymateb cymunedol i heriau dosbarthu bwyd yn ystod COVID-19. Gyda chrynhoad o'r digwyddiad gan Isobel Roberts.
Pan feddyliaf am y coronafeirws a'i effeithiau, ni allaf ond feddwl am yr effaith y mae wedi'i chael ar fwyd. Mae wedi effeithio ar ein bywydau i gyd mewn un ffordd na'r llall, ac un o'r pethau y mae'r argyfwng wedi effeithio arno fwyaf yw ein ffordd o fyw bob dydd.
O effeithiau cynnar iawn y prynu llawn panig mewn siopau ac archfarchnadoedd, hyd at heddiw gyda stociau eitemau penodol heb ddychwelyd i'w lefelau arferol o hyd.
Mae gan y cyfyngiadau symud lawer o brofiadau newydd rydyn ni wedi bod yn eu llywio: rydyn ni i gyd yn paratoi bwyd gartref; does neb yn picio allan am frechdan amser cinio i'r caffi lleol ger y gwaith; mae rhieni'n meddwl beth i'w roi i'w plant i ginio ar ddiwrnod ysgol; mae'n rhaid i ni i gyd addasu i fod â rhestrau siopa a stociau mwy ar gael gartref.
Ond, mae'r heriau i'n system dosbarthu bwyd yn mynd yn llawer ddyfnach na hynny. Un o effeithiau'r pandemig COVID-19 yw gwaethygu anghydraddoldebau yn ein cymdeithas. Bu'n rhaid i bobl oedrannus a bregus ddibynnu ar eraill i ddod â bwyd iddynt. Mae llawer o bobl eraill wedi colli eu swyddi a bywoliaethau ac yn gorfod dibynnu ar gefnogaeth anffurfiol megis banciau bwyd a mecanweithiau cymunedol newydd. Gall hyn oll fod yn arbennig o anodd i bobl nad oes ganddynt rwydweithiau cefnogi sefydledig.
Roedd elusennau a sefydliadau cymunedol ledled y wlad eisoes yn gweithio i atal tlodi bwyd, gwneud bwyd yn fwy iach a mwy cynaliadwy yn amgylcheddol ac i isafu gwastraff bwyd. Maent yn awr yn dod â'r sgiliau hyn at y pandemig presennol.
Gofynnodd ein digwyddiad diweddar ar fwyd a COVID-19 rai cwestiynau treiddgar am dlodi bwyd. Mae’n amlwg bod y pandemig wedi datgelu pethau y dylem fod wedi eu hadnabod, ond nad oeddent ar flaen ein meddwl mewn perthynas ag anghydraddoldebau cymdeithasol yn y DU.
Mae bwyd fel pwnc wedi'i ymwreiddio'n llawer ddyfnach na'r hyn yr ydym yn ei adwaen fel y sector bwyd. Wrth ymateb i'r argyfwng presennol, mae argaeledd a dosbarthu bwyd yn cael eu taclo gan amrywiaeth eang o sefydliadau nad ydynt yn ymwneud â bwyd. Gan ei bod yn rhan mor allweddol o'n bywydau, mae mecanwaith dosbarthu bwyd sy'n gweithredu'n dda'n hynod o bwysig i weithrediad sylfaenol cymunedau lleol.
Mae angen i ni ystyried beth yw'r ffordd orau o ymateb i'r holl faterion hyn a sut y gallwn ni, fel ariannwr, ddefnyddio ein harian a'n gwybodaeth orau trwy sefydliadau cymunedol i helpu ein cymunedau i fod mor gydnerth ag y gallant i siociau'r dyfodol, o ble bynnag y byddant yn dod.
Ein Trafodaeth Polisi Bwyd
Yn ein digwyddiad ar ddechrau mis Mehefin, a gynhaliwyd ar gyfer y sector bwyd i ymchwilio i effaith y cyfyngiadau symud ar sut rydym yn meddwl am fwyd, fe drafodom sut mae sefydliadau cymunedol sydd â ffocws ar fwyd wedi ymaddasu a newid, a sut mae cymunedau wedi dod ynghyd i gefnogi ei gilydd yn ystod yr argyfwng.
Ymunwyd â ni gan Sarah Bentley a Nynke Brett o Made in Hackney, a Clare Horrell o Real Farming Trust (RFT) a siaradodd am sut mae eu prosiectau bwyd cymunedol wedi ymaddasu i gyd-destun cyfyngiadau symud y coronafeirws.
Newid blaenoriaethau'n gyflym
Clywsom y bu'n rhaid i brosiectau bwyd a leolir mewn cymunedau newid eu cynnig gwasanaeth yn llym er mwyn gweddu i anghenion newydd eu cymunedau a'r cyfyngiadau symud. Mae llawer o brosiectau wedi mynd o ddarparu ystod o weithgareddau, y byddai rhai ohonynt yn cynhyrchu incwm, i ddarpariaeth a dargedir yn fwy sy'n ffocysu'n gyfan gwbl ar yr ymateb brys.
Roedd un o raglenni newydd RFT a ddechreuodd ym mis Mawrth wedi'i chynllunio'n wreiddiol i gynnwys hyfforddi aelodau o'r gymuned mewn sgiliau arlwyo er mwyn darparu bwyd llawn maeth i bobl fregus leol, ond bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r elfen hyfforddi ar ôl i'r cyfyngiadau cadw pellter cymdeithasol gael eu cyhoeddi. Newidiwyd ffocws y rhaglen i ddarparu prydau i'r rhai sydd mewn angen.
Effaith ehangach prosiectau bwyd cymunedol
Mae prosiectau bwyd cymunedol wedi camu i'r adwy i ddarparu prydau ar raddfa anferth. Disgrifiodd Nynke sut y symudodd Made in Hackney yn gyflym i sefydlu gwasanaeth brys, a'u bod - 11 diwrnod yn unig ar ôl cyhoeddi'r cyfyngiadau symud - yn darparu 300 pryd o fwyd bob dydd. Erbyn dechrau mis Mehefin, roeddent wedi darparu 27,000 o brydau i bobl mewn angen. Dwedodd Clare wrthym am sut mae partneriaid RFT yn cludo 1200 o brydau bwyd a 250 o flychau bwyd bob dydd, ond bod hyn prin yn crafu wyneb lefel yr angen.
Mae prosiectau bwyd cymunedol mewn sefyllfa dda i wneud defnydd o'u gwybodaeth a rhwydweithiau lleol i adnabod y bobl sydd fwyaf mewn perygl, ac i weithio mewn partneriaeth i gludo pecynnau bwyd brys. Ond, mae gwerth go iawn yr ymdrechion hyn yn mynd y tu hwnt i'r bwyd ei hun.
Amlygodd Clare bŵer yr enydau bach o gyswllt rhwng y rhai sy'n cludo'r bwyd a phobl sy'n profi unigedd cymdeithasol. Disgrifiodd Nynke achlysur o un o gludwyr Made in Hackney a gododd y larwm pan fethodd derbynnydd pecyn bwyd ag agor ei ddrws. Roedd y preswylydd wedi mynd yn sâl ac, o ganlyniad i godi'r larwm, fe dderbyniodd gofal meddygol yr oedd angen taer amdano.
Pryderon o ran cynaladwyedd
Mae llawer o brosiectau bwyd cymunedol wedi colli incwm o'u gweithgareddau codi refeniw arferol, ac o ganlyniad i hyn mae eu dyfodol ariannol yn edrych yn gynyddol ansicr. Roedd y rhai ar y panel yn ddiolchgar i arianwyr sydd wedi dangos hyblygrwydd yn ystod y cyfnod hwn, gan alluogi nhw i ddargyfeirio cyllid wedi'i glustnodi'n flaenorol, ac maent yn dechrau meddwl am ffrydiau incwm amgen.
Er enghraifft, disgrifiodd Nynke sut mae Made in Hackney yn ystyried datblygu elfen menter gymdeithasol o gwmpas gwasanaeth tanysgrifiadau suddion.
Mae angen i'r ddarpariaeth bwyd frys y mae sefydliadau'n ei darparu fod yn gynaliadwy dros y tymor hwy, gan y bydd y cyfyngiadau symud yn cael eu codi ar adegau gwahanol ar gyfer pobl wahanol ac, i lawer, bydd ansicrwydd bwyd yn broblem barhaus. Teimlodd ein siaradwyr i gyd yn ansicr ynglŷn â lefel y gefnogaeth y byddai modd iddynt ei darparu dros y tymor hwy, a dyma oedd un o'r pryderon allweddol ar eu cyfer ar hyn o bryd.
Rhannu ein dysgu
Clywodd y rhai a fu'n bresennol gan gydweithwyr o Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hefyd am beth rydym wedi'i ddysgu hyd yma.
Rhannodd Zoe Anderson o'n tîm gwybodaeth a dysgu rai o'n mewnwelediadau ar fwyd, y gellir dod o hyd i'r rhestr lawn ohonynt ar ein tudalen Mewnwelediad COVID-19. Disgrifiodd Zoe sut mae Covid-19 wedi cynyddu ymwybyddiaeth pobl o sut mae bwyd yn cyrraedd ein byrddau, ac amlygodd hi'r heriau y mae banciau bwyd yn eu hwynebu o ganlyniad i lai o roddion a gwirfoddolwyr ond galw sy'n sylweddol uwch ar hyn o bryd.
Rydym wedi gweld y ffordd y mae sefydliadau cymunedol na fuont yn gweithio gyda bwyd yn flaenorol wedi ymaddasu i ddiwallu anghenion eu cymunedau, gyda phrosiectau newydd yn cael eu sefydlu i lenwi bylchau ar bob lefel o'r system fwyd.
Er enghraifft, o fewn pum niwrnod yn unig, newidiodd Monkstown Boxing Club yn Newtownabbey, Gogledd Iwerddon, o fod yn gyrchfan chwaraeon ac addysg i gegin gawl gymunedol sy'n dosbarthu hyd at 90 dogn o gawl a phecynnau bwyd i bobl sy'n hunanynysu ac sydd fel arall yn agored i niwed.
Wrth ymateb i'r argyfwng, mae llawer o filoedd o bobl wedi camu i'r adwy fel gwirfoddolwyr brwd, ffurfiwyd partneriaethau newydd rhwng sectorau, ac rydym wedi gweld agwedd hynod o gadarnhaol at rannu'r dysgu am yr hyn sy'n gweithio. Er hynny, mae cwestiynau mawr o hyd o ran yr hyn y bydd ei angen ar ddefnyddwyr gwasanaeth yn y dyfodol.
Trafododd Emma Robinson o'n tîm portffolio DU y camau rydym wedi'u cymryd fel Cronfa i gefnogi prosiectau bwyd yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wedi bod yn hyblyg gyda'n deiliaid grant presennol i ailgyfeirio cyllidebau. Rydym wedi sefydlu fforwm dysgu bwyd gyda 15 o ddeiliaid grant ac yn bwriadu parhau â'r sgwrs am fwyd, yn yr un ffordd ag yr ydym wedi'i wneud gydag addysg ac iechyd.
Gall ymwybyddiaeth gyhoeddus ehangach o fwyd ddarparu cyfleoedd datblygu systemau bwyd amrywiol ar raddfa ehangach. Fodd bynnag, rydym yn clywed gan ddeiliaid grant am eu pryderon mai dyma ddechrau yn unig i heriau cynyddol o ran dosbarthu bwyd y mae'r argyfwng COVID-19 wedi taflu'r sbotolau arnynt.
Yn y tymor byr, mae ansicrwydd bwyd yn debygol o gynyddu mewn rhai cymunedau dros y misoedd i ddod wrth i argaeledd gwirfoddolwyr fynd yn llai pan fydd rhai pobl yn dychwelyd i'w swyddi.
Dros y tymor hwy, mae grwpiau penodol yn fwy tebygol o gael eu heffeithio gan ansicrwydd bwyd, megis pobl sydd ag anableddau a phobl groenliw. Un cwestiwn mawr sydd gennym fel ariannwr yw beth yw'r ffordd orau i ni gefnogi'r 'normal newydd' er mwyn cefnogi pobl ar draws ein cymunedau, ac rydym yn gwrando trwy'r amser ar brofiadau'r rhai sy'n gweithio 'ar y rheng flaen'.
******
Mae mwy o wybodaeth am ein digwyddiadau ar-lein sydd ar ddod ar gael ar ein tudalen Digwyddiadau COVID-19.