Partneriaethau, dull cymysg a chynhwysiad digidol ehangach: y ffordd ymlaen i sefydliadau cam-drin domestig
Yma, mae Malin Joneleit, Swyddog Materion Cyhoeddus gyda Chronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, yn adrodd am ddysgu o sesiwn cynullwyr ddiweddar a ymchwiliodd i effaith COVID-19 a'r cyfnod clo ar ddioddefwyr cam-drin domestig a'r gwaith anodd sy'n cael ei wneud gan elusennau a sefydliadau i fodloni'r galw cynyddol am wasanaethau. Daeth y rhai ar y panel yn y sesiwn o Greater Manchester Women’s Support Alliance, Stockport Women’s Centre, Women in Prison, Refugee Women of Bristol a Calan DVS.
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi buddsoddi dros £173.9 miliwn mewn 757 o brosiectau sy'n mynd i'r afael â cham-drin domestig, ac ers 2016, mae ein Menter Menywod a Merched (WGI) wedi buddsoddi £48.5 miliwn yn uniongyrchol mewn sefydliadau menywod a merched ar draws Lloegr.
Mae trais yn erbyn menywod a merched yn parhau i fod yn fater o ddifri yn y DU. Dengys ystadegau (The Guardian, 8 Chwe 2018) fod bron un o bob tri o fenywod wedi profi cam-drin domestig a bod un o bob pump o fenywod wedi profi ymosodiad rhywiol ers troi'n 16 oed.
O ganlyniad i'r cyfnod clo mae dioddefwyr cam-drin domestig wedi bod yn gaeth i'w cartrefi gyda'u camdrinwyr, gan waethygu'r sefyllfa a'i wneud yn fwy anodd i gysylltu â gwasanaethau (papur trafodaeth Vonne: Impact of COVID-19 on Violence against Women & Girls).
Mae pryderon y gallai cyflawnwyr fod yn defnyddio'r amgylchiadau presennol i reoli bywydau eu dioddefwyr ymhellach trwy atal nhw rhag cyswllt â ffrindiau, teulu ac eraill a allai helpu. Gydag ysgolion ar gau, mae gan blant a phobl ifanc sy'n byw mewn aelwydydd lle ceir camdriniaeth lai o gefnogaeth, seibiant a chyfleoedd i ddatgelu camdriniaeth.
Dengys canlyniadau arolwg goroeswyr cychwynnol a gyflawnwyd gan Gymorth i Fenywod ym mis Ebrill 2020 effaith arwyddocaol COVID-19 ar brofiadau menywod sy'n profi cam-drin domestig: Dywedodd 67.4% o oroeswyr sy'n profi camdriniaeth ar hyn o bryd fod y gamdriniaeth wedi gwaethygu ers dechrau'r pandemig, a dywedodd 76.1% fod angen iddynt dreulio mwy o amser gyda'u camdriniwr nawr (Cymorth i Fenywod, Covid-19: Hyb Adnoddau).
Mae gwasanaethau wedi adrodd y derbyniwyd llai o atgyfeiriadau newydd ers mis Mawrth (Llywodraeth Yr Alban, Coronafeirws (COVID-19): cam-drin domestig a ffurfiau eraill ar drais yn erbyn menywod a merched - 30/3/20-22/05/20). Trwy gysylltu'n rhagweithiol â phobl y gwyddys y maent yn wynebu risg a thrwy dreialu llwybrau disylw newydd er mwyn i ddioddefwyr estyn allan am gymorth, mae gwasanaethau'n ceisio gwrthweithio'r duedd hon a lleihau'r risg o niwed.
Digideiddio'r sector yn gyflym
Gyda lleoliadau gwasanaeth ffisegol yn cael eu cau, mae llawer o sefydliadau wedi symud i gynnig cefnogaeth o bell dros y ffôn a defnyddio dulliau rhithwir. Adroddodd Emma Wakeling, ein Cydlynydd Gwybodaeth a Dysgu, fod llawer o elusennau wedi bod yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol i amlygu'r ffaith bod gwasanaethau ar gael o hyd ac yn rhoi ffyrdd o'u cyrchu nhw.
I alluogi dioddefwyr sydd â mynediad cyfyngedig i dechnoleg oherwydd craffu cynyddol eu camdrinwyr a thlodi, mae prosiectau'n darparu ffonau neu lechi i'r rhai sydd mewn risg, gan roi ad-daliadau am alwadau i linellau cymorth, neu dalu am fynediad i'r we.
Cyflwynodd un o'n deiliaid grant, Pathway Project yn Lichfield gyfleuster sgwrsio gwib ar ddechrau'r cyfnod clo, gan annog unrhyw un sy'n mynd i'w gwefan i ddefnyddio'r cyfleuster sgwrsio i siarad ag aelod o staff.
I ddarparu arweiniad i elusennau ynglŷn â helpu'r rhai na allant ffonio llinellau cymorth neu gael mynediad i gyfrifiaduron gan iddynt gael eu dal gyda'u camdrinwyr yn ystod y cyfnod clo, mae Catalyst, sy'n darparu gwasanaethau ac offer digidol am ddim i elusennau, wedi lansio DigiSafe, canllaw diogelu cam wrth gam ar gyfer elusennau sy'n dylunio gwasanaethau newydd neu roi'r rhai sydd eisoes yn bodoli ar-lein. Mae'n helpu elusennau i asesu risgiau eu prosiectau a dylunio nhw gyda diogelwch mewn cof.
Yn ystod ein sesiwn cynullwyr allweddol, adroddodd un o'n Rheolwyr Gwerthuso, Sarah Cheshire, i'n deiliaid grant nodi fod rhai menywod nad ydynt yn cyrchu gwasanaethau wyneb wrth wyneb wedi ymgysyltu'n well trwy ddulliau rhithwir. Gallai hyn fod oherwydd i fenywod gael mwy o reolaeth dros pryd a sut maent yn gwneud cyswllt.
At hynny, amlygodd Jane Powell o Calan DVS, Cymru, sy'n cyflwyno gwasanaethau mewn ardaloedd gwledig yn bennaf, fod digideiddio eu gwasanaethau wedi bod yn her ac yn gyfle. Er i'w gwasanaethau o bell a rhithwir newydd ddarparu mynediad i bobl nad oeddent yn medru defnyddio nhw o'r blaen, mae materion allgau digidol oherwydd tlodi a signalau rhwydwaith bratiog mewn ardaloedd gwledig wedi dangos bod angen dull cymysg o gefnogaeth ddigidol a wyneb wrth wyneb.
Cytunodd y panel hefyd yr oedd yn arbennig o anodd i ddarparu cefnogaeth i fenywod a merched sy'n newydd i'r gwasanaethau gan eu bod yn aml yn 'sownd' yn eu sefyllfa bresennol, gan ei wneud yn llawer anos i adeiladu'r lefel angenrheidiol o ymddiriedaeth ar-lein i'w helpu. Dengys yr heriau hyn bod angen apwyntiadau wyneb wrth wyneb o hyd ac weithiau mai dyna'r unig ffordd i oroeswyr gyrchu cefnogaeth
Mae partneriaethau'n helpu cwrdd â'r galw
Yn ystod COVID-19, mae gwaith partneriaeth wedi chwarae rôl hanfodol wrth ddiwallu anghenion a galw. Ar draws y sector, mae sefydliadau wedi dod ynghyd i gefnogi menywod a merched. Mae sefydliadau'n treialu dulliau gweithio newydd mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a'r sector preifat - boed hynny'n gwmnïau sy'n darparu gwasanaethau a nwyddau neu awdurdodau lleol sy'n ymrwymo cefnogaeth a gweithredu gwasanaethau sydd wedi'u cyfeirio gan drawma.
Mae Women’s Centre Cornwall yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu i'w wneud yn glir, os adroddir ymosodiad, y byddant yn ymchwilio i hynny'n unig ac nid y ffaith bod y goroeswr yn torri rheolau'r cyfnod clo. Hefyd, mae'r elusen cam-drin domestig Hestia wedi ffurfio partneriaeth gyda Boots, Superdrug a Morrisons i ddarparu gofod i oroeswyr gyrchu cefnogaeth yn eu fferyllfeydd.
Esboniodd Nikki Guy o Stockport Women’s Centre yn y sesiwn sut mae'r Ganolfan, ar y cyd gyda Greater Manchester Women’s Support Alliance (GMWSA), wedi cydweithio'n agos ag Awdurdod Cyfunol Manceinion Fawr i ddarparu llety brys dros dro i gefnogi awdurdodau lleol wrth ddarparu llety diogel i fenywod. Ymhen saith niwrnod, trwy waith partneriaeth cryf a chyllid digyfyngiad, roeddent yn gallu creu tai rhywedd benodol diogel a chadarn gyda 27 o ystafelloedd ar gyfer menywod sy'n ddigartref neu'n wynebu digartrefedd. Roedd hyn yn cynnwys menywod sy'n profi cam-drin domestig, trawma neu gyswllt â'r system gyfiawnder yn ogystal ag anfanteision lluosog eraill.
Trawma a ailsbardunwyd gan y cyfnod clo
Siaradodd Layla Ismail o Refugee Women of Bristol â'n cynullwyr allweddol am eu gwaith o gyrraedd a chefnogi ffoaduriaid benywaidd a'r effaith sbardunol y gallai'r cyfnod clo ei chael.
Dywedodd hi y bydd angen ystyried trawma a ailsbardunwyd a chanlyniadau hir dymor bod o dan y cyfyngiadau symud nawr bod cyfyngiadau'r cyfnod clo'n cael eu llacio'n araf. Trwy hyfforddi staff ar ymwybyddiaeth o drawma, mae'r sefydliad yn gobeithio uchafu dealltwriaeth a sensitifrwydd o gwmpas y pwnc.
Ffactor pellach sy'n gwaethygu'r sefyllfa gyfredol ymysg ffoaduriaid benywaidd yw diffyg gwybodaeth wedi'i chyfieithu am COVID-19, sydd yn aml yn eu gadael yn ddiymadferth mewn perthnasoedd ymosodol. Mae Refugee Women Bristol yn helpu i gyfieithu gwybodaeth ddiweddar y llywodraeth i gynorthwyo hysbysu'r rhai sydd mewn perygl.
Esboniodd Emma Wakeling i ddeiliaid grant nodi bod menywod sydd â hanes o drawma (e.e. trais domestig neu gam-drin rhywiol) wedi cael eu hailsbarduno gan y cyfnod clo. Mae menywod a oedd yn gwneud yn iawn cyn COVID-19 yn dychwelyd i brosiectau fel adnodd cefnogaeth yr ymddiriedir ynddynt. Mae Behind Closed Doors yn Leeds yn cefnogi ac yn cysuro cyn-gleientiaid sydd wedi ailgysylltu â nhw dros y ffôn a galwadau fideo.
Hyfforddiant i gyfarparu staff
Ffocysodd pwynt trafodaeth pwysig arall ar lesiant staff yn ystod y pandemig hwn.
Rydym yn gwybod bod gweithio yn y sector hwn yn anodd a bod y risg o losgi allan yn uchel. Mae gweithio o bell yn creu heriau pellach ar gyfer staff, yn enwedig y rhai sydd â phrofiad o gamdriniaeth o lygad y ffynnon. Mae rhai yn ei chael hi'n anodd cymryd galwadau ffôn trawmatig yn eu cartrefi eu hunain, sef eu gofod diogel. Gall absenoldeb sgyrsiau anffurfiol a chefnogaeth gymheiriaid gan gydweithwyr, a diffyg hyfforddiant i ymdrin â hynny o dan y sefyllfa bresennol waethygu'r mater ymhellach.
Mae gwasanaethau'n gweithio i gefnogi eu staff a gofalu am eu llesiant wrth iddynt ymaddasu i ddarparu gwasanaethau o gartref. I helpu eu staff, mae prosiectau'n darparu cefnogaeth barhaus anffurfiol i staff dros y ffôn, yn cynyddu cyfleoedd cefnogaeth gan gymheiriaid ac yn sicrhau bod modd rheoli'r llwyth gwaith achosion.
Mae rhai sefydliadau'n rhedeg egwyl goffi rithwir bob dydd. Mae'r Fenter Menywod a Merched yn trefnu 'galwadau cymunedol' wythnosol er mwyn i staff o elusennau cam-drin domestig rannu syniadau a heriau ar draws eu prosiectau gwahanol.
I sicrhau bod eu staff wedi'u cyfarparu'n dda i ddelio â'r argyfwng, datblygodd GMWSA becynnau hyfforddi wedi'u teilwra o gwmpas arferion ymateb i drawma ac ymwybyddiaeth o drais domestig.
I ddechrau, cyflwynwyd yr hyfforddiant mewn sesiynau 1-i-1, ond wedi hynny fe'i datblygwyd fel pecyn hyfforddi rhithwir ar-lein y gall yr holl staff sy'n gweithio ar draws patrymau sifft gwahanol gael mynediad iddo. Mae'r hyfforddiant hwn bellach wedi cael ei rannu ar-lein gyda staff sy'n gweithio mewn lleoliadau llety brys eraill ar draws Manceinion Fawr a bydd yn parhau ar gyfer yr holl staff newydd.
Mae'n glir erbyn hyn bod blaenoriaethu llesiant yn y gweithle trwy ddiwylliant arfer myfyriol, goruchwyliaeth gynyddol ac ymwybyddiaeth o lwythi gwaith yn hanfodol i gefnogi cyflogeion.
Dull cymysg, cynhwysiad digidol ehangach
Mae'r sector menywod a merched wedi ymaddasu ac ymateb yn gyflym i anghenion goroeswyr yn ystod y pandemig COVID-19. Er bod y ffocws presennol ar ddarparu cefnogaeth frys yn hanfodol, fe fydd yn bwysig i ystyried canlyniadau tymor hwy a'r effaith ar fenywod a merched a ffyrdd o addasu gwasanaethau i fedru ymdrin ag argyfyngau tebyg yn y dyfodol.
Mae digideiddio gwasanaethau menywod a merched yn gyflym wedi creu heriau a chyfleoedd. Mae llwybrau newydd i gyrraedd dioddefwyr cam-drin domestig wedi'u creu ac mae adborth cynnar yn nodi y bydd dull cymysg o ddarparu gwasanaeth yn galluogi gwasanaethau i gefnogi mwy o bobl. Mae cyfarfodydd wyneb wrth wyneb yn wasanaeth hanfodol, ond mae cyfarfodydd rhithwir wedi estyn ymgyrhaeddiad gwasanaethau a'r mynediad iddynt.
Wrth symud ymlaen, bydd yn hanfodol i adeiladu ar y dysgu hwn trwy ehangu cynhwysiad digidol a darparu amrywiaeth o opsiynau ar gyfer cyrchu cefnogaeth.
****
Gallwch ddod o hyd i wersi ymarferol ar gyfer cyflwyno gwasanaethau o bell yn ystod COVID-19 yn www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/insights/covid-19-resources/responding-to-covid-19
Am hyfforddiant pellach ar gymorth cyntaf seicolegol a helpu pobl i ymdopi ag effaith emosiynol COVID-19, ewch i www.futurelearn.com/courses/psychological-first-aid-covid-19/1.