Gadewch i ni wirio ein rhagfarn wrth y drws a symud y tu hwnt i brofiad o lygad y ffynnon
Yma mae Winston Allamby, Partner Cymunedol gyda'n rhaglen anfantais lluosog Fulfilling Lives, a rhywun sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, yn ystyried pam mae mor anodd i bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon symud i swyddi arweinyddiaeth uwch?
Term sy'n cael ei ddefnyddio'n gynyddol yn y trydydd sector yw profiad o lygad y ffynnon. Mae'n derm sy'n codi'r emosiynau a gall achosi i rai rolio eu llygaid, bydd yn peri i eraill fod yn llawn cyffro.
Er bod gan bobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon gyfoeth o wybodaeth, gall y rhai sy'n awyddus i chwarae rôl weithredol wrth wella'r gwasanaeth a systemau sydd wedi helpu neu fethu nhw weld eu bod yn mynd wedi'u diflasu trwy orddefnydd. Mae cylch di-ben-draw o ddarparu gwybodaeth am eu profiadau, mynychu gweithdai a seminarau ac yna cael eu rhoi o'r neilltu hyd nes y cyhoeddir adroddiad neu erthygl sy'n berthnasol mewn rhyw ffordd.
Mae pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon yn amrywio o ran eu lefelau sgiliau, gwybodaeth, angerdd a symbyliad a hefyd sut a ble y maent eisiau gwneud gwahaniaeth, boed yn systematig neu i fywyd unigolyn neu'r gymuned.
Yn aml iawn, gallant dreulio cyfnod hir mewn swyddi gwirfoddol yn gwneud gwaith sy'n gystal â, neu'n well na, gofynion y swydd â thâl. Er hynny, gallant gael eu hesgeuluso neu eu diystyru o hyd pan ddaw'r union un swydd ar gael.
Yn gryno: rydych chi'n ddigon da i weithio fel gwirfoddolwr, ond nid fel cyflogai â thâl.
Er gwaetha'r hyn y byddwch efallai yn dod ag ef at y bwrdd, heb ddechrau dringo'r ysgol gyflogaeth, rydych yn parhau yn yr un sefyllfa - i ffwrdd o fedru dylanwadu.
Fodd bynnag, i mi, ymuno â Fulfilling Lives Lambeth Southwark and Lewisham (FLLSL) fel gwirfoddolwr oedd ble y newidiodd bethau.
Deffro i fy ngwerth
Oherwydd fy mhrofiad o lygad y ffynnon, gosodais gyflogaeth yn is i lawr fy rhestr flaenoriaethau. Bu i ddiffyg gwybodaeth o ran effaith fy nghofnod troseddol ar ennill cyflogaeth, ynghyd â diffyg hunangred, fy nal yn ôl. Roeddwn i'n fodlon iawn i barhau mewn rôl wirfoddol hyd nes i Bennaeth Rhaglen newydd gyrraedd ac agor fy llygaid i werth y gwaith yr oeddwn i'n gwneud.
Adolygodd hi'r rhaglen gyfan, gan gynnwys y gwaith cefnogaeth wirfoddol y bûm yn ei ddarparu i fuddiolwyr. Ar ddiwedd yr adolygiad, cydnabuwyd yr oeddwn wedi cael effaith arwyddocaol ar y buddiolwyr, a dangosodd y gweithredoedd a ddilynodd nad geiriau ac arwyddion gwag yn unig oedd yn cael eu cynnig i mi.
Crëwyd tair rôl Partner Cymunedol newydd i adeiladu perthnasoedd ar draws y gymuned, cryfhau cyfranogiad unigol mewn gweithgareddau cyd-gynhyrchu a chefnogi dysgu ynglŷn â newid systemau, ac fe ges i fy nghyflogi mewn un o'r swyddi. At hynny, roedd hyblygrwydd yn y cynnig swydd o ran gweithio'n rhan-amser neu amser llawn, a oedd yn galonogol ac yn gefnogol.
Bu heriau wrth ymgartrefu yn fy rôl, sy'n cynnwys gweithio gyda chwe chydweithiwr, y mae ganddynt oll brofiad o lygad y ffynnon.
Rydym yn cael rhai sgyrsiau agored yn y gweithle, fel: ar ba gam y mae ein profiad o lygad y ffynnon yn mynd yn elfen eilaidd neu hyd yn oed un nad yw'n cael ei chrybwyll yn ein gwaith ac fel cyfeirbwynt i'r tîm? Beth rwy'n meddwl yw - os ydych wedi recriwtio ymgeisydd sydd â dwy flynedd o brofiad manwerthu yn Marks and Spencer, a fyddech chi'n mynnu galw ar eu profiad M&S bob tro yr oeddech eisiau trafod manwerthu?
Gofod i ymgysylltu
Gall y fath sgyrsiau ddigwydd dim ond diolch i hyblygrwydd y Rhaglen Fulfilling Lives; rhaglen efallai nad oes gan lawer o sefydliadau rywbeth tebyg iddi. Gall trafodaeth ddi-flewyn ar dafod ddigwydd dim ond os yw cyflogwyr yn ymwreiddio cyd-gynhyrchu gwirioneddol, yn ymrwymedig i ddatblygu'r gweithlu ac yn cynnwys profi a dysgu, nid yn unig mewn meysydd sy'n ymwneud â buddiolwyr ond hefyd gyda chyflogeion y rhaglen.
Mae cael y gofod i ofyn cwestiynau a herio tybiaethau yn y gwaith, er ei fod yn anodd ac ar adegau yn peri rhwystredigaeth, wedi bod yn galonogol.
Diolch i fy swydd gyda Fulfilling Lives, sy'n rhoi gwerth ar brofi a dysgu, mae fy nghydweithwyr a minnau'n ymgymryd â hyfforddiant wedi'i deilwra, gan gynnwys hyfforddiant ar broffesiynoldeb. Mae'r hyfforddiant hwn yn bwysig ar gyfer fy natblygiad proffesiynol oherwydd, er bod gan rywun sydd â phrofiad o lygad y ffynnon sgiliau, profiadau bywyd ac efallai cymwysterau ffurfiol, y bydd posibilrwydd bod ganddynt ddiffyg proffesiynoldeb.
Y diffiniad o broffesiynoldeb yr wyf yn ei ddefnyddio yma yw: “cymhwyster neu sgìl a ddisgwylir gan weithiwr proffesiynol ac amrywiaeth o rinweddau ac ymddygiadau personol sy'n dangos ymrwymiad i berfformiad effeithiol ym mhob tasg: ymrwymiad a hyder, cyfrifoldeb a dibynadwyedd, gonestrwydd a moeseg, ymddangosiad a phresenoldeb proffesiynol".
Ond er y gallai proffesiynoldeb fod yn rhwystr i symud ymlaen ar gyfer rhai pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon, 'dw i ddim wedi fy narbwyllo mai dyna'r rheswm pam mae llawer ohonom yn methu â gwneud cynnydd.
Gwiriwch eich rhagfarn
Ydyw'n bosib, yn lle, nad yw diffyg symudiad y rhai sydd â phrofiad o lygad y ffynnon i swyddi rheoli uwch yn deillio o ddiffyg sgiliau, gwybodaeth, neu'r proffesiynoldeb tybiedig sy'n rhan o'r maes, ond o'r stigma sydd ynghlwm wrth y term profiad o lygad y ffynnon?
Gan mai term mor eang ydyw, gall yr unigolyn a'i alluoedd gael eu taflu i'r cysgod. Efallai y tybir nad oes gennych gymwysterau, eich bod yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallwch ei gyflawni, neu na ellir ymddiried ynoch i eistedd o gwmpas y bwrdd. Fodd bynnag, mae pobl yn llawer mwy na dim ond un cyfnod o'u bywydau.
Yn y cyfamser, er nad yw pobl sydd â phrofiad o lygad y ffynnon y maent wedi llwyddo i gyrraedd y lefelau rheoli uchaf wedi 'celu' eu profiad o lygad y ffynnon, mae'n ddigon posib eu bod wedi deall mai cyfyngiad yn hytrach nag ased oedd e ac felly wedi cadw'n dawel amdano.
Y naill ffordd na'r llall, rwy'n credu y dylem i gyd wirio ein rhagfarn; yn enwedig y rhai ohonom sydd wedi llwyddo i godi trwy'r rhengoedd oherwydd ein profiad o lygad y ffynnon, y mae gennym, o bosib, y pŵer yn awr i helpu rhywun arall i symud cam yn agosach at y nenfwd gwydr.
Onid ydych chi'n cytuno?