Mewn Undod mae Nerth: rhaglen ariannu newydd
Emma Robinson, Rheolwr Portffolio'r DU
Mae heddiw'n nodi blwyddyn ers y cyhoeddiad cyntaf ar 16 Mawrth 2020 y dylai pob 'cyswllt cymdeithasol diangen' ddod i ben ledled y DU oherwydd COVID-19. Cafodd ein gallu i fod gyda'n gilydd, gyda phobl eraill, ei oedi'n sydyn.
Ers hynny, er gwaethaf pandemig byd-eang a cyfyngiadau symud ledled y DU yn mynnu ein bod i gyd yn aros ar wahân, mae wedi bod yn galonogol gweld sut mae cymunedau wedi ymateb gyda chreadigrwydd a gwydnwch o'r fath i ddod o hyd i ffyrdd o ddod â phobl at ei gilydd; o bell a, phan fydd cyfyngiadau wedi caniatáu, yn gorfforol ddau fetr i ffwrdd.
Rydym wedi gweld o'n hymchwil ein hunain bod diddordeb pobl yn eu cymuned leol wedi ail-gydio ac wedi sbarduno awydd i wneud mwy i ddod â phobl at ei gilydd. Rydym hefyd yn gwybod bod cymunedau'n newid y ffordd maen nhw'n gwneud pethau, yn addasu i'r 'normal newydd' ac yn cynnig cysylltiadau mewn ffyrdd newydd a gwahanol i'r 'cyfnod cyn'.
Er bod rhai cymunedau wedi parhau i fod, neu hyd yn oed wedi gwella pa mor gysylltiedig ydynt yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gwyddom nad yw eraill wedi gwneud hynny. Mae'r gwrthgyferbyniadau a brofir gan wahanol gymunedau drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf wedi rhoi goleuni llwm ar anghydraddoldebau dwfn a fodolai cyn y pandemig. Credwn ei bod yn bwysicach yn awr, nag erioed o'r blaen, fod pobl wedi'u cysylltu â'i gilydd.
I ni, mae dod â phobl a chymunedau at ei gilydd yn greiddiol i'n diben a'n nodau a dyna pam rydym yn lansio rhaglen ariannu bwrpasol newydd i gefnogi'r gwaith hwn. Bydd y rhaglen Mewn Undod mae Nerth yn ariannu syniadau sy'n galluogi cymunedau i ffynnu drwy greu'r amodau, y seilwaith a'r adeiledd cymdeithasol sy'n galluogi ffyrdd gwell a pharhaol o ddod â phobl a chymunedau at ei gilydd. Mae'r rhaglen newydd, a wnaed yn bosibl diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, yn agor i geisiadau ar 30 Mawrth 2021.
Wrth i ni dreialu'r dull newydd hwn, rydym yn disgwyl ariannu tua 20 o ddeiliaid grant gyda dyfarniadau o hyd at £300,000 dros y 12 mis nesaf ar gyfer prosiectau sy'n gweithio ar draws o leiaf ddwy wlad yn y DU.
Nid yw'r rhaglen hwn yn ymwneud â symud gwasanaethau ar-lein i ddod â mwy o bobl at ei gilydd yn ddigidol ond mae mwy i gefnogi prosiectau beiddgar yn arbrofi gyda gwneud pethau'n wahanol. Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi profi'r angen i fod yn fwy cyfforddus gydag ansicrwydd, felly byddwn yn cefnogi prosiectau sy'n gallu addasu a bod yn hyblyg wrth i ni i gyd lywio ein ffordd a dechrau adnewyddu neu sefydlu ffyrdd newydd o fod gyda'n gilydd.
Rydym am weithio gyda phrosiectau a all gefnogi cynnal amrywiaeth o safbwyntiau a phrofiadau, lle mae anghytundeb yn iawn ac y gellir ei archwilio'n ddiogel, a gall cymunedau ddod at ei gilydd tuag at nod a rennir, lle gellir goddef gwahanol safbwyntiau, gwerthoedd a chredoau. Rydym am weld cyfleoedd i bobl a chymunedau wneud cysylltiadau newydd a phontydd newydd ar draws cysylltiadau presennol sy'n mynd y tu hwnt i gylchoedd uniongyrchol a pherthnasoedd mwy cyfarwydd
Drwy'r grantiau rydym yn eu dyfarnu rydym am weld pobl o ystod eang o gefndiroedd a phrofiadau'n cael eu dwyn ynghyd i wneud newid gwirioneddol yn eu cymunedau; gweithgareddau sydd ag asiantaeth, pŵer a dylanwad, a all fynd y tu hwnt i ddigwyddiadau cymdeithasol untro i fan lle mae pobl yn arwain y newid y maent am ei weld, gan gydweithio i weithredu ar y cyd.
Disgwyliwn y bydd prosiectau a ariennir drwy'r rhaglen Mewn Undod mae Nerth yn gydweithredol yn ganolog, a bod ganddynt ffocws cryf ar rannu dysgu, mewnwelediad ac arfer da sy'n galluogi arweinyddiaeth hael a chydweithio.
Rydym yn edrych ymlaen at ddod â mwy o ddiweddariadau i chi ar y rhaglen hon, gan gynnwys y grantiau a wnawn a'r hyn rydym yn ei ddysgu. I gael rhagor o wybodaeth am y rhaglen ariannu hon e-bostiwch caisprydeinig@cronfagymuendolylg.org.uk neu ewch i'n gwefan o 30 Mawrth i gael manylion am sut i wneud cais.