Railway Gardens: Gofod cymunedol cynaliadwy wedi'i gynllunio gan drigolion
Mae Sblot yn ardal drefol boblog yng Nghaerdydd lle mae trigolion wedi dod at ei gilydd i ddod â'r amgylchedd naturiol yn ôl a'i roi wrth wraidd eu gweithgareddau cymunedol. Yng Ngwanwyn 2021, dyfarnwyd £460,808 o arian y Loteri Genedlaethol i Green Squirrel CIC i ailddatblygu Railway Gardens, llain o dir nas defnyddiwyd, i le awyr agored a dan do unigryw i'r gymuned ddylunio, rhedeg a chymryd rhan mewn gweithgareddau ecogyfeillgar a fydd yn dod â'r gymuned at ei gilydd.
Mae hyn yn cynnwys darparu adeilad a gynlluniwyd mewn partneriaeth â'r gymuned - wedi'i greu o gynwysyddion llongau wedi'u hailgylchu, wyth pod busnes cynwysyddion llongau, rhandir cymunedol, a man awyr agored sy'n ystyriol o fywyd gwyllt.
Buom yn siarad â Hannah Garcia, Cyfarwyddwr y Wiwer Werdd, i siarad am ymgysylltu â'r gymuned leol, perchnogaeth gymunedol, gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r amgylchedd, a rhannu dysgu:
Ymgysylltu â'r gymuned
"Dechreuodd ein gwaith sawl blwyddyn yn ôl pan weithiodd Green Squirrel gydag Edible Adamsdown, i gychwyn gardd gymunedol yn yr ardal oedd wedi ei hesgeuluso dros amser. Roedd y grŵp mor llwyddiannus, arweiniodd at uchelgais i ehangu a dod o hyd i le ar gyfer gofod cymunedol dan do ac yn yr awyr agored. Dyna pryd y cymerodd y sgwrs gyda'r gymuned leol gwmpas ehangach.
Cynhaliwyd digwyddiadau cymunedol gennym i ofyn i drigolion beth oedd y pethau gorau am y gymuned a'r hyn yr hoffent ei weld yn gwella. Cynhaliwyd y rhain ar draws mannau cymunedol hygyrch fel Canolfan Ffoaduriaid Oasis, yr ysgolion lleol ac One Fox Lane - gofod cyd-rannu cymunedol. Defnyddiwyd awgrymiadau gweledol gennym i wneud pethau mor hawdd â phosibl i bobl gymryd rhan ac i ymgysylltu â ni.
Cafwyd ymateb enfawr. Cynigiodd pobl gymaint o syniadau gwahanol am yr hyn y gallem ei wneud, sut y gallem ymgysylltu â grwpiau eraill y gallem bartneru â hwy, a chynigiodd pobl eu sgiliau a'u hamser i helpu hefyd.
Ar ôl i ni gael syniad cyffredinol o'r hyn yr oedd pobl yn chwilio amdano, dechreuwyd gofyn cwestiynau mwy penodol. Cynhaliwyd digwyddiadau teuluol ac ymarferion mapio gydag ysgolion lleol i helpu i lunio sut olwg ddylai fod ar yr adeiladau. Buom yn arbrofi gyda phob math o ddulliau ymgysylltu fel y gallem gyrraedd cynifer o bobl â phosibl, i'w wneud yn hygyrch, a chael barn mor eang â phosibl."
Rhoi perchnogaeth gymunedol i'r prosiect
"Rydym wedi cael ein cefnogi gan grŵp cynghori ar gyfer y prosiect: 11 o drigolion lleol, pobl o'r tu allan i'r ardal sydd â chysylltiad lleol, a chynrychiolwyr sefydliadau cymunedol. Maent yn cynnwys Ysgol Uwchradd Willows, Mosg Al-Ikhlas, Oasis, Benthyg – grŵp llyfrgell benthyca, Caffi Trwsio, a sefydliadau eraill a all gynrychioli eu defnyddwyr gwasanaeth. Maen nhw wedi bod yn help enfawr.
Mae ysgolion lleol wedi bod yn gweithio gyda ni i ddarparu cyfleoedd menter gyda disgyblion. Dywedodd grwpiau eraill wrthym y byddent yn defnyddio'r cyfleuster ad-hoc hefyd, hoffai Al-Ikhlas gynnal dathliadau Eid a byddai gan No Fit State Circus ddiddordeb mewn cynnal syrcas awyr agored.
Gwneud gwahaniaeth amgylcheddol cadarnhaol
"Pan wnaethon ni ein dadansoddiad bylchau, gwelsom fod diffyg cyfleoedd i bobl fyw'n fwy cynaliadwy. Gallai hyn fod yn trwsio eich beic, trwsio eich dillad neu dyfu eich bwyd eich hun. Ychydig iawn oedd yn yr ardal a oedd â phresenoldeb rheolaidd, ac nid oedd y seilwaith i helpu pobl i fyw bywydau cynaliadwy; dim oergell gymunedol, dim cegin i bobl gael coginio gwastraff bwyd, cyfleuster cyfnewid dillad, ac yn y blaen.
Yn ystod pandemig COVID-19, mae nifer o brosiectau newydd wedi datblygu'n gyflym o ganlyniad i weithredu gan breswylwyr, gan gynnwys Splo-Down Food Coop a grŵp tyfu StarGarAllot; felly er y bydd y prosiect yn helpu i ddarparu adnoddau a chyfleusterau ar gyfer byw'n gynaliadwy, agwedd bwysig arno hefyd yw cefnogi aelodau'r gymuned sydd eisoes yn gwneud i hynny ddigwydd.
Rydym am ei gwneud yn hawdd i bobl ymgorffori arferion carbon isel a bioamrywiol yn eu ffordd o fyw heb orfod gadael yr ardal, na gorfod gwario arian ychwanegol.
Bydd gan Benthyg, er enghraifft, "lyfrgell o bethau" yn barhaol ar y safle. Bydd hynny'n ased enfawr i'r gymuned oherwydd bydd pobl yn gallu benthyg rhywbeth ar unrhyw adeg. Bydd lle parhaol i'r caffi trwsio, y cydweithfa fwyd ac i Chwarae Cymru ddarparu hyfforddiant llysgenhadon chwarae, yn ogystal ag ar gyfer Growing Street Talk – grŵp garddio cymunedol.
Bydd y safle'n arddangos ffyrdd cynaliadwy o wneud pethau i ysbrydoli eraill. Er enghraifft, mae systemau draenio agored yn dangos defnydd effeithlon o ddŵr, cynaeafu dŵr glaw, a phlannu sy'n ystyriol o fioamrywiaeth. Bydd paneli solar yn pweru ein toiled, mae gennym le i dyfu bwyd yn gynaliadwy. Rydym am ddangos yr hyn y gellir ei gyflawni mewn man trefol bach o ystyried y seilwaith cywir."
Rhannu gwybodaeth â chymunedau eraill
"Rydym wedi bod yn gwneud cysylltiadau â phrosiectau eraill sy'n gwneud pethau tebyg. Mae gennym ddiddordeb mewn rhannu gwybodaeth a threfnu ymweliadau â gwahanol safleoedd fel y gallwn rannu gwahanol ffyrdd o wneud pethau.
Rydym wedi bod yn lwcus i fod mewn cysylltiad â grwpiau eraill a ariennir gan y Loteri Genedlaethol, sef Croeso i'n Coedwig yn Nhreherbert a'u prosiect Rhondda Skyline. Rydym yn edrych ar ffyrdd o weithio mewn partneriaeth â'n gilydd fel y gallwn rannu syniadau a dysgu. Er enghraifft, rydym yn archwilio pethau fel cyfnewid plannu coed neu, rhannu agwedd ar ein prosiect a'u prosiect hwy, neu bartneru gyda'r gwahanol ysgolion fel y gall pobl ifanc ddarganfod mwy am yr amgylcheddau trefol a gwledig lle maent yn byw.
Rydym am ddysgu oddi wrthynt o ran a allem o bosibl gynnal gweithgaredd tyfu coed neu goetir cymunedol, sef yr hyn y maent yn ei wneud yn Nhreherbert."
Diolch chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
"Mae'r teimlad o ddiolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am wireddu'r weledigaeth hon. Mae'n wych. Cynhaliwyd digwyddiad bach ar ein safle yn fuan ar ôl i ni allu cyhoeddi'r grant ac roedd cynifer o bobl wrth eu bodd, yn gefnogol ac yn gyffrous am y gwaith. Ni fyddai hyn yn bosibl heb gefnogaeth chwaraewyr y Loteri Genedlaethol."
Darganfyddwch fwy am Railway Gardens.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU . Darganfyddwch fwy am ariannu Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.