Tyfu Syniadau Gwych: cefnogi newid trawsnewidiol
Sut ydych chi'n buddsoddi mewn newid trawsnewidiol ac yn ei gefnogi? Y math o newid sy'n cyd-fynd â chymhlethdod a maint yr heriau sy'n ein hwynebu? Ein Portffolio yn y DU yw lle gall y Gronfa arbrofi gyda sut i gyflawni mewn gwahanol ffyrdd a dyma ddau o'r cwestiynau rydym wedi bod yn eu gofyn dros y flwyddyn ddiwethaf yn erbyn cefndir pandemig COVID-19. Yn y blog hwn mae John Knights ac Andriana Ntziadima yn disgrifio sut y gwnaethom ddatblygu rhaglen ariannu newydd i gefnogi newid trawsnewidiol a hirdymor ledled y DU.
Yr angen
Dros yr 16 mis diwethaf, mae ein cymunedau wedi wynebu heriau sydd wedi dangos pa mor gysylltiedig ydym, ond hefyd derfynau llawer o systemau. Mae nifer o bolisïau a rhaglenni newydd wedi'u creu i gefnogi cymunedau wrth i ni ddod allan o'r pandemig yn araf, ond mae consensws eang hefyd bod y pandemig wedi dangos bod dim ond newidiadau bach yn annhebygol o fod yn ddigonol. Mae angen trawsnewidiad systemig dyfnach.
Ein dull
Gan ddechrau ym mis Gorffennaf 2020 treuliwyd amser yn siarad â'r rhai sy'n gweithio ac yn ariannu ym maes newid trawsnewidiol yn y DU (a thu hwnt) i ddeall yr heriau y maent yn eu hwynebu a sut y gall arianwyr gefnogi'r gwaith pwysig hwn yn well. Clywsom fod newid hirdymor yn cymryd amser, yn aml dros 10 mlynedd, mae'n golygu bod nifer o bobl a sefydliadau (ecosystem) yn gweithio ar sawl lefel wahanol ac yn dysgu ac addasu'r dull yn gyson. Dywedwyd wrthym hefyd nad yw newid hirdymor yn aml yn cael ei gefnogi gan arianwyr, neu o leiaf heb ei gefnogi'n dda.
O'r sgyrsiau hyn, crëwyd rhaglen ariannu newydd gennym, Tyfu Syniadau Gwych, a agorodd ar gyfer cynigion ym mis Ionawr 2021. Theori newid ar gyfer Tyfu Syniadau Gwych yw, yng ngoleuni'r heriau cymdeithasol ac amgylcheddol sy'n ein hwynebu (y mae llawer ohonynt yn rhagflaenu'r pandemig), mae angen i ni fuddsoddi yn y tymor hir yn y grwpiau a'r rhwydweithiau sy'n ceisio gwneud pethau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i drwsio neu addasu'r systemau presennol.
Sut mae hyn yn wahanol
Mae Tyfu Syniadau Gwych yn ymwneud â mwy na dim ond ailgynllunio gwasanaethau, neu eu gwneud yn fwy cyfeillgar i'w defnyddio, mae'n ymwneud â buddsoddi mewn arloeswyr a ffyrdd newydd o wneud pethau, sy'n golygu y gallai edrych a theimlo'n wahanol i'n rhaglenni eraill. Felly, beth sy'n wahanol?
Ailddychmygu systemau a Naratifau:
Rydym am fuddsoddi yn yr amodau a allai arwain at newid trawsnewidiol hirdymor yn ein cymdeithas. Gallai'r amodau hyn fod yn athroniaeth, ffrâm, rhesymeg neu naratif newydd neu greu'r seilwaith sy'n galluogi newid trawsnewidiol i ddigwydd.
Canolbwyntio ar newid trawsnewidiol:
Er mwyn dangos sut mae proses drawsnewidiol yn digwydd, rydym wedi defnyddio ac addasu Theori Pontio Cymdeithasol-dechnegol Geels, fframwaith aml-lefel a ddarlunnir isod.
- Mae'r pridd yn cynrychioli'r symudiadau ar lawr gwlad, lleisiau ein cymunedau a'r trawsnewidiadau sy'n digwydd ar lefel gymunedol
- Mae'r niche yn caniatáu ar gyfer mannau archwilio, dychymyg ac arloesi – dyma lle mae cysyniadau a syniadau newydd yn cael eu geni a'u meithrin.
- Mae'r gyfundrefn yn cyfeirio at y polisïau, y rheolau, y normau a'r ymddygiadau sy'n llywio ein systemau a'n seilwaith presennol.
- Mae'r dirwedd yn cyfeirio at y naratif dwfn, yr egwyddorion a'r gwerthoedd diwylliannol, amgylcheddol a chymdeithasol sy'n sail i ymddygiad y systemau ac yn llywio hynny.
Y dirwedd - dylanwadau a naratif economaidd, amgylcheddol, a diwylliannol mawr ar gymdeithas.
Y drefn – fframweithiau, rheolau a normau sydd wedi'u gwreiddio mewn seilwaith, polisïau a sefydliadau.
Y ‘niche’ – mentrau lleol a llai, arferion newydd, ffyrdd amgen o fyw, cydweithredu, a datblygiadau arloesol.
Y pridd, y gwreiddiau a'r compost – symudiadau ar lawr gwlad, trawsnewid a gwella personol a chymunedol, codi lleisiau, a dealltwriaeth gyfannol o faterion ryngsectorol .
Addasiad o: Geels, Frank & Schot, Johan. (2010). The Dynamics of Transitions: A Socio-Technical Perspective. Mae hyn wedi'i addasu at ddibenion y Gronfa.
Ein bwriad ar gyfer Tyfu Syniadau Gwych yw cefnogi mentrau sy'n gweithredu mewn o leiaf 2 o'r 4 lefel.
Ariannu ecosystemau
Mae Tyfu Syniadau Gwych yn cydnabod y cymhlethdod sy'n sail i'n systemau ac yn cydnabod na ellir cyflawni newid trawsnewidiol hirdymor gan un grŵp, sefydliad neu brosiect. Felly, rydym am fuddsoddi mewn rhwydweithiau, ecolegau a cynghreiriau (sy'n cynnwys pobl, cymunedau a sefydliadau) sy'n gweithio tuag at ddiben cyffredin ac athroniaeth newydd. Gallai'r rhain fod yn rhai sy'n bodoli eisoes sydd am ymestyn a/neu ddyfnhau eu gwaith, neu rai newydd sydd wedi dod i'r amlwg yn ystod pandemig presennol COVID-19. Disgwyliwn na fydd y cydweithrediadau hyn yn sefydlog ac y bydd eraill yn ymuno (ac o bosibl yn gadael).
Beth rydym yn ei ddysgu
Mae'r rhaglen yn ffordd newydd o weithio i ni ac rydym am ddysgu gydag ymgeiswyr a deiliaid grantiau wrth i ni fynd. Drwy gydol y broses o ddatblygu'r rhaglen, buom yn archwilio cwestiynau ynghylch atebolrwydd, cyfreithlondeb a phriodoldeb ein systemau a'n proses ein hunain i gefnogi a galluogi arian hirdymor o'r math hwn. Dyma rai o'r cwestiynau y bu'n rhaid i ni eu hateb:
- Sut rydym yn mynd ati i gynllunio rhaglen sy'n canolbwyntio ar adeiladu ar allu ecosystemau cyfan yn y tymor hir yn hytrach na nodau tymor byrrach penodol?
- Sut rydym yn ymrwymo i arian hirdymor yn seiliedig ar weledigaeth o newid yn hytrach na chanlyniadau penodol?
- Sut rydym yn gweithio gyda'n deiliaid grantiau mewn ffordd agored, ailadroddol a thryloyw sy'n eu galluogi nhw i weithio mewn ansicrwydd, creadigrwydd a phosibilrwydd?
- Sut ydyn ni'n mynd ati i ddysgu ac yn deall effaith mewn amgylcheddau sy'n dod i'r amlwg?
Rydym wedi derbyn dros 230 o gynigion i'r rhaglen ers iddi agor ac rydym eisoes yn dysgu:
- Mae pobl yn cael eu cyffroi a'u hadfywio gan y cyfle i dderbyn arian sy'n canolbwyntio'n benodol ar newid hirdymor. Fel y dywedodd un o'r bobl y buom yn siarad â hwy yng nyluniad y rhaglen "Rwy'n cael fy ysgogi gymaint gan botensial hyn, i'r timau hyn sy'n pwyso am newid mor uchelgeisiol ac am ddeall sut mae newid yn digwydd y bydd rhaglen fel hon yn ei chyflwyno."
- Nid yw'r dull ecosystem o weithio yn gyffredin ledled y DU. Er bod gweithio mewn partneriaeth yn ail natur i lawer o'r sefydliadau y mae'r Gronfa yn eu cefnogi, mae'n aml yn cynnwys partner/partneriaid arweiniol a pherthnasoedd cyfartal a'r hyn y gellid ei ddisgrifio'n well fel ecoleg sy'n tyfu.
- Mae'r cyfle i greu gweledigaeth hollol wahanol mewn ardal neu leoliad penodol yn gyffrous, ond mae tipyn o anghrediniaeth bod arianwyr yn wirioneddol barod i fuddsoddi mewn gwaith a allai arwain at newid sylfaenol.
- Mae gan lawer o'r grwpiau sy'n ymwneud â gweithio ar newid hirdymor strwythurau gwneud penderfyniadau a llywodraethu amrywiol sy'n eu galluogi i ddysgu ac addasu eu dulliau gweithredu'n gyflym. Fodd bynnag, nid yw'r strwythurau hyn bob amser yn cyd-fynd â meini prawf mwy caeth arianwyr, gan gynnwys ein rhai ni.
Dyfarniadau a wnaed
Nod Tyfu Syniadau Gwych yw cynnig arian hirdymor, aml-flwyddyn i fentrau sydd â'r potensial i gyflawni newid trawsnewidiol a thymor hir. Rydym wedi ymrwymo i gefnogi'r mentrau ers hyd at 10 mlynedd gyda thrafodaethau rheolaidd ar gynnydd a dysgu:
- Slow Ways
- Farming the Future
- Healing Justice London
- Down to Earth Project
- Doughnut Economics Action Lab (DEAL)
- Civic Square
- Open Systems Lab
- Global Black Thrive
- Transition Network
Dysgwch fwy am y prosiectau hyn ar ein tudalen astudiaethau achos Tyfu Syniadau Gwych [insert link]
Bydd y gwaith yr ydym wedi'i ariannu yn ein galluogi i archwilio a dyfnhau ein dealltwriaeth o'r hyn y mae'n ei gymryd i ariannu a chefnogi ecosystemau cyfan a sicrhau newid trawsnewidiol parhaol. Dyma'r edafedd cyffredin rhwng y 9 dull hyn:
- Mae gan bob un o'r grwpiau uchelgais enfawr a heintus yn eu gwaith sy'n dychmygu'r hyn sy'n bosibl.
- Maent yn dysgu drwy wneud a dangos yr hyn sy'n bosibl i eraill ac maent yn agored i eraill ymuno â'u hecosystemau.
- Mae gan bob un ohonynt dimau craidd bach a hyblyg, ond mae eu heffaith yn fawr, gan greu tonnau yn genedlaethol ac yn rhyngwladol.
- Maent yn gweithio gyda lefelau lluosog o system ac yn croesawu rôl gwahanol bartneriaid.
- Maent yn datblygu mathau newydd o seilwaith a fydd yn cael effaith ehangach ac y gellid eu defnyddio at ddibenion eraill yn y dyfodol.
Camau nesaf
Rydym yn cyd-gynllunio ein perthynas ariannu â'r sefydliadau hyn. Mae'n waith cyffrous sy'n gwthio ffiniau sut mae'r Gronfa'n gweithio. Byddwn yn rhannu mwy ar sut mae hyn yn datblygu ac yn rhannu mewnwelediadau mewn blogiau yn y dyfodol.
Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn feithrin gallu grwpiau a allai, gyda'r amser a'r adnoddau cywir, fynd ymlaen i ddatblygu syniadau sy'n cyd-fynd â'r uchelgeisiau ar gyfer y rhaglen.
Mae'r rhaglen hon bellach ar gau i geisiadau. Rydym yn manteisio ar y cyfle hwn i adolygu'r rhaglen ariannu Tyfu Syniadau Gwych a'r ceisiadau a gawsom.