"Mae Digging Deeside wedi fy helpu i deimlo'n fwy byw"
Menter gymdeithasol yn Sir y Fflint yw RainbowBiz CIC, a gafodd ei sefydlu bron i wyth mlynedd yn ôl. Mae’r fenter yn galluogi ac yn grymuso gwirfoddolwyr i ddatblygu sgiliau, dathlu cyfraniad pobl ac ymgysylltu â'r gymuned leol ehangach.
Cafodd £10,000 ei ddyfarnu iddyn nhw i barhau i redeg Digging Deeside, prosiect garddio cymdeithasol gyda'r nod o wella lles a lliniaru straen gofalwyr, am flwyddyn arall. Mae'r prosiect cymunedol wythnosol yn cynnig sgiliau garddio sylfaenol, sgiliau bywyd a'r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Yn bwysicaf oll, mae'r prosiect yn cynnig lle diogel i gwrdd â phobl o'r un anian.
Buon ni’n siarad â'r tîm yn Digging Deeside, gan gynnwys y Cyfarwyddwyr, Sarah, Sue a Darren, am eu gwaith a sut mae'r prosiect wedi newid eu bywydau i gyd mewn rhyw ffordd neu'i gilydd.
Tîm Digging Deeside
Sarah
"Mae gen i gefndir gofal, yn broffesiynol ac yn bersonol, a phan symudais i Gymru i fyw gyda fy ngwraig, Sue, roedden ni eisiau defnyddio ein sgiliau i weithio gyda phobl oedd angen cymorth. Mae gen i ddiddordeb hefyd mewn garddio fy hun. Rwyf wrth fy modd y tu allan ac rwy'n gwybod pa mor dda ydy bod y tu allan i iechyd meddwl pawb, felly penderfynon ni ddechrau rhedeg y prosiect garddio hwn.
Rwy'n caru'r bobl sy'n dod yma. Mae'n anodd rhoi hyn mewn geiriau, ond pan welwch naid mor enfawr yn hyder neu annibyniaeth rhywun a gwybod mai'r rheswm yw eu bod wedi bod yn dod i'r grŵp hwn cyhyd, rwy'n teimlo ychydig yn emosiynol. Allwch chi ddim ei gofnodi oherwydd mae'n digwydd allan o nunlle. Mae rhywbeth yn yr awyr yn gwneud i bobl fod yn hamddenol iawn yma yn yr amgylchedd hwn.
Mae'n lle diogel i bobl allu siarad am unrhyw beth sydd ar eu meddyliau. Mae cael ffocws fel garddio yn golygu y gall pobl rydyn ni'n eu cefnogi fod yn gwneud rhywbeth gyda'u dwylo heb deimlo mor hunanymwybodol am siarad am eu teimladau eu hunain. Byddan nhw'n naturiol yn dechrau cyfathrebu â phobl eraill ac rwy'n credu bod hynny wrth wraidd Digging Deeside mewn gwirionedd - bod pobl yn gallu gwneud cysylltiadau cymdeithasol â'i gilydd."
Sue
"Digging Deeside yw ein gwir gartref, ein sylfaen lle dechreuon ni, ac rydyn ni wedi tyfu o'r fan hon (esgusodwch y chwarae ar eiriau!). Rwy'n anabl fy hun ac mae rhai dyddiau lle nad ydw i’n teimlo bod gen i'r gallu i fynd allan a gwneud pethau, ond rwy'n meddwl am y bobl rydyn ni'n eu cefnogi a'r llawenydd maen nhw'n ei gael o'r prosiect ac mae hynny'n llenwi fy nghalon gyda llawenydd. Rwyf wrth fy modd fy mod yma iddyn nhw a’u bod nhw yma i ni.
Fy mhrif sgiliau yw gwneud cwpanaid da o de a darparu bisgedi siocled! Fodd bynnag, rwy’n dysgu ychydig yn araf am fywyd planhigion a sut i gynaeafu ffrwythau ac rwy’n ei weld yn ddiddorol. Rwyf wedi dechrau ymddiddori'n wirioneddol mewn tyfu tatws gartref, dim ond am fy mod wedi sylweddoli pa mor hawdd ydoedd pan wnaethon ni hynny ar y prosiect. Penderfynais y gallwn roi cynnig arni gartref, fel y mae llawer o'r bobl eraill wedi'i wneud. Cefais fy ysbrydoli i fynd allan yn fy ngardd fy hun, ac mae hyn yn destament i'r sgiliau rwyf wedi'u dysgu gan Sarah ar y safle yn Digging Deeside.”
Darren (Daz)
Aeth Darren (sydd hefyd yn cael ei alw’n Daz) i RainbowBiz am y tro cyntaf tua chwe blynedd yn ôl ac roedd yn fregus iawn ac wedi'i ynysu yn dilyn damwain car ddifrifol yn ei arddegau hwyr. Bu'n byw gartref gyda'i rieni am ddau ddegawd ac yna, yn anffodus, collodd ei fam.
Mae ei daith gyda RainbowBiz wedi bod yn eithaf syfrdanol. Dechreuodd fel dyn swil a thawel iawn, gyda diddordeb mewn helpu ar y rhandiroedd, ond mae bellach yn ymwneud â phopeth maen nhw’n ei wneud bron. Ychydig flynyddoedd yn ôl, gwahoddodd Sarah a Sue Daz i fod yn Gyfarwyddwr gyda nhw yn RainbowBiz gan fod ei angerdd yn glir i'w weld. Mae wedi ymgymryd â'r rôl hon ac wedi mynd o nerth i nerth.
Esboniodd Daz yr hyn mae'r prosiect wedi'i wneud iddo ef:
"Cefais ddamwain car yn 1993 a chael anafiadau lluosog a thrawma pen. Roedd yn rhaid i mi ymdopi â phethau a dysgu sut i wneud pethau'n wahanol. Roeddwn i’n dod yma i fynd allan o'r tŷ, i gadw'n heini ac i ymwneud â phobl eraill – i wella fy hun.
Rwyf wrth fy modd yn garddio ac rwyf wedi dechrau tyfu mefus, tatws, moron a rhuddygl gartref hefyd. Blodau gwyllt yw fy ffefrynnau, gan ei fod yn achub y gwenyn, y glöynnod byw a'r pryfed – mae gwenyn yn greaduriaid anhygoel, maen nhw'n rhoi bwyd ar ein byrddau."
Mae Darren yn eiriolwr dros wenyn ac yn rhannu ei wybodaeth ag eraill yn Digging Deeside. Mae hefyd yn ysgrifennu blog ar blatfform cyfryngau cymdeithasol bob dydd ac yn manylu ar ei deimladau a'r hyn mae wedi'i gyflawni drwy ddod i'r plot garddio.
"Ers Digging Deeside rwyf wedi dod yn hyderus iawn i wneud pethau ar fy mhen fy hun, pethau a oedd yn anodd i mi eu gwneud cynt, fel sgwrsio â phobl a gwneud ffrindiau newydd. Rwyf wedi dysgu sgiliau garddio ac rwyf wedi dysgu sgiliau pobl. Rwy’n siarad drosof fy hun nawr yn hytrach na bod angen pobl eraill i'm harwain ym mhopeth rwy’n ei wneud.
Mae fy ngallu newydd yn fy ngalluogi i helpu eraill, mewn garddio ac o ran cefnogaeth, ac mae fy iechyd wedi gwella'n aruthrol, yn gorfforol ac yn feddyliol. Teimlaf fod Digging Deeside yn fy ngwella. Mae wedi fy helpu i deimlo'n fwy byw."
Fozzy
"Rwy'n DJ ac yn beiriannydd sain, a thrwy COVID-19 yn amlwg dydyn ni heb allu gwneud unrhyw gigs, felly dechreuais ymwneud â RainbowBiz ychydig yn fwy. Dechreuais wneud prosiect cymdeithasol ar-lein a phrosiect TG ar ddydd Gwener i gael pobl ar-lein a chadw mewn cysylltiad pan na allen nhw ddod yma.
Rwyf wedi cael y cyfle nawr i ddechrau dod i Digging Deeside ac mae'n wych bod yn hwylusydd prosiect. Mae wedi fy helpu i ymwneud â'r gymuned, i wneud rhywbeth gyda natur a gwneud ffrindiau newydd – mae'n ffocws yn hytrach nag eistedd gartref ar fy mhen fy hun yn aros i bopeth ddechrau gyda'r gwaith DJ a pheirianneg sain."
James
"Rwyf wrth fy modd yn peintio – peintiais y meinciau, y seddi, y pyst a'r llwyfan band. Mwynheais wneud y slabiau a rhoi tywod oddi tanyn nhw ar gyfer ein sedd gardd newydd.
Dysgais sut i blannu hadau yma. Mae gen i dŷ gwydr gartref ac rwy'n tyfu mefus, brocoli, bresych, riwbob, garlleg, nionod/winwns a thomatos. Rwyf wedi bod yn coginio a bwyta'r bwyd."
Kate
Roedd Kate yn arfer bod yn gwsmer yn siop RainbowBiz yn yr Wyddgrug a chlywodd am y prosiect garddio yno. Doedd ganddi ddim diddordeb mawr mewn garddio i ddechrau ond erbyn hyn mae wedi bod yn mynd i Digging Deeside ers bron i ddwy flynedd a dydy hi heb edrych yn ôl ers hynny.
"Rwyf wedi dod yma i newid fy mywyd. Rwyf wrth fy modd yn gwneud ffrindiau, cael amser da a chwerthin. Rwyf hefyd wedi dysgu'r gwahaniaeth rhwng planhigion a chwyn.”
Harry
"Dechreuais ddod i Digging Deeside drwy'r Ganolfan Waith. Rwy'n caru'r cyd-dynnu ac mae'n rhywbeth i'w wneud. Mae'n dda i'ch corff a'ch meddwl."
"Rwyf wedi dysgu tyfu pethau, ac rwyf wedi gwneud rhywfaint o baentio. Mae arian y Loteri Genedlaethol wedi ei gwneud yn bosibl gwneud mwy o bethau. Mae'n dda i'r gymuned."
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol
“Bydd yr arian yn rhoi'r lle anadlu sydd ei angen arnon ni fel sefydliad i ddod yn ôl allan o'r pandemig ac i ddechrau cynhyrchu ein refeniw ein hunain eto drwy ein siop yn yr Wyddgrug. Rydyn ni mor ddiolchgar i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol oherwydd ei fod wedi golygu'r byd i gyd - nid yn unig i ni fel sefydliad, ond i'r bobl rydyn ni’n eu cefnogi."
Dysgwch fwy am RainbowBiz a Digging Deeside.
Mae chwaraewyr y Loteri Genedlaethol yn codi £36 miliwn bob wythnos ar gyfer achosion da ledled y DU. Dysgwch fwy am arian y Loteri Genedlaethol yng Nghymru.