Plannu hadau newid i bobl ifanc ag awtistiaeth
Ffurfiwyd Autism Life Centres, a leolir yn Rhondda, ar ôl i grŵp o deuluoedd sylweddoli bod angen darpariaeth benodol ar gyfer oedolion ifanc ag awtistiaeth yn Rhondda Cynon Taf (RhCT). Maent wedi bod yn cefnogi pobl ifanc sy'n byw gydag Awtistiaeth gymhleth ac anableddau dysgu eraill ers 2015.
Siaradom ag Amanda Evans, Cyfarwyddwr Gweithredol Autism Life Centres am eu gwaith, addasu i COVID-19, yn ogystal â'u grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol o £9,900 i'w helpu i ddatblygu prosiect Amser i Dyfu. Mae prosiect Amser i Dyfu yn brosiect a gynhelir ar randiroedd sy'n cael ei ddarparu diolch i gefnogaeth gan y gymuned leol.
Gwneud gwahaniaeth i bobl ifanc
“Mae gan ein defnyddwyr gwasanaeth anghenion eithaf cymhleth ac rydym yn darparu gwasanaeth pwrpasol lle mae oedolion ag awtistiaeth yn mynychu i ehangu eu sgiliau bywyd a chynyddu eu hannibyniaeth. Dechreuon ni redeg pob math o weithgareddau i bobl, gan gynnwys beicio a nofio hygyrch. Yn ddiweddar bu i ni sicrhau rhandir mawr sy'n darparu cyfleoedd ar gyfer profiad gwaith a datblygu sgiliau.
Y rheswm i ni ddechrau'r mudiad oedd bod teuluoedd yn pryderu nad oedd unrhyw ddarpariaeth benodol ar gyfer oedolion ifanc ag awtistiaeth yn ein hardal."
Helpu'r amgylchedd a gweithio trwy COVID-19
Gyda dealltwriaeth o'r hyn oedd bwysicaf i'w cymuned, a gyda chyfyngiadau'r pandemig yn dechrau lleddfu, bu Autism Life Centres wneud cais llwyddiannus am grant Arian i Bawb y Loteri Genedlaethol i barhau i ddatblygu eu prosiect.
“Rydyn ni wedi bod yn edrych ymlaen yn fawr at ddechrau ar ein prosiect rhandiroedd Amser i Dyfu. Rydyn ni'n rhoi'r profiad i'r oedolion ifanc rydyn ni'n gweithio gyda nhw wneud rhywbeth positif drostyn nhw eu hunain, eu cymuned, a'u hamgylchedd lleol. Mae gallu mynd allan wedi bod yn gadarnhaol iawn i'w lles, a gallu tyfu, cynaeafu a choginio'r bwyd sy'n cael ei dyfu yn y rhandir.
Un o'r pethau gwych am dyfu eich bwyd eich hun yw ei fod yn ffordd wych o fod yn gyfeillgar i'r amgylchedd. Rydym yn ceisio bod mor ymwybodol o'r amgylchedd ag y gallwn. Er enghraifft, rydyn ni'n creu ein compost ein hunain ar gyfer ein rhandir ac yn ein canolfan rydyn ni wedi plannu mawn blodau gwyllt. Nid oes rhaid iddo ymwneud yn unig â'r pethau mawr y gallwch chi eu gwneud, ond hefyd y pethau bach y gall grwpiau bach fel ein un ni eu gwneud.
Mae'r flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn her wirioneddol i'n pobl ifanc, ac mae wedi bod yn beth mor gadarnhaol gallu cychwyn ar ein prosiect Amser i Dyfu. Rydym yn ddiolchgar iawn ein bod wedi gallu dod o hyd i fan yn yr awyr agored i helpu gyda lles ein defnyddwyr gwasanaeth a'n staff, yn enwedig yn sgil pandemig COVID-19. Er mwyn sicrhau y gallem barhau i redeg ein gwasanaeth, bu i ni logi safle ychwanegol i weithio ohono er mwyn bodloni canllawiau cadw pellter cymdeithasol.
Rydyn ni'n rhedeg gwasanaeth allweddol i'n haelodau, ac mae wedi bod yn bwysig iddyn nhw a'u teuluoedd ein bod ni'n addasu ein gwaith i sicrhau bod ein gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ac yn hygyrch iddyn nhw. Roedd gwir angen ein cefnogaeth ar bob un o'n defnyddwyr gwasanaeth, ac roeddem yn teimlo bod gallu parhau â'r hyn yr oeddem yn ei wneud yn hanfodol bwysig iddynt. Mae wedi bod yn heriol dros y flwyddyn ddiwethaf ond mae staff wedi gweithio'n galed iawn i wneud iddo weithio, ac rydyn ni'n falch o'r hyn rydyn ni wedi'i gyflawni.
Bydd grant y Loteri Genedlaethol a ddyfarnwyd i ni yn helpu i ehangu ein gwaith trwy ein galluogi i recriwtio cydlynydd prosiect garddwriaethol. Rydym yn falch iawn o'i dderbyn ac i allu parhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'n defnyddwyr gwasanaeth a'u teuluoedd. Edrychwn ymlaen at allu parhau i ddatblygu ein gwaith ar y rhandir.”
Cefnogaeth gan y gymuned leol
Mae cael cefnogaeth gan y gymuned leol wedi bod yn agwedd allweddol ar ddatblygu prosiect Amser i Dyfu, ond mae Autism Life Centres hefyd wedi defnyddio’r gefnogaeth sydd ar gael iddynt o’r tu allan i Rondda Cynon Taf. Dyma Amanda yn egluro mwy:
“Rydyn ni wedi cael llawer o gyngor gan grwpiau megis Ffermydd a Gerddi Cymdeithasol, Cadwch Gymru’n Daclus ac Adfywio Cymru. Mae’r Men’s Sheds lleol wedi ein helpu ni yn yr un modd â Croeso i’n Coedwig - rydyn ni wedi bod yn ffodus iawn i ffurfio cysylltiadau gyda’r grwpiau hyn i gyd diolch i Interlink, y cyngor gwirfoddol sirol lleol. Mae yna rywbeth am y Rhondda sy'n meithrin ysbryd cymunedol anhygoel ac mae wedi bod yn wych dod i wybod mwy am yr hyn sy'n digwydd o'n hamgylch. Mae trigolion lleol wedi darparu help a chyngor yn ein rhandiroedd hefyd - mae yna gymuned leol hynod gyfeillgar a chefnogol.
Mae'r cyngor gan Cadwch Gymru’n Daclus ac Adfywio Cymru hefyd wedi bod yn amhrisiadwy i ni i helpu i ddatblygu ein gwaith - mae llawer o hyn yn newydd i ni ac rydym yn hynod ddiolchgar y gall mudiadau amgylcheddol a lleol ddarparu'r gefnogaeth honno i grwpiau fel ein un ni. Rydym hefyd wedi derbyn grantiau ar wahân sydd wedi ein helpu i wneud safle'r rhandir yn ddiogel i'n defnyddwyr gwasanaeth.
Dros y 12 mis nesaf, hoffem weld mwy o dwf gyda'n gwaith ar y rhandir a'n gwaith yn yr awyr agored yn gyffredinol.”
Derbyniodd Cwmni Buddiannau Cymunedol Autism Life Centres grant o £9,900 gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i ariannu Cydlynydd Prosiect i arwain eu prosiect rhandir Amser i Dyfu. Byddant yn darparu cefnogaeth bellach i ddatblygu eu prosiectau rhandiroedd sy'n darparu profiad gwaith i unigolion ag Awtistiaeth ac anghenion cymhleth.
Os hoffech ddarganfod mwy am wneud cais am grant y Loteri Genedlaethol i gefnogi'ch cymuned, ewch i tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding. Os hoffech drafod eich syniad am brosiect gyda'ch swyddog lleol, ffoniwch ni ar 0300 123 0735 neu e-bostiwch wales@tnlcommunityfund.org.uk.