Dod a’r nodau a arweinir gan y gymuned yn fyw
Diweddariad gan Tom Walters, Is-Gyfarwyddwr Effaith, ar y nodau a arweinir gan y gymuned a’r gwahaniaeth rydym am i’n harian ei wneud.
Un o bleserau mwyaf fy ngwaith yw helpu rhannu effaith y prosiectau gwych rydym yn eu cefnogi bob dydd. Ar yr un pryd, rwy’n frwd am roi sylw i’n hariannu, ein dylanwad a’n gwaith gyda’n partneriaid er mwyn cael hyd yn oed mwy o effaith dros y blynyddoedd i ddod.
Wrth wneud i hyn ddigwydd, mae ein blaenoriaethau wedi eu llywio gan ein pedair nod, sy’n cefnogi cymunedau i:
- ddod at ei gilydd
- bod yn amgylcheddol gynaliadwy
- helpu plant a phobl ifanc i ffynnu
- byw bywydau iachach.
Yn y Cynllun Corfforaethol a lansiwyd ym mis Mai, fe wnaethom ymrwymo i ddatblygu a gweithredu fframwaith i amlinellau’r nodau hyn mewn mwy o fanylder. Rydym wedi cyflawni hyn trwy weithio gyda chymunedau, deiliaid grantiau ac arbenigwyr ar y pwnc.
Mae’r canlyniadau rydym yn eu cyhoeddi heddiw yn nodi’r gwahaniaeth rydym am i’n hariannu ei wneud i bob un o’n nodau cymunedol - o ddarparu gofodau a gweithgareddau lleol a chynhwysol (helpu cymunedau i ddod at ei gilydd), i roi cychwyn cadarnhaol mewn bywyd i fabanod a phlant (helpu plant a phobl ifanc i ffynnu).
Mae’r fframwaith yn rhestr o ganlyniadau sy’n flaenoriaeth i bob nod, y bydd y rhan fwyaf o’r prosiectau rydym yn eu hariannu yn cyfrannu tuag atynt. Heddiw, rwyf yn falch iawn o rannu hwn gyda chi, a dod a phob nod yn fyw fel y gallwn weithio gyda chi i sicrhau’r canlyniadau gorau i gymunedau.
Defnyddio’r fframwaith nodau
Cymerwch gipolwg ar fanylion y nodau ac ein canllaw ymarferol i’ch helpu i ddeall y gwahaniaeth rydym am ei gyflawni, gan eich cefnogi gyda cheisiadau ariannu yn y dyfodol.
Gyda phob cais grant newydd, byddwn yn gofyn pa nod (os unrhyw un) y mae’r prosiect yn canolbwyntio arni, er mwyn ei gwneud yn haws i chi ddweud wrthym beth yw’r canlyniadau a fwriedir gan y prosiect. Byddwn yn gwneud hyn mewn ffordd gyflym a hawdd fel rhan o’r broses ymgeisio sydd wedi hen ennill ei phlwyf.
Rydym yn deall nad yw ein nodau yn bodoli ar eu pennau eu hunain - er y gall prosiect daclo unrhyw un o’r rhain, rydym hefyd wedi ariannu llawer o brosiectau sy’n cyfrannu at ganlyniadau cymunedol mwy nag un nod, heb dynnu oddi ar brif bwrpas y prosiect.
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio i’ch helpu chi i ddeall beth mae hyn yn ei olygu yn ymarferol. Rydym yn gobeithio bod hyn yn ei gwneud mor glir a syml a phosibl i ymgeisio am arian.
Pam fod hyn yn bwysig?
Rydym wedi ymrwymo i fod yn dryloyw am y gwahaniaeth rydym eisiau ei weld, a’r effaith rydym yn cynllunio i’w chael, gan fesur yr effaith hon mor effeithiol ac y gallwn ni.
Bydd y wybodaeth a gyflwynir drwy geisiadau yn ein helpu i gasglu data cadarn ar beth mae prosiectau yn ceisio ei gyflawni gyda’r arian. Bydd hyn yn ein helpu i barhau i gynllunio’r opsiynau ariannu mwyaf defnyddiol a greddfol - fel y gallwn ni wneud mwy o wahaniaeth a gwella canlyniadau i gymunedau. Mae hyn hefyd yn golygu y gallwn addasu ein cynnig yn haws er mwyn ymateb i beth y mae cymunedau ei angen yn y blynyddoedd i ddod.
Mae hyn yn sail i sut byddwn yn cefnogi prosiectau ym mhob rhan o’r Deyrnas Unedig, gan ddefnyddio ymagwedd sy’n seiliedig ar degwch i daclo anghydraddoldeb a chanolbwyntio ar le mae’r angen mwyaf.
Beth nesaf?
Gan ddefnyddio’r nodau fel conglfeini ein gwaith, rydym yn lansio portffolios ariannu newydd ledled y Deyrnas Unedig sy’n adlewyrchu anghenion ariannu ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, ac yn datblygu strategaeth effaith newydd rydym yn cynllunio i’w rhyddhau yn fuan yn 2025.
Ym mhob rhan o’r gwaith hwn, byddwn yn cefnogi cymunedau i adeiladu ar eu cryfderau. Byddwn yn cefnogi'r hyn sydd bwysicaf ar lawr gwlad, gan gynnwys buddsoddiad tymor hir i fynd i’r afael a heriau sydd wedi gwreiddio’n ddwfn. A byddwn yn ymdrechu’n barhaus i wella profiad y cwsmer, gan gynnig llwybrau ariannu syml a chyflym pan fo’n addas.
Edrychaf ymlaen at yr heriau sydd i ddod, a pharhau i ddatgloi'r potensial anhygoel sydd o fewn ein cymdeithas sif