Sut mae Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn hyrwyddo chwaraeon anabledd llawr gwlad
David Knott, Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, sy’n myfyrio ar Gemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris 2024 a sut mae ariannu’r Loteri Genedlaethol yn hyrwyddo chwaraeon llawr gwlad ac anabledd yn ein cymunedau.
Dywedodd Louise Forrest, Cadeirydd y Rhwydwaith Staff Anabledd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol: “Roedd cymryd rhan mewn chwaraeon yn rhoi achubiaeth i mi wrth dyfu i fyny gydag anabledd. Rwy'n falch iawn bod y Gronfa yn cefnogi llawer o brosiectau sy'n defnyddio chwaraeon fel modd i adeiladu cymunedau cryfach a galluogi pobl i wireddu eu potensial llawn.”
Ar ôl ennill dros 70 o fedalau yng Ngemau Olympaidd a Pharalympaidd Paris, mae'n deg dweud ein bod wedi cael haf anhygoel o chwaraeon. Rwyf bob amser yn gweld cyflawniadau'r Olympiaid a'r Paralympiaid yn ysbrydoledig a chalonogol. Maen nhw'n gwneud i mi fyfyrio ar yr effaith enfawr y mae ariannu’r Loteri Genedlaethol yn ei chael ar brosiectau chwaraeon ar lawr gwlad mewn cymunedau ledled y DU.
Rwy'n teimlo'n arbennig o falch bod Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol wedi dyrannu dros £113 miliwn ers mis Ebrill 2021 trwy bron i 1,500 o grantiau i ystod anhygoel o brosiectau'r DU sy'n cefnogi pobl ag anableddau trwy chwaraeon. O boccia i bêl-droed, hoci iâ i bysgota, a phob math arall o chwaraeon hefyd, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gall y prosiectau hyn wneud gwahaniaeth anhygoel i fywydau pobl.
Un prosiect o’r fath yw North Cornwall Riding for the Disabled Group, sydd wedi derbyn grant Loteri Genedlaethol o £10,000 i brynu ceffyl mecanyddol o’r enw ‘Elodie’. Mi fydd Elodie yn annog marchogwyr anabl i drio’r chwaraeon unwaith eto – gan fagu hyder, gwella ffitrwydd a dysgu sgiliau newydd.
Enghraifft arall yw'r PHAB Club yn Bradford, sy'n cynnig gweithgareddau hygyrch i bobl ifanc lleol sy'n byw gyda chyflyrau corfforol, anableddau dysgu, neu sy'n niwro-amrywiol (neu sydd â chyflyrau sy’n croestorri), gan gynnwys ogofa a chanŵio, yn ogystal â chriced, tenis, rownderi, a llawer mwy.
Wrth ddarllen tystiolaeth pobl fel mam Alex - mae Alex yn 12 oed ac mae ganddo anableddau corfforol a dysgu - mae effaith unigol grwpiau fel PHAB yn glir ar unwaith. "Mae'n caru gwersylloedd chwaraeon PHAB Club... Mae'r gwahaniaeth y maent wedi'u gwneud iddo yn enfawr. Mae wedi tyfu mewn hyder ac annibyniaeth ... Does dim all ei stopio nawr; wneith e roi cynnig ar unrhyw beth." Mae straeon o'r fath yn galonogol i'w clywed.
Yn ogystal â phrosiectau chwaraeon anabledd anhygoel, mae arian y Loteri Genedlaethol hefyd yn rhoi hwb enfawr i grwpiau a sefydliadau sy'n cefnogi cymunedau anabl ledled y DU.
Mae Deaf-initely Women yn brosiect sy'n cael ei redeg gan ac ar gyfer menywod byddar sy'n byw yn Nwyrain Canolbarth Lloegr. Mae'r grŵp gwych hwn yn defnyddio bron i £20,000 mewn ariannu’r Loteri Genedlaethol i helpu i rymuso menywod sydd wedi profi gwahaniaethu neu unigedd oherwydd eu byddardod neu eu colled clyw.
Dywedodd Rachel Shaw, Rheolwr Gweithrediadau gyda Deaf-initely Women: "Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, gallwn gynnig gwasanaethau eiriolaeth, cyngor a chymorth am ddim i wella lles a hyder menywod byddar, dall a thrwm eu clyw ledled Swydd Derby, Swydd Nottingham a thu hwnt."
Yn anffodus, mae gwahaniaethu yn rhwystr enfawr o hyd, gan atal llawer o bobl Fyddar ac anabl rhag byw'r bywydau y maent eu heisiau ac yn gwerthfawrogi. Rydym yn gwybod bod pobl anabl yn wynebu heriau enfawr yn ein cymdeithas, sy'n deillio o wahaniaethu ac anghydraddoldebau strwythurol eraill, sy'n gyfrifol am lai o gyfleoedd gwaith, ac yn arwain at fwlch cyflog rhwng gweithwyr anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Mae sbectrwm eraill o wahaniaeth, fel rhywedd, oedran a hil, hefyd yn croestorri ag anabledd gall gyfuno a chynyddu heriau sy'n wynebu person anabl.
Mae arian y Loteri Genedlaethol ar gyfer pawb, a chredwn fod cymunedau a sefydliadau yn gryfach pan all pawb gymryd rhan. Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, ein strategaeth - yn wir, ein harwyddair - yw: "Mae'n dechrau gyda chymuned". Mae hyn yn wir. Ond mae hefyd yn dechrau gyda ni; sut rydym yn dysgu ac yn tyfu fel sefydliad i sicrhau ein bod yn adlewyrchu ein gwerthoedd a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu.
Mae ein Cynllun Corfforaethol yn ymrwymo i sicrhau bod gweithlu'r Gronfa yn adlewyrchu ac yn cynrychioli amrywiaeth a phrofiadau cyfoethog y cymunedau yr ydym yn eu gwasanaethu ledled y DU, nawr ac yn y dyfodol.
Rydym yn gwybod bod angen i ni wella o hyd ar sut rydym yn cefnogi ein cydweithwyr anabl ac rydym yn gweithio'n agos gydag aelodau o'n Rhwydwaith Staff Anabledd. Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd ardystiedig ac yn bartner i sefydliadau fel y Fforwm Anabledd Busnes, sy'n darparu mynediad at adnoddau a chyngor, gan gynnwys llinell gymorth i reolwyr. Yn ddiweddarach eleni, byddwn yn rhannu ein Datganiad o Fwriad Ecwiti, Amrywiaeth a Chynhwysiant (EAC), sy'n nodi ein hymrwymiad i EAC fel cyflogwr ac fel ariannwr cymunedau mwyaf y DU, gydag ecwiti wrth wraidd ein strategaeth ariannu.
Cadwch lygad am ein Hadroddiad Bwlch Cyflog Anabledd sydd ar ddod, i ddadansoddi a deall y rhesymau systemig y tu ôl i anghydraddoldebau cyflog a wynebir gan gydweithwyr anabl, a'n cynlluniau i fynd i'r afael â hwy.
Mae cyflawniadau ein hathletwyr rhagorol o'r radd flaenaf yr haf hwn wir yn rhywbeth i'w ddathlu. Ac, yn sgil y Gemau, mae'n hyfryd teimlo'n rhan o'r bwrlwm sy'n ysgubo'r genedl. Rwyf bob amser yn rhyfeddu at bŵer chwaraeon i ddod â chymaint ohonom ynghyd. Ond pan mae'r seremonïau cau wedi dod i ben, mae'r confetti wedi setlo, ac mae'r cylch newyddion wedi symud ymlaen, beth sy'n weddill?
Mae’r prosiectau ysbrydoledig fel North Cornwall Riding for the Disabled Group, Bradford PHAB Club, a Deaf-initely Women yn trawsnewid bywydau pobl a chryfhau cymunedau, o ddydd i ddydd, diolch i arian y Loteri Genedlaethol. Nawr mae hynny'n rhywbeth i'w ddathlu, drwy gydol y flwyddyn.