“Fyn nhaith o fod yn Aelod o’r Tîm Llais Ieuenctid i fod yn Gynghorydd Llais Ieuenctid”
Dechreuodd fy nhaith mewn gwaith ieuenctid nol yn 2016 pan ddes i’n rhan o’r Mae Murray Foundation, a ariennir gan y Loteri Genedlaethol. Maen nhw’n elusen wych sydd â’r nod o ganiatáu i bobl o bob gallu allu cymryd rhan mewn gweithgareddau a phrofi’r byd mewn amgylchedd cynhwysol.
Rydw i hefyd yn gweithio gyda’r Newtownabbey Arts and Cultural Network (NACN), sefydliad sydd, gyda help arian gan y Loteri Genedlaethol, yn grymuso pobl ifanc i gymryd rhan mewn gweithgareddau creadigol.
Mae’r ddau grŵp yn golygu llawer i mi – maent wedi rhoi cymaint o gyfleoedd i mi y byddwn i fel defnyddiwr cadair olwyn efallai heb eu profi.
Mae fy mam hefyd wedi gwneud gwahaniaeth enfawr yn fy mywyd ac wedi bod yn ysbrydoliaeth arbennig. Mae ganddi sgoliosis, sydd wedi golygu heriau sylweddol gydol ei bywyd. Mae hygyrchedd wedi gwella ers pan oedd fy mam yn tyfu i fyny, ond mae llawer o ffordd i fynd.
Ar adegau yn fy mywyd, rydw i wedi methu a mynd i gyngherddau neu ddigwyddiadau gyda ffrindiau, methu mynd i mewn i adeilad oherwydd nad oedd yr anghenion hygyrchedd wedi eu bodloni. Dydw i ddim yn credu bod hynny’n deg nac yn iawn. Mae hyn yn rhoi’r cymhelliant i mi i dynnu sylw at y llefydd hyn a brwydro am well.
Yn 2022, ymunais a Thîm Llais Ieuenctid Gogledd Iwerddon ac mae’r positifrwydd a ddaeth hyn i fy mywyd wedi bod y tu hwnt i eiriau. Rydw i yn fwy positif yn gyffredinol; mae fy hyder wedi tyfu llwythi ac rydw i wedi gwneud ffrindiau oes.
Roedd y Tîm Llais Ieuenctid yn wir gatalydd er newid - galluogodd fi i gymryd rhan mewn trafodaethau ar beth mae pobl sydd ag anabledd yn ei brofi o ddydd i ddydd a helpu i ledaenu ymwybyddiaeth am ein hanghenion. Gallwn fod yn llais i bobl ifanc sydd ag anableddau nad oedd efallai â’r hyder i godi llais.
Ar ôl cael profiad anhygoel gyda’r Tîm Llais Ieuenctid, dechreuais ar gyfle newydd yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar, fel Cynghorydd Llais Ieuenctid. Rydw i wedi bod yn gweithio’n agos gyda Thîm Cronfa’r Deyrnas Unedig, ynghyd â thri o bobl ifanc eraill, i gefnogi’r penderfyniadau sy’n effeithio ar bobl ifanc a’u cymunedau.
Rydw i’n mwynhau dysgu am y broses o asesu ceisiadau am arian a byddaf yn cadw llygad am brosiectau sy’n gallu arddangos dealltwriaeth a chynrychiolaeth dda o Lais Ieuenctid. Mae dod a llais a phrofiad bywyd pobl ifanc i mewn mor bwysig i lywio gweithgareddau unrhyw brosiect ar gyfer pobl ifanc.
Un dydd, gobeithiaf fod yn Rheolwr Hygyrchedd ac mae fy rôl fel Cynghorydd Llais Ieuenctid yn adeiladu ar fy mhrofiad i fy helpu i wireddu’r uchelgais honno.
Katie
Ynglŷn â Chronfa’r Deyrnas Unedig
Mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cynnig symiau mawr o arian ar gyfer prosiectau sy’n bodoli eisoes ledled y Deyrnas Unedig. Mae’n mynd i’r afael a dwy o nodau strategaeth Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol hyd 2030: ‘cefnogi cymunedau i ddod ynghyd’ a ‘chefnogi cymunedau i helpu plant a phobl ifanc ffynnu’. Yn fwy penodol, mae Cronfa’r Deyrnas Unedig yn cefnogi prosiectau sy’n dod a chymunedau amrywiol at ei gilydd neu’n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio eu llais i ddylanwadu ar newid.