Does dim rhaid i chi ennill gwobr i gael eich ysbrydoli gan un
Shane Ryan, Uwch Gynghorydd Strategaeth i’r Prif Weithredwr yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn myfyrio ar feirniadu’r National Diversity Awards eleni.
Flynyddoedd lawer yn ôl, fel Prif Weithredwr eithaf newydd, cafodd elusen roeddwn i’n ei harwain ei henwebu am wobr National Diversity Awards (NDA). Roedden ni wedi gwirioni gyda hyn, gan rannu’r newyddion gyda’r sefydliad cyfan. Gallem ni weld y balchder yn ein gwaith, ac roedden ni’n obeithiol, er ddim yn disgwyl, y gallem ni ennill. Yn anad dim, roedden ni’n hapus iawn o’r cyfle. Pam? Achos fel llawer iawn o elusennau eraill sy’n gweithio’n galed mewn cymunedau bob dydd i ychydig iawn o ffws a ffwdan, roedden ni wedi arfer â’n gwaith yn cael ei anwybyddu achos nad oedd gennym yr amser na’r adnoddau i dreulio amser yn dweud wrth randdeiliaid posibl beth yr oeddem yn ei wneud. Mewn llawer o elusennau bychain, mae pobl jyst yn trio gwneud y gwaith a chreu newid mewn ffyrdd bach ond ystyrlon.
Aethon ni i’r seremoni, a gwyliodd fy nheulu ar y teledu. Roedden ni mor falch o fod yno gyda chymaint o bobl eraill anhygoel fel pan ddaeth tro ein categori ni, fe wnaethon ni anwybyddu’r ffaith eu bod wedi’n cyhoeddi ni’n enillwyr, a dechrau curo dwylo dros bwy bynnag oedd wedi ennill. Dim hyd nes yr oedd pawb yn yr ystafell yn edrych arnon ni y gwnes i sylweddol ein bod ni wedi ennill! Edrychais ar y sgriniau anferth eto i wneud yn siŵr, cyn codi i roi fy araith derbyn gwobr gyntaf erioed. Wnes i fyth anghofio’r teimlad hwnnw, y teimlad o rywun yn dweud “yndi” mae’r gwaith rydych chi’n ei wneud yn cael ei weld ac yn bwysig. Dyna beth sy’n wych am y National Diversity Awards. Does dim ots ganddyn nhw am ba mor adnabyddus yw eich sefydliad na pha mor fawr ydyw. Y brif flaenoriaeth yw beth mae eich cymuned chi’n ei feddwl o’ch gwaith ac mae hynny mor bwysig i’r rhai hynny sy’n aml wedi eu pardduo am y prosiectau a mentrau amrywiaeth y maen nhw’n eu rhedeg. Mae’n le i ddilysu a dathlu’r pencampwyr llawr gwlad hynny sy’n uno’r Deyrnas Unedig ac yn ein hatgoffa o’r math o fyd rydym am fyw ynddo; yn dilyn y terfysgoedd hil, roedd hyn yn teimlo’n enwedig o ddilys.
Felly, pan ofynnwyd i mi noddi’r gwobrau fel Cyfarwyddwr Gweithredol Byd-eang Avast, mi wnes. A phan ofynnwyd i mi fod yn feirniad yn fy rôl bresennol fel Uwch Gynghorydd Strategaeth i’r Prif Weithredwr yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, mi wnes. Eleni, cefais y pleser o gwmni Prif Weithredwr Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, David Knott. Er nad oedd David erioed wedi bod i’r gwobrau, roedd yn edrych ymlaen at fynychu, a chafodd mo’i siomi. Mae’r Eglwys Anglicanaidd yn Lerpwl lle cynhaliwyd y seremoni nid yn unig yn eglwys hardd iawn o’r tu allan, y mae ei thu mewn yn anhygoel, gydag ymdeimlad o obaith a disgwyliad a oedd yn cyd-fynd â’r goleuadau llachar a’r llestri disglair. Roedd y gymysgedd o grwpiau amrywiol o bob cwr o’r Deyrnas Unedig yn gwneud i chi deimlo’n ymlaciedig a diogel, wrth hefyd deimlo’n falch o fod yn gysylltiedig â phawb oedd yno.
Fel beirniad, roedd gen i ryw syniad o beth i’w ddisgwyl ar ôl darllen trwy nifer o straeon ysbrydoledig yn ystod y daith o benderfynu ar rai o’r enillwyr ar draws y categorïau. Ond roedd ymateb David i’r noson yn wych i’w weld, yn enwedig wrth i un o’r sefydliadau sefyll ar y llwyfan a diolch i Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol am eu cefnogaeth. Fe wnaeth fy atgoffa mai Cymuned YW’r man cychwyn, a bod strategaeth ddiweddar Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn gywir i ddefnyddio dull seiliedig ar degwch wrth ariannu. Atgyfnerthodd hefyd pam ei bod mor bwysig i ganolbwyntio ar y meysydd a’r bobl sydd â’r angen mwyaf.
Ar y cyfan, roedd yn noson emosiynol, yn enwedig pan gawsom gipolwg ar y teithiau caled roedd llawer wedi eu goddef er mwyn parhau i wasanaethu eraill. Mae hyn yn rhan anferth o fy rôl fel Uwch Gynghorydd Strategaeth yn y Gronfa: mae hi mor bwysig bod gan y Prif Weithredwr ddealltwriaeth gynhwysfawr o’r cymunedau amrywiol rydym yn eu gwasanaethu. Mae’n anodd dewis un sefydliad o blith pob un arall ar y noson, felly wna i ddim ceisio, ond roedd gweld plant niwroamrywiol mor ifanc â chwe blwydd oed yn canu i 600 o bobl, gyda’r math o hyder ar y llwyfan y buaswn i wrth fy modd yn ei gael, yn un o’r pethau mwyaf emosiynol i mi. Roedd wirioneddol yn llygedyn o obaith am ein dyfodol ac yn fy atgoffa bod dewrder, argyhoeddiad a hunangred yn oesol. Bydd unrhyw un sydd wedi bod i’r Gwobrau yn gwybod nad oes raid i chi ennill gwobr i gael eich ysbrydoli gan un.
Ynglŷn â’r awdur
Mae Shane Ryan yn Uwch Gynghorydd Strategaeth i’r Prif Weithredwr yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, gan chwarae rôl allweddol wrth yrru nod y Gronfa i gefnogi a grymuso cymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Mae ei yrfa yn rhychwantu rolau sylweddol yn y sectorau cyhoeddus, preifat ac elusennol. Mae hyn yn cynnwys cyfnod fel cynghorydd strategaeth yn DCMS ac fel Cyfarwyddwr Gweithredol Byd-eang Avast Foundation. Yn eiriolwr cymunedol ymroddedig, mae Shane hefyd yn ymddiriedolwr i nifer o sefydliadau ac yn weithgar yn ei gymuned ei hun, Mae ei gyfraniadau i’r sector wedi eu cydnabod gydag MBE yn 2023 am wasanaethau i elusennau a phobl ifanc.