Gwreiddio llais ieuenctid yn ein hariannu: cyfweliad gyda’n gwneuthurwyr penderfyniadau ifanc, Tia a Rachael
Yn gynharach y mis hwn, ymunodd Tia a Rachel, dwy o Gynghorwyr Llais Ieuenctid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol – â phanel gwneud penderfyniadau Cronfa’r DU am y tro cyntaf, fel rhan o’n hymrwymiad i sicrhau ein bod yn ariannu prosiectau sydd â’r nod o greu newid trawsnewidiol tymor hwy drwy helpu plant a phobl ifanc i ffynnu.
Fel aelodau o’r panel gwneud penderfyniadau, cafodd Tia a Rachael y cyfle i rannu profiadau bywyd gyda’r grŵp a helpu cydweithwyr ariannu i asesu ceisiadau yn ôl cryfder y dystiolaeth o gyfranogiad ieuenctid. Er ein bod ni fel ariannwr wedi ymrwymo i wreiddio llais ieuenctid ym mhopeth a wnawn, roedd arbenigedd Tia a Rachael yn arbennig o bwysig i Gronfa’r DU, cronfa sy’n canolbwyntio ei grantiau ar sefydliadau sy’n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio’u llais i ddylanwadu ar newid.
Meddai Danielle Walker Palmour, aelod o fwrdd Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol a chyd-aelod o banel gwneud penderfyniadau Cronfa'r DU : 'Eisoes, mewn dim ond un cyfarfod, mae Tia a Rachael wedi cael effaith aruthrol. Fe wnaethant hwyluso sgyrsiau da iawn am lais ieuenctid, ac annog y panel i feddwl sut y gallwn ni fel ariannwr ysgogi newid yn y systemau drwy ystyried pethau fel: pa systemau y mae pobl ifanc yn ymgysylltu fwyaf â nhw? Ai’r ysgol, eu cymuned agos, neu system ehangach? Maent wedi ein hannog ni i gyd i fyfyrio ar sut beth yw newid system mewn gwirionedd, a sut y gallai newidiadau bach nawr gael effeithiau crychdonni yn y dyfodol. Mae wedi bod yn bleser eu cael nhw yma gyda ni heddiw ac rwy’n edrych ymlaen at weld eu heffaith yn lledaenu ymhellach dros y misoedd nesaf’.
Dywedodd Joanne Rich, Pennaeth Llais Ieuenctid Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol : 'Mae ein Cynghorwyr Llais Ieuenctid yn dod â chyfoeth o brofiad ar ôl gweithio gyda ni ers nifer o flynyddoedd. Mae eu holl waith caled wedi arwain at Gronfa’r DU yn canolbwyntio ar brosiectau sy’n gallu dangos tystiolaeth cryf o lais ieuenctid yn eu ceisiadau – sy’n newid y gêm. Mae mor bwysig i ni gael llais ieuenctid wrth wraidd y gronfa hon – o asesiadau i wneud penderfyniadau, mae ein Cynghorwyr yn helpu i’n cadw ni’n atebol ac yn ein hatgoffa i wneud y penderfyniadau cywir a fydd yn cael effaith gadarnhaol a pharhaol ar genedlaethau’r dyfodol’.
Cawsom y pleser o gyfweld Tia a Rachael yn syth ar ôl i’r panel gwneud penderfyniadau ddod i ben. Darllenwch ein blog diweddaraf i gael gwybod rhagor am eu teithiau llais ieuenctid hyd yn hyn, eu rôl ar y panel, a’u cyngor i bobl ifanc sydd am gymryd rhan mewn mentrau llais ieuenctid eu hunain.
Helo Rachael a Tia! Cyflwynwch eich hun.
Rachael: Fy enw i ydi Rachael, a dw i’n un o Gynghorwyr Llais Ieuenctid y Gronfa a dw i hefyd yn aelod o banel Cronfa’r DU.
Tia: Tia- Zakura ydw i a dw i’n Gynghorydd Llais Ieuenctid ac yn aelod o banel Cronfa'r DU.
A wnewch chi ddweud ychydig wrthym am eich taith llais ieuenctid hyd yma. Beth sydd wedi eich ysbrydoli?

Rachael: Dechreuais fy nhaith llais ieuenctid sbel yn ôl, nôl yn 2013-2014. Y rheswm pam nes i ddechrau â llais ieuenctid oedd, fel person ifanc fy hun, ro’n i’n sylweddoli fod yna lawer o rwystrau i bobl ifanc - doedden ni ddim yn yr ystafell gyda’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau, a ro’n i eisiau bod yn rhan o’r newid hwnnw ac adeiladu sylfaen gadarn i bobl ifanc allu cymryd rhan yn y penderfyniadau sy’n effeithio arnyn nhw a’u bywydau.
Fy ysbrydoliaeth yn wreiddiol oedd fy ngweithiwr ieuenctid cyntaf. Chris oedd ei enw ac fe helpodd fi fel person ifanc i ddod o hyd i fy llais a fy angerdd. Ond fy ysbrydoliaeth fwyaf nawr ydi’r bobl ifanc di-ri ar hyd a lled y wlad. Dw i'n angerddol am fod yn gynrychiolydd cryf drostyn nhw a dw i am ddefnyddio fy llais i wella pethau iddyn nhw.
Mae Joe Rich, Pennaeth Llais Ieuenctid y Gronfa, wedi fy ysbrydoli'n aruthrol hefyd. Mae hi'n fentor ardderchog ac yn ysbrydoliaeth enfawr i mi.
Tia:
Dechreuais fy nhaith llais ieuenctid pan oeddwn tua 10 oed. Ro’n i’n rhan o brosiect oedd ddim yn mynd yn dda iawn, ac fel llawer o bobl ifanc yn teimlo bod y prosiect wedi effeithio'n negyddol arnyn nhw. Doeddwn i ddim eisiau i hynny ddigwydd eto ac felly, gyda chymorth fy rhieni, sefydlais fwrdd ieuenctid yn un o'r sefydliadau dan sylw a des i’n angerddol drosto. Roedd gen i ddiddordeb brwd ers hynny a thyfodd hyn, a dechreuais gymryd mwy a mwy o ran mewn gwahanol fyrddau, a mentrau gwahanol.
Wrth i mi gyrraedd fy arddegau, sylweddolais ei fod yn rhywbeth sy’n ganolog i fy ethos a fy nghredoau. Dw i wastad wedi bod yn berson sy’n mynegi ei theimladau’n rhydd ac yn uchel – wastad wedi hoffi siarad – felly ro’n i’n teimlo fy mod i eisiau codi pobl ifanc eraill a rhoi llais iddynt.
O ran yr hyn sy'n fy ysbrydoli, rhaid dweud fy mod wedi fy ysbrydoli'n aruthrol gan fy nhad. Mae'n gweithio yn y sector ieuenctid ac mae wedi gwneud cymaint dros bobl ifanc, yn benodol y rhai o gefndiroedd ymylol a lleiafrifoedd ethnig. Felly dw i'n meddwl fy mod i'n cael llawer o fy angerdd ganddo ef.
Dw i hefyd yn cael fy ysbrydoli gan y bobl ifanc dw i'n cael gweithio gyda nhw, ac sydd efallai - fel fi - ddim yn meddwl mai llais ieuenctid oedd y lle iddyn nhw, ond nawr maen nhw wir yn camu i’r adwy ac yn cael eu clywed. Mae'n fy atgoffa o pam dw i'n gwneud yr hyn dw i'n ei wneud ac yn fy ysbrydoli pan ydw i’n cwrdd â phobl ifanc eraill o'r un anian.
A wnewch chi ddweud ychydig wrthym am y gwahanol rolau rydych wedi'u chwarae ers ymuno â'r Gronfa.
Rachael: Yn ôl yn 2020, mi wnes i ymuno â’r Gronfa fel aelod o Bobl Ifanc yn Arwain . Roedd hwn yn banel cynghori lle roedden ni’n gweithio gyda sefydliadau a phrosiectau ieuenctid i'w cynghori ar sut beth ydi ymgysylltu da â phobl ifanc neu gynnwys ieuenctid mewn ffordd dda.
Ar ôl hynny, dechreuais eistedd ar baneli gwneud penderfyniadau, gan ddechrau gyda'r Gronfa Miliwn o Oriau yn ôl yn 2023. Yno, cynigiais fy mewnbwn fel person ifanc o ran pa brosiectau y dylem eu hariannu, a pha brosiectau a oedd yn edrych fel y byddent orau i bobl ifanc yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.
Erbyn hyn, dw i’n eistedd ar banel Cyngor Llais Ieuenctid i roi fy mewnbwn ar adolygiadau cymheiriaid a cheisiadau grant Cronfa’r DU. Fy mhrif rôl yw sicrhau bod ceisiadau’n dangos cyfranogiad ieuenctid da, gan fod hyn yn hynod bwysig wrth ddatblygu prosiectau a mentrau sy’n gwasanaethu pobl ifanc. Mae angen iddyn nhw fod yn rhan o'r broses er mwyn i'r allbynnau fod yn werthfawr iddyn nhw.
Tia: Gyda’r Gronfa, dechreuais gyda thîm Llais Ieuenctid Cymru i ddechrau. Ymunais ar ddiwedd rhaglen Meddwl Ymlaen felly mi wnes i fwy o ran yr agwedd gwerthuso ac adborth o’r rhaglen. Yna cefais fy recriwtio fel Cynghorydd Llais Ieuenctid i Gronfa'r DU, lle mae ffocws gwirioneddol ar lais ieuenctid.
Sut ydych chi'n meddwl y mae eich cyfraniadau wedi effeithio ar y Gronfa?
Rachael: Dw i’n meddwl bod ein heffaith wedi’i chydnabod ar draws y Gronfa, yn enwedig o ran dyfarnu grantiau a gwneud penderfyniadau ariannu. Mae’r swyddogion ariannu wir yn cynnwys llais ieuenctid yn eu penderfyniadau erbyn hyn, sy'n wych i'w weld.
Er enghraifft, mae timau Ariannu bellach yn rhoi sylw manwl iawn i'r adrannau llais ieuenctid mewn ceisiadau grant ac yn gwneud penderfyniadau ar sail pa mor gryf yw'r elfen llais ieuenctid. Mae hyn i gyd yn deillio o’r holl waith rydyn ni wedi’i wneud i roi llwyfan i bwysigrwydd llais ieuenctid yn y Gronfa.

Tia: Dw i’n meddwl bod ein cyfraniadau, yn benodol trwy’r gwaith Cynghorydd Llais Ieuenctid, wedi cael effaith wirioneddol ar sut mae cydweithwyr ariannu wedi gwerthuso ceisiadau. Mi wnes i lunio rhyw fath o fframwaith i weld sut y gallen ni fesur llais ieuenctid mewn ceisiadau, felly byddai gwahanol ddatganiadau’n cael eu graddio yn seiliedig ar brofiad bywyd y Cynghorwyr Llais Ieuenctid. Mae gennym ni i gyd brofiad unigryw iawn o sut beth ydi llais ieuenctid da a llais ieuenctid gwael, felly rydyn ni'n eithaf da am ddweud pan fydd pethau'n iawn neu ddim. Felly mae'r fframwaith dw i wedi ei chreu yn ffordd i ni archwilio pa mor ddilys ydi'r elfen llais ieuenctid mewn ceisiadau grant.
Rydyn ni hefyd wedi datblygu pecyn hyfforddi, a oedd ar gyfer aelodau panel Cronfa’r DU yn unig yn wreiddiol ond mae bellach yn cael ei gyflwyno i staff Lloegr yn ogystal â’r Pwyllgorau Gwlad, sy’n anhygoel oherwydd mae’n golygu bod ein heffaith yn lledaenu hyd yn oed ymhellach ar draws y Gronfa.
Dw i’n meddwl weithiau bod llais ieuenctid yn gallu teimlo ychydig fel ymarfer ticio blychau, ond dydi hi ddim yn teimlo felly yn y Gronfa. Mae ein cyngor yn cael ei gymryd o ddifri ac mae’r gwaith rydyn ni’n ei wneud yn cael ei wreiddio ym mhopeth mae’r Gronfa yn ei wneud, sy’n wych i’w weld.
Pam ydych chi'n meddwl ei bod mor bwysig cael pobl ifanc i gymryd rhan mewn gwneud penderfyniadau?
Rachael:
Dw i’n meddwl ei bod yn bwysig iawn cael pobl ifanc yn yr ystafell oherwydd ar ddiwedd y dydd, allwch chi ddim gwneud penderfyniadau gwybodus am bobl ifanc os nad ydynt yn cymryd rhan. Y nhw sy’n gwybod orau beth sydd ei angen arnynt, maen nhw’n gwybod pa gymorth a gwasanaethau maen nhw ei angen, ac mae gan lawer ohonynt brofiad bywyd sy’n amhrisiadwy. Os dydyn nhw ddim yn yr ystafell lle mae penderfyniadau'n cael eu gwneud, sut allwch chi wneud y penderfyniad gorau iddyn nhw? Yn syml, allwch chi ddim.
Tia: Wrth ystyried dyfarnu grantiau ac ariannu, mae'r penderfyniadau a wnawn yn cael effaith uniongyrchol ar bobl ifanc ledled y DU. Os nad ydi pobl ifanc yn cael eu cynrychioli ar ein byrddau, neu ar ein paneli gwneud penderfyniadau, yna sut allwn ni ddweud yn hyderus bod eu profiadau’n cael eu cymryd o ddifri?
Yn aml, bydd gennych chi bobl yn gwneud penderfyniadau ar ran pobl ifanc pan fydd y penderfyniadau hynny ddim yn effeithio arnyn nhw mewn gwirionedd, oherwydd dydyn nhw ddim yn rhan o'r gymuned honno. Mae hynny'n ei gwneud hi'n anodd iawn iddynt wneud penderfyniadau gwybodus. Dw i’n 20 mlwydd oed, felly dw i’n gwybod beth sy’n digwydd drwy fy mhrofiad bywyd fy hun a phrofiadau fy nghyfoedion, a dw i’n credu bod hynny’n gwneud gwahaniaeth enfawr oherwydd galla i roi darlun clir o sut beth ydi bod yn berson ifanc yn y byd sydd ohoni, a beth sydd ei angen arnom i ffynnu.
Beth hoffech chi ei ddweud wrth bobl ifanc eraill sydd am gymryd rhan mewn Llais Ieuenctid?
Rachael: Y cyngor gorau sydd gen i ydi i beidio â bod ofn codi llais. Dw i'n gwybod y gall fod yn frawychus bod yr unig berson ifanc mewn ystafell sy'n llawn uwch swyddogion yn gwneud penderfyniadau, ond maen nhw eisiau clywed yr hyn sydd gennych chi i'w ddweud. Felly peidiwch â bod ofn rhannu eich barn a chael eich clywed, oherwydd rydych chi'n bwysig.
Hyd yn oed os ydych chi’n meddwl nad ydi’r hyn sydd gennych i'w ddweud yn berthnasol, bydd rhywun yn cael rhywbeth gwerthfawr ohono. Felly fy mhrif gyngor fyddai i eirioli drosoch eich hun a chodi eich llais.
Tia: Mi fuaswn i’n dweud eich bod chi’n ei wneud yn barod! Mae'r ffaith eu bod yn ei ystyried ac yn codi llais yn enghraifft wych o beth yw llais ieuenctid yn ymarferol - mynd ag ef i'r lefel nesaf ydi hyn. I ddechrau efallai y byddent yn teimlo nad ydi hyn iddyn nhw - wnes i ddim gweld fy hun yn y byd hwn i ddechrau gan fy mod yn meddwl ei fod yn hynod o gorfforaethol! Ond beth ydw i wedi'i ddarganfod ydi ei fod i'r gwrthwyneb, ac mae yna ddigon o bobl allan yna sy'n hapus ac yn barod i wrando ar yr hyn sydd ganddyn nhw i'w ddweud.
Cofiwch, mae eich persbectif chi mor bwysig a gwerthfawr – ac mae cyfleoedd ar gael i chi gynrychioli cannoedd o bobl sydd â'r un profiadau bywyd â chi. Felly byddwch yn feiddgar, byddwch yn ddewr, a byddwch yn ddilys – mae dy le wrth y bwrdd yr un mor bwysig ag un pawb arall.
Ynglŷn â Chronfa'r DU
Mae Cronfa'r DU yn cynnig symiau mwy o arian ar gyfer prosiectau sy’n bodoli eisoes. Byddwn yn ariannu prosiectau sy'n helpu i ddod â chymunedau amrywiol ynghyd. O fis Gorffennaf 2024 byddwn hefyd yn ariannu prosiectau sy'n helpu plant a phobl ifanc i ddefnyddio'u llais i ddylanwadu ar newid.
Rhaid i bob prosiect:
- • fod o fudd i gymunedau ledled y DU (trwy weithio mewn gwahanol lefydd, neu drwy rannu dysgu rhwng gwledydd)
- • cynyddu eu heffaith trwy ehangu eu gwaith (drwy helpu mwy o bobl, neu wneud mwy i’r bobl y maent eisoes yn gweithio gyda nhw)
- • cefnogi pobl sy’n profi tlodi, anfantais a gwahaniaethu
- • helpu i wneud newidiadau sylweddol i wasanaethau neu systemau sy’n effeithio ar fywydau bob dydd pobl.
A bodloni un o'r nodau hyn:
- • gwella perthnasoedd rhwng pobl sydd â phrofiadau bywyd gwahanol
- • helpu pobl a chymunedau sy’n ei chael hi’n anodd cyfarfod wyneb yn wyneb i wneud cysylltiadau ystyrlon ar-lein
- • helpu pobl o bob cefndir i ddylanwadu ar ddyfodol eu cymunedau
- • helpu plant a phobl ifanc sy’n wynebu heriau penodol i newid y systemau sy’n effeithio arnyn nhw
- • helpu mwy o sefydliadau i gynnwys plant a phobl ifanc a gwrando arnyn nhw.
Mae'r dyddiad cau ar gyfer gwneud cais i Gronfa'r DU yn barhaus. I gael gwybod rhagor, ewch i dudalen we Cronfa’r DU.