Edrych yn ôl ac edrych ymlaen: Cymuned yn 2025
Mae mis Ionawr yn wastad yn teimlo’n llawn addewid – cyfnod i fyfyrio ar lwyddiannau a heriau’r flwyddyn a fu, ac i edrych ymlaen at beth rydym am ei gyflawni gyda’n cymunedau ledled y Deyrnas Unedig. Eleni, rydym yn hynod gyffrous i ddechrau ein blwyddyn lawn gyntaf gyda’n Cadeirydd newydd Dame Julia Cleverdon, DCVO CBE, a bydd ei hangerdd, gwybodaeth, a’i phrofiad yn sicr o’n helpu i wireddu ein huchelgais, sef ‘Cymuned yw’r man cychwyn’.
Edrych yn ôl: Cipolwg ar 2024
Roedd 2024 yn flwyddyn o newidiadau mawr a heriau sylweddol. Llywodraeth newydd i’r Deyrnas Unedig, ac etholiadau a datblygiadau byd-eang yn ailwampio’r tirlun gwleidyddol, wrth i gymunedau geisio mynd i’r afael â heriau o’r hinsawdd i dlodi i rwygiadau cymdeithasol. Ym mis Awst, dangosodd y terfysg hiliol ac Islamoffobaidd, atgasedd dybiai amryw oedd yn ein gorffennol, yr angen dybryd am fwy o gydlyniant cymunedol.
Ond eto, ymysg yr anawsterau hyn, roedd nifer dirifedi o resymau i fod yn obeithiol. Ym mhob cwr o’r Deyrnas Unedig, daeth pobl ynghyd i fynd i’r afael â heriau mwyaf ein cyfnod. O grwpiau llawr gwlad i sefydliadau cenedlaethol, dangosodd unigolion bŵer gweithredu ar y cyd i drawsnewid bywydau a chryfhau’r llefydd y maen nhw’n byw a gweithio.
Yng Nghronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol, fe wnaethom ddyfarnu dros £724 miliwn yn 2024. Cefnogodd yr ariannu hwn 13,000 o brosiectau, cyfartaledd o 8 grant bob awr, gyda grant cyfartalog o bron i £56,000. Aeth dros draean o’r grantiau hyn (38.8%) i ddeiliaid grantiau newydd, gan adlewyrchu ein hymrwymiad i gyrraedd y rhai nad ydynt wedi ymgeisio am ariannu yn draddodiadol. O brosiectau llawr gwlad bychain i fentrau sylweddol, mae’r buddsoddiad hwn wedi mynd i’r bobl a’r llefydd sydd ei angen fwyaf.
Gwyliwch ein crynodeb ariannu ar gyfer 2024
Roedd yn flwyddyn brysur, gyda rhai achlysuron pwysig yn creu argraff.
Cynllun Corfforaethol Newydd
Ym mis Mai fe wnaethom gyhoeddi ein cynllun corfforaethol i weithredu ar ‘Cymuned yw’r man cychwyn’, yr ehangiad mwyaf yn ein hariannu ers 30 mlynedd. Fe wnaethom addewidion cyhoeddus clir gan ofyn i’r cyhoedd ein dal i gyfrif am eu cyflawni dros y blynyddoedd i ddod. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Bydd mwy na 50% o'r holl grantiau yn mynd i gymunedau sy'n wynebu'r tlodi a'r anfantais fwyaf
- Bydd o leiaf 15% o'r arian yn mynd i brosiectau cynaliadwyedd amgylcheddol
- Ariannu i gyrraedd mwy nag 80% o ardaloedd ledled y DU
- Mae prif ffocws mwy na 90% o’r grantiau ar un o bedwar nod cymunedol: cefnogi cymunedau i ddod ynghyd, bod yn amgylcheddol gynaliadwy, helpu plant a phobl ifanc i ffynnu a galluogi pobl i fyw bywydau iachach.
Ac yn ddiweddarach, fe wnaethom lansio ein ‘fframwaith nodau’ sy’n torri ein nodau a arweinir gan y gymuned i lawr i allbynnau a grwpiau targed clir.
Llawrlwythwch ganllaw i’n Fframwaith Nodau
Newidiadau i’n hariannu, ledled y Deyrnas Unedig
Fe welodd 2024 ni’n plethu’r gwaith hwn i ddiweddariadau i’n hariannu, yn y Deyrnas Unedig gyfan ac mewn gwledydd unigol (Cymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon, a’r Alban). Mae’r diweddariad yn adlewyrchu ein hymrwymiad i’r pedair nod a arweinir gan y gymuned y cyhoeddom yn ein strategaeth, ‘Cymuned yw’r man cychwyn’. Mae’r gwahaniaethau a’r amrywiaethau cynnil yn bwysig: maent yn adlewyrchu blaenoriaethau ac amgylchiadau gwledydd ac yn rhoi cyfle i ddysgu, rhannu a deall ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig.
Er enghraifft, yng Nghymru, rydym yn gofyn i bob prosiect dystiolaethu effaith amgylcheddol eu gweithgareddau - ac mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn sicrhau ein bod yn gweithio tuag at yr un pwrpas, i feddwl am effeithiau hirdymor penderfyniadau a thaclo’r problemau graddfa fawr y mae ein cymunedau’n eu hwynebu. Rwy’n edrych ymlaen at weld yr hyn yr ydym yn ei ddysgu yno. Mewn llefydd eraill, mae enghreifftiau’n cynnwys yr Alban yn lansio Fair Life Chances a rhaglenni Gweithredu Cymunedol; ac yng Ngoledd Iwerddon, cefnogaeth i adeiladau cymunedol cynaliadwy. Yn Lloegr, byddwn yn canolbwyntio ar gynyddu llais a gwytnwch cymunedau a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi. Byddwn yn cefnogi cymunedau i feithrin grym, gan ddylanwadu ar y penderfyniadau sy’n eu heffeithio nhw, a phenderfynu le dylai’r arian fynd.
Gallwch ddysgu rhagor ar ein gwefan: https://www.tnlcommunityfund.org.uk/welsh/funding
Dathlu 30 Mlynedd o Effaith
Daeth llawer o hyn at ei gilydd ym mis Tachwedd 2024, a nododd penblwydd y Loteri Genedlaethol yn 30 oed. Dros y tri degawd diwethaf, diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £50 biliwn wedi cael ei godi i achosion da, ac rydym wedi dyfarnu dros £18 biliwn i 290,000 o elusennau a grwpiau cymunedol. Mae’n waddol eithriadol o gryfhau cymunedau a gwella bywydau. Roedd hwn yn foment ingol iawn a theimlais lawer o falchder am waith cynifer o gydweithwyr a phartneriaid dros y blynyddoedd hyn.
Wedi’r cyfan, os yw sefydliad am hedfan, mae’n rhaid iddo adnabod ei wreiddiau.
Gyda 30 mlynedd o effaith y tu cefn i ni, rydym yn adeiladu ar y gwaddol hwn i daclo’r heriau a’r cyfleoedd yn y flwyddyn i ddod.
Watch our celebration of the National Lottery’s 30th Birthday
Ymlaen i 2025 – Beth yw ein Blaenoriaethau?
1. Ariannu llawr gwlad a Galluogedd Cymunedol
Rwy’n anhygoel o ffodus i allu teithio ledled y Deyrnas Unedig yn fy rôl a gweld drosof fy hun waith rhyfeddol y prosiectau a ariannwn. O Land’s End i John o’ Groats, Belfast i Gaerdydd, allwch chi ddim gwadu pŵer ac arbenigedd cymunedau. A dyna ble y byddwch yn parhau i gael hyd i ni: yn cefnogi cymunedau lle mae ei angen, pan fydd ei angen.
Rydym yn atgyfnerthu ein hymrwymiad i ariannu llawr gwlad. Trwy ein rhaglen Arian i Bawb boblogaidd, rydym wedi cynyddu uchafswm y grant i £20,000 ac wedi ehangu’r cyfnod ariannu, gan alluogi grwpiau bach i gael effaith fawr. Yn 2024, fe wnaeth dros 10,000 o brosiectau gyflwyno cais i’r rhaglen wedi’i diweddaru, gan ddangos y galw am y gefnogaeth a’i werth.
Mae prosiectau fel Ray of Light Cancer Support yn Abercynon, Cymru, yn enghraifft wych o bŵer mentrau llawr gwlad. Gyda grant Arian i Bawb, mae’r grŵp yn darparu therapi garddwriaethol i bobl sy’n byw â chanser, gan feithrin ymdeimlad o gymuned a helpu unigolion i ymdopi a’u diagnosis. Mae’r dulliau bach, mentrus hyn wrth graidd ein nod o alluogi pobl i fyw bywydau iachach a hapusach.
Yn yr ysbryd hwn y byddwn yn symud ymlaen yn y flwyddyn i ddod. Buaswn yn disgrifio hyn fel y model ‘systemau dysgu dynol’. Dynol, gan ein bod yn dechrau gyda phobl a chymunedau, ac yn rhoi profiad bywyd wrth wraidd gwneud penderfyniadau. Dysgu, gan fod y cylch dysgu gyda chymunedau yn gofyn am ddysgu parhaus, addasu ac arbrofi. Systemau, oherwydd bod materion systemig a chysylltiedig fel iechyd a llesiant, cynhwysiad a hinsawdd yn gofyn am gydweithio a hyblygrwydd.
2. Youth Empowerment
Mae pobl ifanc yn ganolog i’n gwaith i greu dyfodol mwy teg. Yn Wolverhampton, mae The Way Youth Zone yn trawsnewid bywydau trwy ddarparu cyflogaeth a chyfleoedd creadigol i bobl ifanc mewn gofal. Dros y tair blynedd diwethaf, rydym wedi buddsoddi £7 miliwn mewn 180 prosiect ledled Wolverhampton, dinas sy’n wynebu rhai o’r dangosyddion mwyaf heriol yn y wlad o ran pobl ifanc.
Gan adeiladu ar fentrau Llais Ieuenctid, rydym wedi cyflwyno Cynghorwyr Llais Ieuenctid i hyfforddi cydweithwyr ariannu a chymryd rhan mewn paneli gwneud penderfyniadau. Yn 2025, bydd aelodau Pwyllgor Ieuenctid yn cael eu hanwytho i bwyllgor pob gwlad, gan sicrhau fod safbwyntiau pobl ifanc wrth wraidd ein gwaith. Fel amryw o arianwyr a sefydliadau yn y sector ieuenctid, bydd cyfrannu i’r Strategaeth Ieuenctid Cenedlaethol sydd wedi ei chynllunio ar gyfer 2025, a sicrhau datblygu datrysiadau ar y cyd â phobl ifanc yn flaenoriaeth.
3. Gweithredu Hinsawdd a arweinir gan y Gymuned
Yr argyfwng hinsawdd yw her fwyaf ein cyfnod. Yn 2024, fe fynegodd dros hanner (56%) o’r rhai ymatebodd yn ein Mynegrif Ymchwil Cymunedol bryderon am ei effaith yn lleol. Mae cynaliadwyedd amgylcheddol bellach yn un o’n pedair nod graidd, gydag o leiaf 15% o’n hariannu wedi ei neilltuo i brosiectau sy’n mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.
Mae prosiectau fel Middlesbrough Environment City yn dangos beth sy’n bosibl. Gyda dros £1.5 miliwn o ariannu Loteri Genedlaethol, mae’r prosiect yn lleihau ôl-troed carbon y dref drwy siopau eco untro, lleihau gwastraff bwyd, a rhaglenni llesiant sy’n seiliedig ar natur. Mae pobl ifanc ar flaen y gad o ran yr ymdrechion hyn, gan ddangos sut y gall cymunedau arwain y ffordd wrth daclo heriau byd-eang.
Yn 2025, byddwn yn edrych tuag allan i archwilio’r camau nesaf i adeiladu ar ein Cronfa Gweithredu Hinsawdd, gyda ffocws ar newidiadau systemig ac archwilio lle gellid mentro mwy.
4. Cryfhau Cydlyniant Cymunedol
Dengys ein hymchwil tra bod 55% o oedolion y Deyrnas Unedig yn teimlo’n falch o’u hardal leol, mae 45% yn credu nad oes gan drigolion ddigion o lais wrth lywio eu cymunedau. Rydym yn gweithio i newid hyn trwy flaenoriaethu buddsoddiad lle y mae ei angen fwyaf a grymuso a galluogi cymunedau i reoli. Trwy gydweithio gyda grwpiau lleol, elusennau, busnesau ac ymchwilwyr, rydym yn creu cyfleoedd i gymunedau ffynnu.
5. Defnyddio Deallusrwydd Artiffisial ar gyfer Pobl a Chymunedau
Rydyn ni bellach chwarter ffordd drwy'r 21ain ganrif. Os trawsnewidiodd chwyldroadau technolegol yr 20fed ganrif – diwydiannu ar raddfa fawr, cludiant, a thechnoleg gwybodaeth - sut mae pobl a chymunedau'n byw, mae'n gwbl glir mai deallusrwydd artiffisial (AI) fydd grym diffiniol y ganrif hon.
Mae AI yn cynrychioli cyfle trawsnewidiol i ddatgloi potensial dynol, ond mae ei weithredu'n llwyddiannus yn gofyn am ddull cynhwysol, moesegol a chyfrifol. Mae chwyldroadau technolegol blaenorol - o fecaneiddio diwydiannol i drawsnewid digidol - yn dangos bod rheoli newid yn effeithiol yn dibynnu ar ymgysylltu â chymunedau a sicrhau dosbarthiad teg o fuddion.
Mae ein Huned Arloesi wedi mabwysiadu dull strategol o archwilio galluoedd AI, gan gydweithio â thimau mewnol ac arbenigwyr allanol i nodi cyfleoedd ar draws ein fframwaith gweithredol. Rydym bellach yn symud ymlaen gyda chynlluniau peilot wedi'u targedu i ddilysu'r dulliau hyn a gwneud y gorau o'u gwerth i'n sefydliad a'r cymunedau rydym yn eu cefnogi.
Rydym yn parhau i ganolbwyntio ar ddefnyddio potensial AI tra'n cynnal ein hymrwymiad i arloesi cyfrifol sy'n gwasanaethu pob cymuned. Bydd y dull cytbwys hwn yn ein helpu i lywio cyfleoedd a heriau'r trawsnewid technolegol hwn.
Er mwyn ein harwain, rydym wedi cydweithio ag arbenigwyr i ddatblygu 10 Egwyddor AI sy'n seiliedig ar ein gwerthoedd. Mae'r egwyddorion hyn yn sicrhau bod AI yn cael ei ddefnyddio'n gyfrifol ac yn effeithiol, gan gadw bodau dynol yn wybodus, sicrhau tryloywder ac atebolrwydd, ac ymgorffori cynhwysiant, osgoi niwed a gwahaniaethu gyda dulliau sydd wedi’u dylunio’n ddiogel.
Yn gynnar yn 2025, byddwn yn rhannu'r egwyddorion hyn i gefnogi eraill—gan helpu'r naw o bob deg elusen nad oes ganddynt y gallu a'r arbenigedd i ddefnyddio AI ar hyn o bryd, wrth ddysgu ochr yn ochr â'r rhai sydd eisoes ar y daith hon. Drwy weithio gyda'n gilydd, gallwn sicrhau bod AI yn datgloi cyfleoedd, tegwch a budd i bob cymuned.
Edrych Ymlaen
Wrth i ni gamu i mewn i 2025, mae ein ffocws yn bendant: grymuso cymunedau i fynd i’r afael â’u heriau unigryw a manteisio ar eu cyfleoedd unigryw. Trwy fod yn arloesol, cryfhau ymdrechion llawr gwlad, a hyrwyddo datrysiadau mentrus sydd wedi’u harwain gan y gymuned, rydym yn barod i wneud hyd yn oed mwy o wahaniaeth yn y flwyddyn i ddod