Dros hanner miliwn o bunnoedd mewn grantiau Loteri Genedlaethol i 42 o gymunedau ar draws Cymru
Wrth i'r Gronfa Loteri Fawr gyhoeddi dros £592,549 o grantiau heddiw, bydd 42 o gymunedau'n dysgu eu bod wedi llwyddo gyda'u cheisiadau am grantiau y mis yma. Dyfarnwyd grantiau mwy sylweddol rhwng £10,001 a £100,000 i bedwar o brosiectau mewn tair sir: un yn Sir Fynwy, dau yng Ngheredigion ac un yng Nghaerdydd.
Rhoddwyd 38 grant ychwanegol gwerth hyd at £10,000 i gymunedau ledled Cymru. Mae'r grantiau hyn yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o ddyfarniadau ar gyfer y mis yma.
Llwyddodd Eglwys Glenwood i sicrhau grant datblygu cyfalaf o £50,000. Bydd y prosiect yn datblygu cynlluniau i greu gofod lles sy'n gwasanaethu cymunedau Llanedern a Phentwyn yng Nghaerdydd. Byddai hyn yn golygu ail-gynllunio adeilad presennol yr ymgeiswyr i gynnwys ystafelloedd i redeg cyrsiau a chynnig therapïau, crèche a chegin addysgu. Dros flwyddyn bydd y grant yn ariannu ffioedd proffesiynol i ddatblygu costiadau a chynlluniau.
Meddai Jane Francis: “Rydym ni yn Eglwys Glenwood yn hynod o gyffrous am, ac yn ddiolchgar am, y dyfarniad a'r cyfle i ddechrau datblygu Gofod Lles ar gyfer ein cymunedau, Llanedern a Phentwyn yng Nghaerdydd. Rydym eisiau tyfu a datblygu gweithgareddau sy'n helpu ac yn cryfhau ein cymuned wych i fod yn lle sy'n croesawu pawb ac yn ddiogel ar gyfer pawb!"
Ychwanegodd Derek Preston-Hughes: “Rydym yn falch o gefnogi Gofod Lles Eglwys Glenwood. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae'r Gronfa Loteri Fawr wedi dyfarnu grant datblygu cyfalaf o £50,000 i greu cynlluniau i ailddatblygu'r adeilad presennol. Mae'r grant yn rhoi'r cyfle i'r elusen ddatblygu eu cynlluniau i gynnig y profiadau a hyfforddiant y mae'r bobl sy'n eu defnyddio wedi nodi eu bod yn fwyaf pwysig iddynt. Mae'r elusen wedi ennyn diddordeb eu cymuned leol yn weithredol i gael gwybod beth mae'r bobl ei eisiau mwyaf, ac maent wedi ymgeisio i ni fel cam cyntaf datblygu gofod newydd i'w galluogi i gyflwyno hynny. Rydym yn edrych ymlaen at weld y cynlluniau.”
Gwnaeth Ymddiriedolaeth Savoy Trefynwy gais llwyddiannus am £90,000 i adnewyddu toiledau a'u gwneud yn fwy hygyrch, meddai Jane Harvey, Cadeirydd yr Ymddiriedolwyr: “Bydd y grant hwn yn galluogi ni i uwchraddio a chynyddu nifer y toiledau yn yr adeilad rhestredig hyfryd hwn i roi profiad sydd hyd yn oed yn well i'n cynulleidfaoedd pan fyddant yn ymweld. Rydym yn hynod o ddiolchgar i'r Gronfa Loteri Fawr am eu cymorth gyda'r prosiect hwn a fydd o wir fantais i bobl Trefynwy a'r cylch. Rydym eisoes wedi cael cefnogaeth gymunedol anhygoel gan y gymuned dros y prosiect ar ffurf rhoddion, gan gynnwys enillion o ras hanner marathon gan Louise Utleyouth”.
Yn siarad ar ran y Gronfa Loteri Fawr, meddai Derek Preston-Hughes: “Roedd yn bleser gennym gefnogi'r gwelliannau hyn yn adeilad eiconig Savoy Trefynwy. Ymgynghorodd Ymddiriedolaeth Savoy Trefynwy â thros 300 o bobl, a daeth yn glir i'r elusen nad oedd pobl yn hapus gyda'r diffyg toiledau i'r anabl ac ardal newid cewynnau. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gall y Gronfa Loteri Fawr roi grant o £90,000 tuag at wneud yr adeilad hyd yn oed yn well ar gyfer y grwpiau cymunedol sy'n ei ddefnyddio."
Ymgeisiodd Canolfan Deuluoedd Llandysul am grant o £95,203. Bydd y prosiect yn cynyddu lles teuluoedd a'r gymuned. Adeiledir ar gryfderau rhieni, gan rymuso nhw i ddod o hyd i atebion i'w sefyllfaoedd, ymarfer nhw mewn lle diogel a'u trosglwyddo i'w bywydau cartref yn y gymuned. Bydd sesiynau'n cael eu darparu i wella sgiliau iaith a lleferydd plant, ac ar gyfer rhieni sy'n ei chael hi'n anodd cynnal perthnasoedd oherwydd eu magwraeth anodd eu hunain.
Yn siarad ar ran y Gronfa Loteri Fawr, meddai Derek Preston-Hughes: Rydym yn falch o gefnogi Canolfan Deuluoedd Llandysul yn ei gwaith gyda theuluoedd lleol. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gall y Gronfa Loteri Fawr ddyfarnu grant o £95,203. Bydd ymwneud â'r prosiect hwn yn helpu lleihau unigedd a gwella iechyd a lles aelodau teuluoedd ac ar yr un pryd rhoi'r sgiliau iddynt y mae eu hangen i reoli eu perthnasoedd. Bydd rhieni'n gallu adeiladu ar eu sgiliau i fod yn arweinwyr yn eu cymuned."
Bydd Hen Ysgol Y Ferwig Cyf yn defnyddio'r grant o £65,700 i brynu'r hen neuadd ysgol yn Y Ferwig (Aberteifi) y maent yn ei lesio gan Gyngor Sir Ceredigion ar hyn o bryd. Bydd gwelliannau cyffredinol yn cynnwys gwaith gwrthleithder, gwresogi a gwydr gwell ar gyfer y ffenestri. Byddant yn cyflogi cydlynydd rhan-amser hefyd i helpu goruchwylio gweithgareddau presennol, yn ehangu'r nifer o weithgareddau newydd ac yn gwella defnydd cymunedol ymhellach.
Meddai Clive Davies, Cadeirydd Gweithgor Hen Ysgol Y Ferwig: “Bydd cael cefnogaeth gan y Gronfa Loteri Fawr yn gwneud gwahaniaeth mawr i'n nod o berchen ar ac uwchraddio'r adeilad hwn yn y pentref sy'n cael ei ddefnyddio'n helaeth. Yn awr gallwn wireddu'r cynlluniau ar gyfer dosbarthiadau ychwanegol, grwpiau diddordeb a chyfleusterau ar draws nifer o gymunedau a wasanaethir gan yr hen adeilad ysgol."
Nododd Derek Preston-Hughes, Rheolwr Ariannu gyda'r Gronfa Loteri Fawr: “Rydym yn falch o gefnogi Both Cymunedol Hen Ysgol y Ferwig. Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol gall y Gronfa Loteri Fawr roi grant o £65,700 fel bod yr adeilad yn cyfateb yn well i'r cynlluniau sydd gan y gymuned ar ei gyfer. Mae'r elusen a sefydlwyd i redeg y Both wedi treulio blwyddyn yn ennyn diddordeb y gymuned er mwyn dyfeisio cynllun i ddatblygu'r adeilad er budd pennaf y gymuned. Mae'r cynlluniau'n cynnwys mwy o weithgareddau ar gyfer pobl ifainc, hyfforddiant TG a phrosiectau cymunedol, rwy'n edrych ymlaen at ymweld â'r Both wrth iddo ddatblygu."
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru