Pedwar grant, pedwar syrpreis, wrth i freuddwydion gael eu gwireddu mewn 61 o gymunedau ar draws Cymru
Mae llawer o bobl yn breuddwydio am ennill y Loteri Genedlaethol ond dychmygwch sut y byddech yn teimlo wrth dderbyn grant gan y Loteri Genedlaethol dros eich cymuned? Y mis yma, mae grantiau gwerth cyfanswm o bron £3 miliwn wedi'u dyfarnu yng Nghymru. staff y Gronfa roi syrpreis i bedwar grŵp cymunedol gyda'r newyddion y bu eu ceisiadau'n llwyddiannus. Gwyliwch eu hymatebion gorfoleddus.
Dyfarnwyd £499,220 i Y Dref Werdd, Blaenau Ffestiniog i greu canolfan gymunedol. Ffilmiwyd Rheolwr y Prosiect, Gwydion ap Wynn gyda rhai gwirfoddolwyr. Roeddent yn meddwl eu bod yn cymryd rhan mewn ffilm am broses ymgeisio'r Gronfa, ond yn darganfod y bu eu cais yn llwyddiannus. Mae'r ffilm yn dangos Gwydion yn cael cymaint o syrpreis a gorfoledd na all siarad bron, nes ei fod yn y pen draw yn tynnu ei fenig gwaith, taflu nhw ar y llawr a chyhoeddi eu bod yn mynd i'r dafarn i ddathlu!
Roedd Monica Frackowiak o'r Ganolfan Cefnogi Integreiddio Pwylaidd yn Wrecsam mewn dagrau o lawenydd gan i ddysgu eu bod wedi llwyddo i dderbyn £9,900 godi cymaint o emosiwn arni. Gellir ei chlywed yn y ffilm yn dweud “I’m glad I didn’t put my makeup on.” Caiff yr arian ei ddefnyddio i sefydlu canolfan ar gyfer yr elusen a darparu gweithdai gwrth-fwlio ar gyfer plant ac oedolion Pwylaidd.
Daeth Siediau Dynion Y Rhyl â chriw mawr ynghyd gan gynnwys y Plismon Cefnogaeth Gymunedol Lleol (PCSO), y gwnaethant oll glapio a gweiddi'n uchel wrth glywed bod £90,582 wedi'i ddyfarnu iddynt i greu grwpiau a gweithgareddau newydd ar gyfer Menywod a Phlant yn eu Canolfan newydd.
Yn olaf, roedd Splott Community Volunteers wrth eu boddau i'r fath raddau y dechreuasant gofleidio ei gilydd a chwerthin, wrth gael gwybod y gallent brynu eu fan cludo wedi'i oeri gyda grant o £10,000 i fynd â bwyd i glybiau brecwast y maent yn eu rhedeg ar gyfer pobl ddigartref a ffoaduriaid.
Croesawyd grantiau o bron hanner miliwn o bunnoedd gan Your Space yn Wrecsam a Phonthafren yn Y Drenewydd hefyd. At ei gilydd, mae bron tair miliwn o bunnoedd wedi'i ddosbarthu ar draws Cymru y mis yma rhwng 62 o fudiadau, gyda grantiau gwerth cyfanswm o £2,979,632. Mae'r grantiau'n bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol a gallwch ddod o hyd i'r rhestr lawn o gymunedau sydd wedi derbyn dyfarniadau y mis hwn yma.
Gallwch weld pump arall o'r prosiectau rhagorol hyn yng Nghymru sydd wedi'u hariannu gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol. Dilynwch y ddolen hon a hyd at 14 Ebrill gallwch weld ffilmiau am y prosiectau a phleidleisio dros un ohonynt trwy Brosiectau'r Bobl. Gallent ennill £50,000 felly mae eich pleidlais yn wir yn cyfrif.
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru