Grantiau ar gyfer cleifion methiant Arennol ledled Cymru a phobl ifanc yn Abertawe a Threfynwy
Cafodd grantiau mwy daeth i gyfanswm o bron i £300,000 eu dyfarnu i dri grŵp y mis hwn: Swansea Mind Abertawe, Paul Popham Fund Renal Support Wales a Bridges Centre, Monmouth.
Cafodd grantiau mwy daeth i gyfanswm o bron i £300,000 eu dyfarnu i dri grŵp y mis hwn: Swansea Mind Abertawe, Paul Popham Fund Renal Support Wales a Bridges Centre, Monmouth.
Ledled Cymru, mae 56 sefydliad yn dathlu rhannu grantiau gwerth cyfanswm o £744,697 y mis hwn. Mae ein grantiau yn bosib diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol.
Mae prosiect Future Minds, sy'n cael ei redeg gan Swansea Mind Abertawe, wedi llwyddo i gael grant o £99,777 i adeiladu ar brosiect peilot lwyddiannus wrth weithio gyda phobl ifanc o 11 hyd at 21 sydd wedi cael eu hadnabod i fod angen mwy o gymorth emosiynol. Dywedodd un o'r bobl ifanc a dderbyniwyd gefnogaeth gan beilot Future Minds wrthym:
"Roeddwn yn gallu dweud unrhyw beth heb unrhyw ddyfarniad yn fy erbyn, wnaeth dynnu lot o bwysau oddi arna i"
Mae'r prosiect yn ymwneud â darparu pobl ifanc (mewn sefyllfaoedd ysgol uwchradd ac yn y gymuned) â gweithdai grŵp, gwybodaeth a chefnogaeth un i un. Bydd athrawon, gweithwyr cynnal a rhieni/gofalwyr yn cael eu hyfforddi i godi ymwybyddiaeth o faterion iechyd meddwl.
"Mae'r grŵp yma wedi helpu gyda straen ac wedi datblygu fy ngwaith a fy mherthynas a'n ffrindiau" ychwanegodd gyfranogwr ifanc arall.
Derbyniodd Paul Popham Fund, Renal Support Wales ddau grant y mis hwn. Maent am wario eu grant cyntaf o £99,175 dros gyfnod o dair mlynedd i ehangu gwasanaeth ymgyfeillio a chynghori'r sefydliad dros De Cymru, Dwyrain Cymru a rhannau o Ganolbarth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn hyfforddi cleifion aren a'u gofalwyr i ddod yn Wirfoddolwyr Ymgyfeillio sydd am siapio, dylunio a dosbarthu gwasanaeth sydd yn darparu cyngor, cefnogaeth a gwybodaeth i gleifion aren newydd a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n mynd drwy newid mewn amgylchiad. Maent am ddefnyddio eu hail grant o £9,700 i greu rhwydwaith o gefnogaeth i helpu cleifion ymdrin â'r problemau y maent yn wynebu, gan gynnwys fforwm ar-lein gall gael ei weld unrhyw bryd. Fe groesawodd Joanne Popham, Prif Weithredwr, Paul Popham Fund, Renal Support Wales y grantiau drwy ddweud:
"Rydym wrth ein boddau i dderbyn grant gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol i'n helpu datblygu ein Gwasanaeth Ymgyfeillio a Chynghori dros De, Dwyrain a rhannau o Ganolbarth Cymru. Mae'r grant am roi yr amser, arian ac adnoddau i ni allu darparu gwasanaethau cefnogaeth angenrheidiol i gleifion aren. Diolch."
Fe ymgeisiodd Canolfan Bridges a llwyddo i gael grant o £100,000 dros ddwy flynedd. Maent am ddarparu prosiect 'Quest Busters' yn Sir Fynwy gyda MAGIC (Monmouthshire All Ability Group for Inclusive Communities). Mae'r prosiect am ddarparu gweithgareddau lleol i blant a phobl ifanc rhwng 8 a 14 sydd ag anghenion ychwanegol mewn ardal diogel. Mae'r prosiect am weithio gyda 150 o blant a phobl ifanc i gael cyfle i gael profiadau gadarnhaol sy'n cael eu harwain gan anghenion pobl o fewn sefyllfa gymunedol. Mae 100 o deuluoedd hefyd am elwa o hyfforddiant a chefnogaeth. Dywedodd Mark Walton, Cyfarwyddwr Canolfan Bridges:
'Rydym wrth ein boddau ein bod yn gallu darparu y gweithgareddau hyn i'n pobl ifanc yn Sir Fynwy. Mae gallu cael mynediad i weithgareddau ystyrlon a galluogi pobl ifanc sydd ag anghenion ychwanegol i gael profiadau gadarnhaol yn rhywbeth na all gael ei isbrisio. Mae ein teuluoedd am elwa'n fawr o'r prosiect hwn, ac mae'r hygyrchedd o lefydd diogel i'w plant dyfu nid yn unig am hyrwyddo budd a lles, ond hefyd am ddarparu seibiant i ofalwyr rhiant a gofalwyr brawd a chwaer. Mae grantiau Cronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol yn galluogi inni barhau i gefnogi y bobl ifanc a theuluoedd yma ledled y wlad'.
Gallwch ddarllen y rhestr lawn o'r grantiau wedi eu dyfarnu y mis hwn gan ddilyn y ddolen hon a wneith eich cymryd i ddogfen pdf. Os ydych eisiau'r rhestr mewn ffurf gwahanol, Cysylltwch â ni drwy wales@tnlcommunityfund.org.uk
- Dyddiad cyhoeddi
- Rhanbarth
- Cymru